Bwyd o’r Tir – Tyfu ar gyfer y dyfodol. Ceisiadau ar gyfer Rhaglen 2026 ar agor NAWR!
Rhowch gynnig ar arallgyfeirio a meithrin cyfleoedd newydd ym maes garddwriaeth!
Trwy ymweliadau astudio sy’n arddangos cnydau llysiau a modelau busnes proffidiol, bydd y rhaglen hon yn ysbrydoli ffermwyr Cymru i arallgyfeirio i arddwriaeth ac i adeiladu busnesau llwyddiannus.

Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy daith astudio dros nos i ymweld ag amrywiaeth o fusnesau garddwriaeth. Bydd un o’r teithiau astudio hyn wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru, lle bydd arbenigwyr o’r diwydiant yn rhannu cyngor busnes ac ariannol hanfodol i’ch helpu i ddatblygu eich menter garddwriaeth lwyddiannus eich hun. Cynhelir sesiynau rhithwir ategol hefyd lle byddwch yn clywed gan arbenigwyr o’r sector ac yn derbyn cymorth pellach ar gyfer eich syniadau arallgyfeirio.
Dyddiadau’r rhaglen
Cyfarfod rhithwir | Ar-lein - Cyflwyniad i’r rhaglen | 10 Awst 6 - 7pm |
Sesiwn breswyl 1 | Sir Gâr / Ceredigion | 20 & 21 Awst |
Cyfarfod rhithwir | Ar-lein | 14 Medi 6 - 8pm |
Sesiwn breswyl 2 | Gogledd Cymru | 26 & 27 Medi |
Cyfarfod rhithwir | Ar-lein | 12 Hydref 6 - 8pm |
Gallwn hefyd drefnu sesiynau un i un ar-lein i’ch cefnogi gyda’r cynllun | ||
Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 5yp ar 27 Gorffennaf 2026. Peidiwch â cholli’r cyfle!
Os hoffech drafod y rhaglen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hannah Norman ar hannah.norman@mentera.cymru neu 07497 368 476.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 16 mlwydd oed. Nid oes angen profiad ym maes garddwriaeth i wneud cais.
Fel un o'r gwasanaethau hwyaf o fewn Cyswllt Ffermio, mae Agrisgôp wedi cynorthwyo ffermwyr a thyfwyr i ddatrys problemau bywyd go iawn ar y cyd ers 2003. Mae'n wasanaeth hyblyg, dan arweiniad ffermwyr, sydd wedi'i adeiladu o amgylch eich anghenion.
Mae Agrisgôp, sydd wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer aelodau'r grŵp, yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu syniadau, mynd i'r afael â heriau, a symud prosiectau ymlaen fel rhan o grŵp cefnogol.
A allai Agrisgôp eich helpu chi?
- Oes gennych chi syniad busnes neu arallgyfeirio newydd yr hoffech chi ei ddatblygu?
- Ydych chi'n gweithio ar rywbeth nad yw'n cyrraedd ei botensial?
- A fyddech chi'n elwa o gwrdd â ffermwyr neu dyfwyr o'r un anian?
- A allai rhannu syniadau a phrofiadau eich helpu i ddod o hyd i atebion?
Beth i'w ddisgwyl:
- Grwpiau bach (fel arfer 8–12 o bobl) dan arweiniad hwylusydd profiadol
- Cyfarfodydd wedi'u trefnu ar amser a lle sy'n addas i'r grŵp (yn bersonol, ar-lein, neu hybrid)
- Hyd grŵp hyblyg – o gyfarfod “gorchwyl a gorffen” untro i grwpiau a all gyfarfod sawl gwaith dros 18 mis
- Sesiynau anffurfiol, ymarferol yn canolbwyntio ar eich nodau
- Siaradwyr gwadd ar bynciau arbenigol
- Ymweliadau astudio â busnesau llwyddiannus eraill
- Costau cymwys wedi'u cynnwys, gan gynnwys lleoliadau, teithio, llety, siaradwyr a lluniaeth
- Hyfforddiant un i un dewisol rhwng cyfarfodydd
Os oes gennych chi a ffermwyr neu dyfwyr eraill o'r un anian syniad ar gyfer grŵp Agrisgôp, ewch i gyfeiriadur Arweinwyr Agrisgôp ar-lein i ddod o hyd i arweinydd yn eich ardal a chysylltu â hwy.
Darllenwch am y nifer o brosiectau llwyddiannus Agrisgôp a'r hyn y mae eraill wedi'i gyflawni, yma.
Am ragor o wybodaeth am Agrisgôp neu unrhyw wasanaethau Cyswllt Ffermio, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol.