Mae Fferm Pencedni wedi’i lleoli i’r de o Grymych a Bryniau’r Preseli ar gyrion pentref Glandwr yng Ngogledd Sir Benfro.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Tom Clare and Jacqui Banks
- Lleoliad:
- Pencedni, Glandwr
- Sector:
- Coedwigaeth
Trosolwg
Mae Fferm Pencedni wedi’i lleoli i’r de o Grymych a Bryniau’r Preseli ar gyrion pentref Glandwr yng Ngogledd Sir Benfro. Mae’r tyddyn yn enghraifft wych o ddiddordeb cynyddol mewn amaethyddiaeth adfywiol ac ymgorffori coed o fewn systemau ffermio drwy amaeth goedwigaeth. Mae’r tyddyn deg erw a reolir gan Tom Clare a Jaqui Banks eisoes wedi tyfu coed i gyd-fynd â’r system sy’n seiliedig ar borfa’n bennaf. Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar hyn, gan geisio gwella’r ddealltwriaeth ecolegol a’r defnydd ymarferol o egwyddorion amaeth-goedwigaeth ar y fferm. Bydd y prosiect yn archwilio’r elfennau canlynol:
Mae integreiddio rhywogaethau coed a llwyni amrywiol mewn systemau pori’n cynnig buddion posibl ar gyfer maeth anifeiliaid drwy flaenbori, gan ddarparu ystod ehangach o faetholion a chyfansoddion bioweithredol posibl o’i gymharu â’r borfa’n unig. Yn ogystal, mae “gwair coed” yn cynnig opsiwn ar gyfer porthiant wedi’i gynaeafu. Fodd bynnag, mae angen dealltwriaeth o broffiliau maeth gwahanol rywogaethau (gan gynnwys cyltifarau a rhywogaethau anfrodorol), y dulliau cynaeafu gorau, a’u heffaith ar fioamrywiaeth. Bydd effaith y dewis o rywogaethau ar fioamrywiaeth leol a chydbwysedd yr ecosystem yn ystyriaeth allweddol drwy gydol y prosiect.
Mae ffyngau mycorhisol yn chwarae rhan hanfodol o ran cymeriant maetholion y planhigion ac iechyd y pridd, gan ffurfio perthnasau symbiotig gyda gwreiddiau planhigion. Gallai ymchwilio i’r rhyngweithiadau hyn o fewn system
amaeth-goedwigaeth fferm Pencedni gynnig gwybodaeth er mwyn gwella ffrwythlondeb y pridd a gwytnwch planhigion.Mae biomas pryfed yn gydran hanfodol mewn ecosystemau iach, gan gyfrannu at gylchu maetholion, peillio, a darparu ffynhonnell fwyd ar gyfer bywyd gwyllt arall. Mae deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar boblogaethau pryfed o fewn y system amaeth-goedwigaeth a’u rôl o ran ffrwythlondeb y pridd yn hanfodol er mwyn gwneud y gorau o swyddogaeth yr ecosystem.
Mae’r prosiect yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r angen am waith ymchwil ar y fferm i deilwra arferion amaeth-goedwigaeth i gyd-destunau penodol, megis nodau amgylcheddol a rheolaeth unigryw fferm Pencedni. Y nod yw cynhyrchu gwybodaeth ymarferol i lywio penderfyniadau rheoli’r fferm at y dyfodol a chyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o amaeth-goedwigaeth adfywiol yng Nghymru.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Aer glân
- Dŵr glân
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
- Storio cymaint o garbon â phosibl
- Lliniaru perygl llifogydd a sychder
- Tirweddau naturiol gwarchodedig
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Ecosystemau cydnerth
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Archwilio rhywogaethau amrywiol, symbiosis mycorhisol, a biomas pryfed er mwyn gwella iechyd y pridd a lles anifeiliaid
Prif ganlyniadau:
Mae data’r prosiect yn profi bod system y fferm yn wydn ac yn uchel ei werth gyda mewnbwn isel.
- Porthiant uchel mewn protein o borthiant dail:
- Mae Black locust (27.85% Protein Crai) a Virginia fanpetals (24.70% Protein Crai) yn cynnig lefelau protein gwell na’r rhan fwyaf o weiriau, gan leihau gwariant ar ychwanegion protein masnachol (e.e. soi), ac arwain at arbedion cost uniongyrchol ac elw ar fuddsoddiad ar unwaith trwy fwydo maeth o ansawdd uchel o’ch tir.
- Mae coed tiwlip ar y fferm yn darparu ffynhonnell uchel o Fagnesiwm (4,650 mg/kg), gan ddarparu ffordd naturiol o atal tetanws, sy’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
- Priddoedd iach:
- Llwyddodd pob cae i gyflawni’r sgôr gorau posibl yn y Gwerthusiad Gweledol o Iechyd y Pridd (VESS), sef 1, a chanfuwyd 16 ffwng CHEGD. Mae’r lefel uchel o fioamrywiaeth, gan gynnwys cyfanswm o 455 o Unedau Tacsonomeg Gweithredol (OTU) Ffyngaidd, yn sicrhau strwythur da i’r pridd a lefel dda o gylchedu maetholion, gwarchod rhag sychder a lleihau’r angen am wrteithiau cemegol.
- Rheoli plâu yn naturiol a bioamrywiaeth:
- Mae presenoldeb 4 rhywogaeth (17 unigolyn) o chwilod y dom yn cadarnhau pori gweithredol a rheoli plâu yn naturiol. Mae ecosystem iach yn arwain at lai o gostau milfeddygol a mewnbynnau cemegol (e.e. llai o anthelminitigau). Mae’r fferm yn cefnogi lefel uchel o fioamrywiaeth (e.e. dros 50 o rywogaethau gwyfynod unigryw), gan osod eu cynhyrchion mewn sefyllfa dda ar gyfer marchnadoedd premiwm gydag ardystiad ecolegol.
Cefndir:
Mae tyddyn 10 erw Pencedni ger Crymych yn cael ei reoli gan Tom Clare a Jacqui Banks, gan ganolbwyntio ar amaethyddiaeth adfywiol ac amaeth-goedwigaeth. Nod y prosiect yw datblygu gwell dealltwriaeth o ecoleg a defnydd ymarferol o goed wrth eu hintegreiddio gyda’r borfa. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i rywogaethau coed a llwyni amrywiol er mwyn gwella lefelau maeth i dda byw trwy flaenborri a “gwair coed”, gan hefyd ystyried eu heffaith ar fioamrwyiaeth. Yn ogystal, bydd y prosiect yn archwilio rôl hanfodol ffyngau mycorhisol o ran iechyd y pridd a chymeriant maetholion, ochr yn ochr ag asesu biomas pryfed a chyfraniad hynny at swyddogaeth ecosystemau a ffrwythlondeb y pridd. Nod yr arbrawf hwn ar y fferm yw creu dealltwriaeth ymarferol er gyfer rheoli Pencedni ac amaeth-goedwigaeth adfywiol.
Diben y gwaith:
Mae’n canolbwyntio ar y tri maes allweddol canlynol i hybu bioamrywiaeth a hyfywedd hirdymor:
- Buddion maethol ar gyfer da byw o rywogaethau coed a llwyni amrywiol, gan gynnwys “gwair coed”, gan sicrhau bod maetholion yn cael eu cylchynu’n effeithlon.
- Rôl ffwng mycorhisol wrth ffurfio perthnasoedd symbiotig gyda’r gwreiddiau i wella iechyd y pridd a chymeriant maetholion.
- Asesu biomas pryfed a’i gyfraniad tuag at ffrwythlondeb y pridd a gwytnwch ehangach yr ecosystem.
Yr hyn a wnaed:
- Er mwyn deall potensial maethol rhywogaethau amrywiol, cynhaliwyd dadansoddiad o feinwe’r dail ar chwe rhywogaeth o goed a llwyni anfrodol. Roedd hyn yn canolbwyntio ar nodi opsiynau porthiant amgen a allai wella iechyd anifeiliaid, gostwng costau porthiant, a chynnig gwytnwch i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys amodau sychder. Bydd hyn yn cynorthwyo i lywio penderfyniadau’n ymwneud â phlannu at y dyfodol a sicrhau bod coed yn cael eu hintegreiddio er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer blaenborri naturiol, hunan-feddyginiaeth i dda byw, a phorthiant wedi’i gynaeafu.
- Cynhaliwyd profion pridd cynhwysfawr i ddadansoddi a nodi DNA ffwng mycorhisol, gan ddefnyddio prosesau biolegol naturiol i wella ffrwythlondeb y pridd a lleihau’r angen am wrteithiau synthetig.
- Defnyddiwyd pyllau pryfed a thrapiau gwyfynod i fesur biomas pryfed. Roedd hyn yn dangos pwysigrwydd pryfed y tu hwnt i’w rolau peillio a rheoli plâu, gan ein cynorthwyo i ddeall eu cyfraniad at swyddogaethau ecosystem, cylchynu maetholion a ffrwythlondeb y pridd.
Canlyniadau:
- Gwerth protein crai (CP): Roedd dadansoddiad o’r porthiant yn dangos mantais gystadleuol sylweddol o ran ansawdd y ddau borthiant gorau yn erbyn meincnod o wair nodweddiadol a phorthiant masnachol (Black locust - 27.85% Protein Crai a Virginia fanpetals - 24.70% Protein Crai, hyd at deirgwaith y Protein Crai a geir mewn gwair safonol). Mae’r lefel uchel hon o brotein naturiol yn cynnig opsiwn amgen uniongyrchol yn hytrach nag ychwanegion protein a brynir i mewn, gan arbed costau.
- Iechyd y pridd: Llwyddodd 100% o’r caeau a arolygwyd i gyflawni’r sgôr uchaf posibl yn yr Asesiad Gweledol o Strwythur y Pridd, sef 1, gan ddangos strwythur pridd heb ddirywio. Canfuwyd hefyd 16 o ffyngau allweddol CHEGD.
- Gwasanaethau ecosystem a lleihau mewnbynnau: Dangosodd asesiad bioamrywiaeth bresenoldeb 40 rhywogaeth unigryw o wyfynod a 4 rhywogaeth o chwilod y dom (17 unigolyn). Mae hyn yn dangos bod maetholion yn cael eu cylchynu’n weithredol a bod plâu’n cael eu rheoli’n naturiol. Mae prosesau naturiol effeithiol yn lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau costus megis gwrteithiau cemegol ac anthelminitigau, gan greu arbedion cost uniongyrchol a chynyddu apêl y fferm ar y farchnad ardystiad ecolegol.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Dechrau eich yswiriant porthiant: Plannu coed mewn modd strategol
- Gweithredu: Neilltuwch ardal fach ar gyfer plannu rhywogaethau coed/llwyni amrywiol, anfrodorol a brodorol, sy’n cynnig gwerth maethol uchel (fel y rhai a nodwyd yn nadansoddiad LEAF Pencedni).
- Newid meddylfryd: Ystyriwch goed fel cnwd porthiant sy’n arbed costau ac yn gallu gwrthsefyll sychder, ac fel ffynhonnell maetholion naturiol i’w flaenborri gan dda byw ac fel hunan-feddyginiaeth i dda byw, nid fel cysgod yn unig.
- Gwarchod ffwng Mycorhisol
- Gweithredu: Rhowch arferion amaethu ar waith sy’n golygu cyn lleied o drin â phosibl, neu ddim trin o gwbl, a mabwysiadwch strategaethau pori cylchdro neu bori wedi’i gynllunio er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar y pridd.
- Newid meddylfryd: Dylech gydnabod bod pridd iach yn llawn bywyd buddiol ac anweledig (ffyngau mycorhisol). Trwy leihau aflonyddu mecanyddol a mewnbynnau cemegol, mae’r “ffatri” hwn i gynyddu cymeriant maetholion yn naturiol a lleihau eich angen ar gyfer gwrtaith synthetig yn cael ei feithrin.
- Cynnal asesiad o sylfaen “Pryfed fel Biolegwyr” ar eich fferm
- Gweithredu: Defnyddiwch ddulliau syml, megis gosod trapiau pwll syml neu arsylwi gweithgarwch gwyfynod i ganfod gwaelodlin o ran biomas ac amrywiaeth pryfed mewn gwahanol gaeau.
- Newid meddylfryd: Ystyriwch bryfed fel gweithwyr hanfodol er mwyn cylchynu maetholion, yn hytrach na phlâu yn unig. Mae deall eich llinell sylfaen yn eich galluogi i reoli’r pori a dewis planhigion i gefnogi’r poblogaethau buddiol hyn yn weithredol, gan wella ffrwythlondeb naturiol y pridd.
- Mabwysiadu arferion Pori Manwl Gywir er budd Iechyd y Pridd a’r Coed
- Gweithredu: Addaswch eich cylchdro da byw i atal gorbori, sicrhewch gyfnodau gorffwys digonol er mwyn adfer y borfa, a defnyddiwch ffensys dros dro i reoli pwysau pori ar y coed sydd newydd eu sefydlu neu goed sensitif.
- Newid meddylfryd: Symud o bori parhaus i ddefnyddio da byw fel adnodd i wella iechyd y pridd a symbyliad biolegol. Mae hyn yn gwella symbiosis rhwng glaswellt, coed a ffwng.
- Monitro a mesur (Mesuriadau syml)
- Gweithredu: Arsylwch a chadwch gofnod o fesuriadau syml: iechyd da byw (llai o ddosio o ganlyniad i lai o faich llyngyr), gwella strwythur gweledol y pridd, a chyfradd twf eich coed porthiant newydd.
- Newid meddylfryd: Croesawu dull arbrofol o ffermio sy’n seiliedig ar ddata. Defnyddiwch arsylwadau eich fferm eich hun i fireinio arferion yn barhaus a gwneud y gorau o gynhyrchiant a hyfywedd hirdymor.