BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Graianfryn

Defnyddio allyriant ymbelydredd cyffroëdig (laser) i atal drudwy mewn siediau gwartheg

Mae fferm Graianfryn wedi wynebu plâu difrifol o ddrudwy ers sawl blwyddyn, gan effeithio ar iechyd da byw, diogelwch pobl, a phroffidioldeb y fferm.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf:
27 Awst 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Gerallt Jones
Lleoliad:
Graianfryn, Llanfachraeth
Sector:
Biff, Defaid

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Adroddiad terfynol

Canlyniadau allweddol: 

  • Am bob £1 a wariwyd, arbedodd y ffermwr £2.42. 

  • Gwelwyd gostyngiad o hyd at 90% ym mhresenoldeb drudwy wrth ddefnyddio’r laser, gan wella iechyd anifeiliaid heb unrhyw achosion o E.coli na salmonela wedi’u cofnodi. 

  • Ni welwyd unrhyw niwed i wartheg, bywyd gwyllt na phobl. 

  • Roedd gweithredu’n gynnar ym mis Medi’n effeithiol iawn o ran lleihau niferoedd drudwennod. 

Cefndir: 

Mae fferm Graianfryn wedi wynebu plâu difrifol o ddrudwy ers sawl blwyddyn, gan effeithio ar iechyd da byw, diogelwch pobl, a phroffidioldeb y fferm. Mae’r drudwy yn bwyta cyfrannau llawn egni o borthiant anifeiliaid, gydag aderyn nodweddiadol yn gallu bwyta oddeutu 1kg o fwyd bob 30 diwrnod, gan gyfrannu at golledion ariannol sylweddol. Mae gwaith ymchwil blaenorol ar ffermydd yn y DU wedi dangos bod drudwy yn bwyta hyd at 11.9t o borthiant mewn un gaeaf, gan ddwysau’r straen ariannol ar ffermydd. 

Mae eu hysgarthion hefyd yn peri risg o drosglwyddo pathogenau megis E.coli a salmonela. Ar gyfartaledd bob blwyddyn, cafwyd o leiaf 1 marwolaeth ac oddeutu 12 anifail angen triniaeth, ynghyd â gostyngiadau amlwg mewn cynnydd pwysau byw wrth iddynt wella. Mewn un flwyddyn arbennig o heriol, cafodd grŵp cyfan o 50 o wartheg eu heffeithio dros gyfnod o 4-6 wythnos, gan amharu’n sylweddol ar berfformiad ac allbynnau. 

Er bod drudwy yn cael eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, roedd y prosiect hwn yn gweithredu’n gwbl gyfreithlon drwy ganolbwyntio ar darfu ar eu hymddygiad gan ddefnyddio dull nad yw'n lladd. Nid yw technoleg laser Dosbarth 3B yn niweidio’r adar; yn hytrach, maent yn ystyried y pelydryn gwyrdd yn fygythiad, gan eu hannog i adael yr ardal heb achosi anaf na straen. Gan fod dulliau atal traddodiadol yn anaddas, bu’r prosiect yn archwilio’r dull diogel a chyfreithlon hwn o darfu ar ymddygiad drudwennod yn effeithiol. 

Mae’r llun isod yn dangos graddfa’r pla o ddrudwy ar fferm Graianfryn cyn y prosiect: 

 

Picture of sheep with starling infestation 

 

Diben y gwaith: 

  • Profi a allai technoleg laser Dosbarth 3B ar gylchdro atal drudwy rhag dod i mewn i’r siediau gwartheg er mwyn gwella iechyd anifeiliaid a lleihau colledion bwyd. 

Methodoleg: 

Gosodwyd y system laser ar 15 Tachwedd 2024 yn y brif sied wartheg, wedi’i hongian uwchben yr ardaloedd bwydo. Roedd yn gweithredu yn ystod golau dydd yn unig, gan newid y patrwm bob 1-1.5 munud i leihau’r tebygolrwydd y byddai’r adar yn ymgyfarwyddo â’r system. Defnyddiwyd Teledu Cylch Cyfyng (TCC) i fonitro’n barhaus drwy gymharu delweddau llonydd, er mwyn gwerthuso gweithgarwch drudwennod cyn ac ar ôl gosod y system. Roedd y dull monitro hwn yn angenrheidiol gan fod drudwennod yn gallu teithio hyd at 50 milltir rhwng safleoedd clwydo a bwydo ac maent yn addasu’n gyflym i ddulliau atal sefydlog. 

Cafodd nifer o batrymau laser deinamig eu treialu i darfu ar eu hymddygiad bwydo dethol, gan fod drudwy yn adnabyddus am dargedu cydrannau o’r dogn cymysg cyflawn sy’n llawn egni, yn enwedig starts a braster. Roedd addasiadau diogelwch yn rhan bwysig o’r gwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan osod yr unedau uwchben lefel llygaid y da byw a chyfeirio’r pelydrau at i lawr i ddiogelu lles yr anifeiliaid. 

Cafodd asesiad pwyso a oedd wedi’i gynllunio ei ohirio o ganlyniad i oedi’n gysylltiedig â gweithredu a mireinio’r system a gymerodd fwy o amser na’r disgwyl. Roedd hyn o ganlyniad i’r ffaith bod y defnydd hwn o dechnoleg laser yn newydd, ac nad oedd yn ddatrysiad parod i’r her. 

 

Addasiadau/Ystyriaethau 

  • Er mwyn lleihau’r risg y gallai’r adar ymgyfarwyddo â’r laser, mae angen amrywio ymddygiad y laser ymhellach – gan gynnwys amrywio llwybrau sganio, amser segur a chyfnodau rhwng cylchdro – ynghyd ag amseru addasol, stocastig sy’n cyd-fynd â’r cyfnodau lle gwelwyd yr adar yn cyrraedd. 
  • Archwilio a fyddai cynnydd bach yn allbwn y taflunydd (a/neu addasu dargyfeiriad y pelydrau i sicrhau arbelydru diogel o bell) yn gallu gwella perfformiad mewn amodau mwy llachar ac ar draws ardaloedd ehangach. Mae’n rhaid i unrhyw newid fod yn ddarostyngedig i adolygiad iechyd a diogelwch ffurfiol (switshis y gellir eu cloi gydag allwedd, modd i atal mewn argyfwng, parthau eithrio wedi’u diffinio, a darparu hyfforddiant i staff), ynghyd ag asesiad risg ysgrifenedig. 
  • Mae pob un o’r unedau laser a ddefnyddir yn dangos marc CE ac wedi’u categoreiddio fel taflunyddion laser allanol; byddai unrhyw uwchraddio yn y dyfodol yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda CE/UKCA ac yn Dilyn canllawiau gosod y gweithgynhyrchwyr. 
  • Mae hefyd yn hanfodol sicrhau bod ffermwyr yn ceisio arbenigedd technegol cymwys wrth gynllunio, gosod neu addasu systemau atal gan ddefnyddio laser. Mae cyngor proffesiynol yn sicrhau bod yr offer yn cael ei osod yn gywir, yn cael ei dargedu’n effeithiol ac yn cael ei ffurfweddu mewn ffordd sy’n sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a diogelwch ar y fferm. 
  • Mae hyfforddiant priodol ar gyfer pob aelod o staff sy’n gweithio ger y system laser yn bwysig. Dylai hyfforddiant gwmpasu gweithredu’r system yn ddiogel, gweithdrefnau mewn argyfwng, gwirio’r system, ymwybyddiaeth o beryglon, a chynnal a chadw’n rheolaidd. 

Canlyniadau: 

  • Mae delweddau llonydd a delweddau TCC yn dangos gostyngiad sylweddol yn niferoedd y drudwy, sy’n gyson â thystiolaeth flaenorol fod amhariad gweledol yn lleihau mynediad ar gyfer bwydo. 

 

Still photos of CCTV 2023

Delweddau llonydd TCC (2023)   

Still photos of CCTV 2025

Delweddau llonydd TCC (2025)

  • Ni welwyd unrhyw arwyddion gweledol o niwed i’r drudwy, y gwartheg nag unrhyw dda byw arall. 
  • Cyn gaeaf 2025, aeth y ffermwr ati’n annibynnol i osod dwy uned laser ychwanegol o’r un math a phŵer, gan gwmpasu bron i bob un o’r ardaloedd bwydo. 
  • Fodd bynnag, o ganlyniad i gynnydd mewn presenoldeb technoleg laser ers gosod yr unedau ychwanegol, nid oedd y drudwy yn mynd i mewn i’r ardal arbrofol i fwyta’r haidd. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd arsylwi na mesur eu hymddygiad bwydo, gan fod y dull atal mor effeithiol fel ei fod wedi gwaredu’r amodau gofynnol ar gyfer cofnodi colledion bwyd pellach. 

Elw ar fuddsoddiad 

  • Llwyddodd y system laser i sicrhau gostyngiad o 90% yn niferoedd y drudwy, gan ostwng costau bwyd yn sylweddol. 
  • Costiodd y laser £2,000 gan gynnwys gosod, gyda chostau rhedeg ychwanegol o £0.86 fesul diwrnod. 
  • Cyn gosod y dechnoleg laser, roedd drudwy yn bwyta gwerth oddeutu £60 o ddistyllwyr haidd ac India corn y dydd yn y sied besgi. 
  • Elw ar fuddsoddiad: Am bob £1 a wariwyd, roedd y ffermwr yn arbed £2.42 (yn seiliedig ar gadw anifeiliaid dan do am gyfnod o 120 diwrnod) 
  • Roedd y ffermwr yn adrodd bod y gostyngiad mewn gweithgarwch drudwy wedi gwneud y buddsoddiad mewn dyfeisiau atal gan ddefnyddio laser yn werth chweil. 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm: 

  • 1. Ceisiwch arbenigedd technegol cymwys er mwyn cynllunio a gosod technoleg laser 

  • 2. Aseswch ardaloedd lle mae drudwy yn clwydo neu’n bwydo’n rheolaidd. 

  • 3. Gosodwch ddyfais laser sy’n cylchdroi ar uchder heb unrhyw rwystrau. 

  • 4. Sicrhewch fod dyfeisiau cyd-gloi diogel yn diffodd y laser pan fydd staff yn mynd i mewn i’r adeilad. 

  • 5 Amrywiwch batrymau’r golau i atal drudwy rhag ymgyfarwyddo â’r laser. 

  • 6. Monitrwch berfformiad gan ddefnyddio Teledu Cylch Cyfyng ac addaswch y rhaglen fel bo’r angen. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.