Wrth baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Marc, Wynn a Bethan eisiau archwilio sut y gallan nhw fod yn gymwys ar gyfer y cynllun drwy gwblhau’r Camau Gweithredu Cyffredinol arfaethedig.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Marc, Wynn & Bethan Griffiths
- Lleoliad:
- 32 Dyffryn Foel, Llansantffraid
- Sector:
- Biff
Trosolwg
Wrth baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Marc, Wynn a Bethan eisiau archwilio sut y gallan nhw fod yn gymwys ar gyfer y cynllun drwy gwblhau’r Camau Gweithredu Cyffredinol arfaethedig.
Mae cadw cofnodion cywir yn un elfen yr hoffen nhw ei harchwilio, ond maen nhw am wneud hynny mewn ffordd nad yw'n cymryd gormod o amser i ffwrdd o redeg y fferm o ddydd i ddydd. Bydd y dechnoleg ddiweddaraf felly’n cael ei defnyddio i gasglu, storio a chyflwyno data mewn ffordd sydd o fudd i’r busnes ffermio. Bydd hefyd yn eu helpu i gydymffurfio â’r camau gweithredu cyffredinol arfaethedig, yn benodol;
- CGC 3 – Cynllunio Iechyd y Pridd
- CGC 5 – Rheoli Plâu yn Integredig
- CGC 11 – Rheoli Gwrychoedd
Bydd gwybodaeth megis dadansoddiad manwl o’r pridd, arsylwadau o’r ddaear i nodi meysydd o ddiddordeb, ynghyd ag arolygon gwirio yn y cae wedi’u hategu gan ddarlleniadau a alluogir gan GNSS lleol gyda thystiolaeth ffotograffig Geodagio, oll yn cael eu casglu gan ddefnyddio’r ap.
Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- gwneud y mwyaf o storio ac atafaelu carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- ecosystemau cydnerth
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Gorffennaf 2024
Nod y prosiect yw dangos sut y gall defnyddio technoleg i gasglu a storio cofnodion mewn perthynas â ‘Gweithredoedd Sylfaenol’ penodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (fel y’u cynigir ar hyn o bryd) ddarparu data defnyddiol a buddiol i’r ffermwr, yn ogystal ag arbed amser, gan hefyd sicrhau bod y data yn gywir a bod modd ei ddilysu fel a ganlyn;
- Defnyddio samplu pridd gydag achrediad ISO
- a fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni UA3
- Defnyddio dulliau arsylwi’r ddaear i ganfod meysydd o ddiddordeb, ynghyd â chadarnhau damcaniaethau arolygon caeau drwy ddefnyddio darlleniadau GNSS lleol gyda thystiolaeth ffotograffig â geo-tag.
- Bydd hyn yn cyfrannu tuag at gyflawni/cofnodi cydymffurfiaeth gydag UA11, UA10, UA4, UA7, UA8 a rheolau’r cynllun mewn perthynas ag isafswm cynefin a gorchudd coed
- UA3 – Cynllunio iechyd y pridd
- UA4 – Cnwd gorchudd aml-rywogaeth
- UA7 – Cynnal cynefin
- UA8 Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella
- UA10 – Pyllau a chrafiadau
- UA11 – Rheoli gwrychoedd
- Bydd hyn yn cyfrannu tuag at gyflawni/cofnodi cydymffurfiaeth gydag UA11, UA10, UA4, UA7, UA8 a rheolau’r cynllun mewn perthynas ag isafswm cynefin a gorchudd coed
Mae Cilthrew wedi bod yn gweithio gyda Farmeye i gasglu a chofnodi data at y dibenion uchod.
Data a gasglwyd hyd yn hyn:
- Asesiadau VESS - cynhaliwyd 168 asesiad ar draws y fferm
- Asesiad pryfed genwair (methodoleg yn Atodiad 1) – cynhaliwyd 168 asesiad ar draws y fferm
Data a gasglwyd hyd yn hyn:
Enghreifftiau o gyfrif pryfed genwair a chardiau adrodd asesiadau VESS
Gwybodaeth bellach:
Fideo o asesiadau VESS gyda throslais