BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Berry Hill

Treialu rhyng-gnydio india-corn gyda llai o fewnbynnau

Mae Jonathan Evans yn ffermio ar fferm Berryhill, ger Trefdraeth, Sir Benfro, ar y cyd â’i dad, Marc, lle maent yn godro 220 o wartheg sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf:
20 Mai 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Jonathan Evans
Lleoliad:
Marshfield, Newport
Sector:
Llaeth

Cynnwys

Trosolwg

Mae Jonathan Evans yn ffermio ar fferm Berryhill, ger Trefdraeth, Sir Benfro, ar y cyd â’i dad, Marc, lle maent yn godro 220 o wartheg sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Gan ganolbwyntio ar wella rhinweddau amgylcheddol a chynaliadwyedd bwydydd ar gyfer eu buches, eleni, byddant yn trin dau floc o dir ac yn hau 24.29 ha o india-corn gyda Ffa Dringo ar gyfer y fuches laeth, a 6.88ha arall o india-corn gyda Ffa Dringo a Blodau’r Haul ar gyfer stoc ifanc y fuches laeth. Trwy ychwanegu Ffa Dringo a Blodau’r Haul sy’n llawn protein at y cnwd india-corn, ceir potensial i gynyddu cynnwys protein cyffredinol y silwair sy’n cael ei gynaeafu.

Bydd y gwaith trin a phlannu’n dechrau ar ddiwedd mis Ebrill hyd at ganol mis Mai ar ôl torri’r rhygwellt porthiant. Bydd yr hadau india-corn/Ffa/Blodau’r Haul yn cael eu hau gan ddefnyddio dril hau aer cyflym manwl gywir Amazone Precea a gyflenwir gan eu gwerthwr peiriannau lleol, Riverlea. Bwriad Jonathan yw peidio â defnyddio unrhyw chwistrelli ar ôl drilio, ond yn hytrach i leihau’r baich chwyn drwy ddefnyddio hof arbrofol newydd wedi’i weithgynhyrchu gan Amazone; mae Jonathan wedi bod yn gweithio gyda Riverlea i ddod â’r hof i’r ardal ar gyfer y gwaith arbrofi.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Gwella effeithlonrwydd adnoddau drwy wneud y defnydd gorau o borthiant a dyfir gartref ar y fferm

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.