BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Dyfarniad Lefel 2 Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Defnyddio Plaladdwyr gan ddefnyddio Offer Chwistrellu Bŵm wedi’i osod ar Gerbyd (PA2)

Fel arfer yn gwrs hyfforddiant deuddydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. 

PA1 = Mae’r cwrs hwn yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer Rheoliadau Rheoli Plaladdwyr ac mae’n eich caniatáu i weithio heb oruchwyliaeth yn y diwydiant. Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer Cynnyrch Diogelu Planhigion (Approved Code of Practice for Plant Protection Products). Mae angen i chi gwblhau’r cwrs hwn cyn cwblhau cyrsiau ymarferol, yn enwedig yn ymwneud â defnyddio plaladdwyr.

PA2 = Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi mynychu cwrs hyfforddiant Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel a/neu feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd NPTC mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1), Uned Sylfaenol. Mae’r cwrs yn hanfodol i bob un sy’n ymwneud â defnyddio a chynnal a chadw offer chwistrellu gyda chwistrell hydrolig a chwistrell gylchol ar gnydau. Bydd y cwrs yn trafod sut i baratoi eich offer, sut i’w gynnal a’i gadw a sut i’w ddefnyddio a’i raddnodi’n gywir.
(Os hoffech chi gwblhau’r elfen weed wiper PA2F fel rhan o’r cwrs hwn, gofynnwch i’r darparwr).

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.