Cae prosiect india-corn
- Torrwyd yr india-corn ar 23 Hydref
- Fel y gwelir yn nhabl 1 isod, y cnwd mwyaf cynhyrchiol oedd y Ceirch y Gwanwyn a’r Meillion Coch a’r cnwd lleiaf cynhyrchiol oedd y llain heb ei thrin.
Tabl 1. Cynnyrch ffres (tunnell fesul hectar) o’r gwahanol leiniau.
Amrywiaeth | Cynnyrch ffres (t/ha) |
Plot 1- Libonus Westerwold a Rhygwellt Eidalaidd Abys | 38.7 |
Plot 2- Heb driniaeth | 30.1 |
Plot 3- Ceirch y Gwanwyn a Meillion Coch | 52.3 |
Plot 4- Meillion Coch Rhededog Cryf a Rhygwellt Eidalaidd Abys (Diploid) | 38.4 |
Plot 5- Rêp Porthiant Gorilla, Rhygwellt Eidalaidd Diploid a Rhygwellt Eidalaidd Tetraploid | 42.1 |
Plot 6- Ceirch y Gwanwyn a Rêp Porthiant | 37.3 |
Beth nesaf?
- Bydd y pridd yn cael ei asesu ymhellach ym mis Ionawr i gyflawni’r prawf N-min ac asesiadau Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS) ynghyd ag archwiliadau gweledol.
Cae Cnydau Gorchudd y prosiect
- Haidd oedd y cnwd blaenorol.
- Profwyd y cae i asesu lefelau nitrogen a deunydd organig yn y pridd. Roedd y profion yn dangos lefelau nitrogen da yn y pridd cyn plannu’r cnwd ac roedd y deunydd organig dros 4%.
- Cafodd y lleiniau eu llyfnu ar 23 Awst gydag oged pŵer, cafodd yr hadau eu gwasgaru gan ddefnyddio peiriant chwistrellu gwrtaith, cyn defnyddio oged pŵer i blannu’r hadau.
- Roedd y cnydau’n dechrau ymddangos o fewn wythnos ac maent wedi parhau i dyfu’n dda.
Beth nesaf?
Bydd y dadansoddiad maetholion, biomas a samplau N-min yn cael eu hailadrodd ym mis Ionawr. Er bod lefelau nitrogen a deunydd organig yn dda cyn plannu, mae Nitrogen yn gallu cael ei golli dros y gaeaf o ganlyniad i lawiad, ond gan fod rhai o’r lleiniau’n cynnwys rhywogaethau sy’n sefydlogi Nitrogen, bydd yn ddiddorol gweld a yw’r rhain wedi gwneud gwahaniaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.