BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

report, Document

Ty Coch Diweddariad ar y prosiect - Awst 2025

Ty Coch Diweddariad ar y prosiect - Awst 2025

Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf: 23 Mawrth 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 37.11 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Beth sydd wedi cael ei wneud?

Ar ôl plannu, cafwyd haf sych iawn ac nid yw’r india-corn wedi tyfu fel y byddem wedi’i obeithio.
Casglwyd profion meinwe ar ddechrau mis Mehefin i wirio am ddiffygion maeth. Roedd y canlyniadau’n dangos diffyg Magnesiwm, fel y gwelir yn Ffigur 1 isod. 

Ffigur 1. Dadansoddiad o india-corn ym mis Mehefin 2025.

DadansoddiadCanlyniadCanllawDehongliadSylwadau
Nitrogen* (%)4.633.5NormalLefel ddigonol.
Ffosfforws* (%)0.570.35NormalLefel ddigonol.
Potasiwm* (%)3.853NormalLefel ddigonol.
Calsiwm* (%)0.390.3NormalLefel ddigonol.
Magnesiwm* (%)0.180.25IselBLAENORIAETH AR GYFER TRINIAETH.
Sylffwr* (%)0.260.1NormalLefel ddigonol.
Boron* (ppm)4.67IselBlaenoriaeth isel. Gweler y sylwadau isod.
Copr* (ppm)77NormalLefel ddigonol.
Haearn* (ppm)44575NormalLefel ddigonol.
Manganîs* (ppm)73.840NormalLefel ddigonol.
Molybdenwm* (ppm)0.480.2NormalLefel ddigonol.
Sinc* (ppm)41.930NormalLefel ddigonol.

Yn dilyn y dadansoddiad, cafodd y cnwd ei chwistrellu gyda chynnyrch Croplift pro sy’n cynnwys magnesiwm. Gadawyd ardal reoli heb driniaeth er mwyn cymharu.

Yn dilyn chwistrellu a glawiad ar ôl cyfnod sych, roedd y cnwd yn edrych llawer gwell. Cynhaliwyd profion meinwe pellach wythnos ar ôl chwistrellu. Dangoswyd fod y cnwd yn isel yn y rhan fwyaf o faetholion. Roedd lefelau Sylffwr, Magnesiwm, a Manganîs yn isel iawn ac roedd lefelau Sinc a Nitrogen ychydig yn isel. Roedd lefelau Calsiwm yn isel iawn ond nid oedd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer y cnwd hwn.

Fe wnaethom ni benderfynu canolbwyntio ein hymdrechion ar gywiro’r maetholion a oedd yn dangos lefelau isel iawn yn y profion. Cafodd y cae ei chwistrellu o gwmpas 10 Gorffennaf gyda’r cynnyrch canlynol -

Mancozin - 1.25l/ha (yn cyflenwi’r Manganîs a’r Sinc)
Efficient N - 20l/ha (yn cyflenwi’r Nitrogen)
Epsotop - 5kg/ha (yn cyflenwi’r Magnesiwm a’r Sylffwr)

Beth nesaf?

●    Cynhaliwyd profion ar y cae unwaith eto ar 10 Awst (y llain gyda thriniaeth a’r llain heb driniaeth) ac rydym yn aros am y canlyniadau. 

Lawrlwytho'r ddogfen: 37.11 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.