BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

report, Document

Tanygraig Diweddariad ar y prosiect – mis Hydref 2025

Tanygraig Diweddariad ar y prosiect – mis Hydref 2025

Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf: 23 Mawrth 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 90.16 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Offer Prosiect Triniaeth Ddewisol wedi’i Thargedu (TST)

Bu Matthew Blyth o gwmni Blyth Livestock Advisor Services yn gweithio gyda ni ar y prosiect hwn i sicrhau bod y dechnoleg pwyso ac EID a oedd eisoes ar gael ar y fferm yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd er mwyn rhoi’r prosiect Triniaeth Ddewisol wedi’i Thargedu ar waith, ac i roi sylw i unrhyw broblemau technoleg a oedd yn codi. Roedd y rhestr offer yn cynnwys:

  • Tru-Test XR5000
    • Cell lwytho Gallagher
  • Darllennydd panel deuol Shearwell SDL150 D
  • Darllennydd stoc Shearwell X6
    • Yn rhedeg meddalwedd Shearwell Classic Farm Works
Image removed.

Ffigur 1. Offer ar fferm Tanygraig

Gyda’r system hon, cynhyrchwyd ffeil pwysau targed gan Matt Blyth ychydig ddyddiau cyn dod â’r ŵyn i mewn i’w pwyso, a oedd yn defnyddio data tywydd ac argaeledd porthiant i gyfrifo pwysau targed ar gyfer pob oen. Cafodd y wybodaeth ei llwytho i’r system Tru-Test XR5000 cyn pwyso.
Yn ystod y broses bwyso, roedd y sgrin yn dangos perfformiad pob oen o’i gymharu â’i bwysau targed ar unwaith, gan ddangos p’un a oedd yn cyflawni ei nodau Enillion Pwysau Byw Dyddiol (DLWG) ai peidio, ac a oedd angen triniaeth. Cafodd y system ei hintegreiddio gyda gwn dosio Te Pari sy’n graddnodi’n awtomatig gan addasu’r dos yn awtomatig yn seiliedig ar bwysau’r oen, gan felly roi’r driniaeth gywir i’r rhai a oedd ei hangen. Yna cafodd pob cofnod triniaeth unigol eu cofnodi ar feddalwedd Shearwell Farm Works a’r offer pwyso Tru-Test.

Mae manylion llawn y fethodoleg triniaeth ddewisol wedi’i thargedu, ynghyd ag arweiniad ynghylch yr offer a ddefnyddiwyd a sut y cawsant eu dewis ar gael yma.

Lawrlwytho'r ddogfen: 90.16 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.