BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

report, Document

Diweddariad ar Brosiect Crickie - Tachwedd 2024

Diweddariad ar Brosiect Crickie - Tachwedd 2024

Cyhoeddwyd gyntaf: 24 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf: 24 Mawrth 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 1.08 MB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?

●    Rhoddwyd ail wasgariad o wrtaith Humber Palmers 26-2-0-30.5 S (50kg N/ha) yng nghanol mis Gorffennaf ar gyfradd o 200kg/ha. 
●    Defnyddiwyd chwistrelli yng nghanol mis Gorffennaf i reoli chwyn llydanddail, pryfed gleision a chwistrell o elfennau hybrin ar y dail (gan gynnwys Boron a Sodium).
●    Rhoddwyd trydydd gwasgariad o Humber Palmers 26-2-0-30.5 S (50kg N/ha) ar Leiniau 3 a 4.
●    Cafodd pob llain hefyd eu trin rhag llwydni.

Roedd modd gweld gwahaniaethau amlwg yn sefydliad yr had wedi’i breimio o’i gymharu â’r had heb ei breimio drwy gydol y tymor tyfu. Un o brif nodweddion yr had wedi’i breimio oedd gwell eginiad, ac mae’n bendant bod hynny wedi digwydd yma. Wrth agosáu at fis Medi, nid oedd y gwahaniaeth mor arwyddocaol.

Image removed.

Tabl 1. Canlyniadau cynnyrch mis Tachwedd 2024

Triniaeth

Cynnyrch ffres a glân - Gwreiddiau

 

(t/ha)

Cynnyrch deunydd sych - Gwreiddiau

 

(t/ha)

Cynnyrch ffres a glân – 

Pennau

(t/ha)

Cynnyrch deunydd sych – Pennau (t/ha)

Cyfanswm cynnyrch DM /ha

(t/ha)

Nitrogen + had wedi’i breimio109.918.1356.06.1624.29
Nitrogen + had heb ei breimio98.6716.2865.37.1923.47
Wedi’i breimio yn unig91.3715.0852.45.7620.84
Heb ei breimio yn unig80.5813.2958.66.4519.74

 


Cynhaliwyd dadansoddiad o gynnyrch y lleiniau ar ddechrau mis Tachwedd cyn i’r gwartheg ddechrau pori. Gellir gweld y canlyniadau yn Nhabl 1.

Fel y gwelir yn nhabl 1, mantais amlwg o wasgaru Nitrogen ar ddiwedd y tymor a mantais had wedi’i breimio dros had heb ei breimio gyda’r lleiniau Nitrogen ac wedi’i breimio ar y brig gyda chyfanswm cynnyrch deunydd sych fesul ha o 24.29t/ha. 
Gan ddechrau ar 9 Tachwedd, bu 25 o wartheg (yn pwyso 400kg ar gyfartaledd) yn trosi’n raddol i’r cnwd dros gyfnod o oddeutu 3 wythnos. Roedd y cyfnod pontio’n bwysig er mwyn osgoi problemau megis asidosis.

Image removed.

Ffigur 3. Gwartheg yn pori’r betys porthiant.

Camau nesaf?

  • Bydd set arall o samplau’n cael eu casglu ym mis Rhagfyr er mwyn cynnal dadansoddiad o gynnyrch deunydd sych a phorthiant. Disgwylir y bydd y tywydd oer a’r eira yn effeithio ar y canlyniadau.
  • Bydd glendid y gwartheg yn cael ei fonitro trwy gydol y cyfnod pori. 
Lawrlwytho'r ddogfen: 1.08 MB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.