BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

report, Document

Crickie Farm Diweddariad ar y prosiect - Ionawr 2025

Crickie Farm Diweddariad ar y prosiect - Ionawr 2025

Cyhoeddwyd gyntaf: 24 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf: 24 Mawrth 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 35.45 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

  • Ailadroddwyd samplau porthiant a gwaed ym mis Hydref 2024. Tynnwyd gwaed o 4 anifail ym mhob grŵp da byw (Ŵyn, Mamogiaid, Lloi, Heffrod a Buchod)
  • Yn seiliedig ar y set ddiwethaf o ganlyniadau gwaed ac adroddiadau ar fwynau porthiant, mae canlyniadau'r defaid yn dangos her i lefelau uwch o sylffwr a molybdenwm gan ffurfio cyfansoddyn o'r enw thiomolybdate. Gall hyn arwain at ddefnydd gwael o egni a ffrwythlondeb gwael.
  • Roedd gofynion y ddiadell yn dangos bod eu lefelau seleniwm yn dda ond ïodin yn isel iawn felly rhoddwyd ychwanegiad ïodin y gellir ei chwistrellu, gyda'r ail brawf gwaed yn yr hydref yn dangos cynnydd mewn lefelau ïodin.
  • Gwelwyd lefelau isel o ïodin hefyd mewn gwartheg â'r set gyntaf o waed. Felly, cafodd y buchod a’r heffrod ddau bolws â lefel uchel o ïodin ganol mis Awst, ond ni ddangosodd ail set o brofion gwaed unrhyw gynnydd mewn lefelau ïodin. Penderfynwyd rhoi mwynau i wartheg yn y siediau gyda'u silwair.

Beth nesaf?

  • Bydd Crickie yn adolygu ei strategaeth gwrtaith ar gyfer 2025 er mwyn lleihau'r defnydd o gynhyrchion sy'n llawn sylffwr.
  • Monitro ffrwythlondeb trwy edrych ar ganlyniadau'r sgan beichiogrwydd
  • Rhoddir ïodin i’w arllwys ar y gwartheg tua 6 wythnos cyn lloia
Lawrlwytho'r ddogfen: 35.45 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.