BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Cilthrew

Gwndwn pori i wrthsefyll sychder

Yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf, fe wnaeth yr hafau cynyddol sych arwain Marc, Wynn a Bethan, sy’n ffermio yn Cilthrew, i ymchwilio i wella cynhyrchiant cyfran o’u tir serth sy’n dueddol o weld llai o dyfiant glaswellt am gyfnodau maith yn ystod yr haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
25 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Marc, Wynn & Bethan Griffiths
Lleoliad:
32 Dyffryn Foel, Llansantffraid
Sector:
Biff

Trosolwg

Yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf, fe wnaeth yr hafau cynyddol sych arwain Marc, Wynn a Bethan, sy’n ffermio yn Cilthrew, i ymchwilio i wella cynhyrchiant cyfran o’u tir serth sy’n dueddol o weld llai o dyfiant glaswellt am gyfnodau maith yn ystod yr haf.

Trwy dreialu gwahanol gymysgedd o hadau a thriniaethau, gobeithir y gallwn weld pa rywogaethau glaswellt, codlysiau a llysiau sy’n addas i’r caeau hyn ac a fydd ychwanegu cynnyrch sy’n cynnwys ffwng mycorrhizal a rhizobacteria, yn gallu cyfrannu at wella cyfanswm a safon y porthiant a dyfir a fydd, yn y pen draw, yn gyrru gwelliannau mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn G  ynaliadwy, gan gynnwys:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • cynnal a gwella’r ecosystem

Cliciwch ar y cymylau yn y fideo isod i ddechrau taith o amgylch y prosiect hwn ar fferm Cilthrew

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Ionawr 2025

Cefndir a chrynodeb

Mae argaeledd ac ansawdd porthiant yn dilyn cyfnodau hir o dywydd sych yn ffactor cyfyngol sylweddol i ffermwyr tir pori. O ganlyniad i’w strwythurau a’u dyfnder gwreiddio amrywiol, mae gwndwn aml-rywogaeth wedi dangos potensial ar gyfer gallu gwrthsefyll sychder yn well o’i gymharu â gwndwn confensiynol. Bu’r prosiect hwn dan arweiniad y ffermwr yn edrych ar argaeledd ac ansawdd llystyfiant ac ansawdd gwndwn cymysg drwy gydol tymor pori 2024.

Roedd triniaethau’n cynnwys tri gwndwn cymysg amrywiol, 1) llain reoli rhygwellt parhaol a meillion (PRG+C), 2) 2 godlys a 3 llysieuyn (L+H) a 3) gwndwn aml-rywogaeth (MS, 5 rhywogaeth o laswellt, 3 chodlys a 3 llysieuyn) (Tabl 1). Cafodd y lleiniau eu sefydlu ym mis Medi 2023 a’u pori’n ysgafn gan famogiaid gydag ŵyn at ddibenion rheoli ym mis Mai 2024, cyn eu pori gan ŵyn tew rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2024. Cafodd yr holl stoc eu cau allan ym mis Rhagfyr 2024 a chafodd y lleiniau eu gorffwys cyn tymor pori 2025.
 

Table 1: Composition of seed mixes (%)

    

PRG+C

   

L+H

  

Perennial ryegrass

Timothy

White clover

  

White clover

Red clover

Chicory

Plantain

  

87.5 

5.4 

7.1 

  

18.2 

27.3 

27.3 

27.3 

  

MS

    

Tall fescue

Perennial Ryegrass

Timothy

Cocksfoot

Meadow fescue

White clover

Alsike clover

Red clover

Chicory

Plantain

Yarrow

18.5

14.8

11.1

18.5

14.8

11.1

3.7

3.7

1.5

2.1

0.1

Tymor tyfu 2024

Mesurwyd argaeledd llystyfiant rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2024 ynghyd â chiplun o gyfansoddiad cemegol (protein crai, ffibr glanedol niwtral, carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr, lludw) gwndwn ym mis Gorffennaf 2024 cyn i’r gwndwn gael ei bori gan ŵyn tew. Er na welwyd cyfnodau hir o dywydd sych yn ystod tymor pori 2024, cafwyd cipolwg ar sefydliad a rheolaeth y gwndwn, a dangoswyd manteision ehangach gwndwn aml-rywogaeth mewn digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Bydd mesuriadau pellach yn cael eu casglu yn ystod tymor pori 2025.

Canlyniadau a thrafodaeth

Yn ystod tymor pori 2024, ni chafwyd unrhyw gyfnodau estynedig o dywydd sych na sychder. Yn hytrach, roedd y tymor pori’n anarferol o wlyb. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau’n rhoi cipolwg ar berfformiad y gwndwn cymysg amrywiol dan amodau anarferol o wlyb.

Dan amodau anarferol o wlyb, roedd llawer mwy o argaeledd biomas llystyfiant yn y lleiniau L+H ac ar draws y tymor pori o’i gymharu â’r llain PRG+C (p=0.043, Ffigur.1). Roedd hyn yn debygol o fod o ganlyniad i gyfansoddiad botanegol y gwndwn L+H a MS o ran presenoldeb rhywogaethau gyda dail mawr megis ysgall y meirch. Ni chasglwyd unrhyw ddata ar gyfansoddiad botanegol i gefnogi hyn, ond bydd data o’r fath yn cael ei gasglu yn ystod tymor pori 2025.  

 

Ffigur 1: Cyfanswm argaeledd biomas llystyfiant (kg DM ha)-1) over the grazing season (June to December).

 

Mesurwyd cyfansoddiad cemegol y gwahanol wndwn cyn iddo gael ei bori gan ŵyn tew i ddarparu gwybodaeth am yr ansawdd maethol. Gweler y canlyniadau yn Nhabl 2.

Tabl 2: Trosolwg o gyfansoddiad cemegol gwndwn ym mis Gorffennaf 2024, cyn i’r lleiniau gael eu pori gan ŵyn tew.  

 

PRG+C

L+H

MS

Deunydd sych (g kg-1)

211.0

134.2

177.0

Protein crai (g (kg DM-1))

172.5

137.9

164.9

Ffibr glanedol niwtral (g (kg DM-1))

509.0

347.0

443.0

Carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr (g (kg DM-1))

186.8

141.4

118.3

Lludw (g (kg DM-1))

83.0

117.0

99.0

Casgliad

Er na chafwyd cyfnodau hir o dywydd sych yn ystod tymor pori 2024, dangosodd y prosiect hwn fod y gwndwn L+H a MS wedi cynhyrchu llawer mwy o fiomas porthiant o’i gymharu â’r llain rhygwellt parhaol a’r llain reoli meillion. Bydd y prosiect hwn yn parhau yn ystod tymor pori 2025 i weld a fydd effeithiau tebyg yn cael eu harsylwi os ceir cyfnodau hir o dywydd sych.

Llinellau Amser Prosiect Blaenorol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.