BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cheryl Reeves, Woodcroft, Wrexham - Bîff

Cheryl Reeves
Math o fferm:Bîff, 140 erw, yn magu 400 o loi yn flynyddol
Lleoliad:Woodcroft, Bangor Is-coed, Wrecsam, LL13 0BH
Cyflog:Isafswm cyflog 
Contract:Dydd Llun i Ddydd Gwener (yn hyblyg gydag anghenion y busnes) 16 awr yr wythnos. 
Dyddiad cychwyn:  TBC
Llety:Dim

Rydym yn chwilio am 

  • Rhywun sydd â diddordeb mewn amaethyddiaeth, cynaliadwyedd a datblygu cymunedol. 
  • Parodrwydd i weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd. 
  • Dibynadwy, prydlon, ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau yn ofalus. 
  • Agwedd gadarnhaol, sgiliau gwaith tîm da, a'r gallu i weithio'n annibynnol pan fo angen. 
  • Yn gorfforol abl i ymdrin â gwaith llaw ac yn gyfforddus o gwmpas anifeiliaid. 
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da. 
  • Trwydded yrru yn ddymunol oherwydd lleoliad gwledig y fferm. 

Ynglŷn â CIC Agri-cation 

Mae CIC Agri-cation yn fenter gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n anelu at ailgysylltu pobl â ffermio, bwyd a natur. Wedi'i lleoli ar fferm weithredol, rydym yn darparu cyfleoedd i unigolion ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, a phrofi manteision bod yn yr awyr agored. Mae ein gwaith yn cefnogi cynaliadwyedd, lles a datblygiad personol trwy brofiadau amaethyddol ymarferol. 

Trosolwg o'r lleoliad gwaith 

Mae'r lleoliad gwaith hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion o gefndiroedd nad yw’n gefndir amaethyddol sydd â diddordeb mewn cael profiad ymarferol mewn gofal anifeiliaid a gwaith yn yr awyr agored. Byddwch chi'n dod yn rhan o dîm y fferm o ddydd i ddydd, gan helpu i ofalu am amrywiaeth o anifeiliaid a chynorthwyo i redeg gweithrediadau'r fferm yn esmwyth. 

Mae'r lleoliad gwaith yn gyfle gwych i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd, a chael cipolwg go iawn ar fywyd gwaith mewn lleoliad amaethyddol. Nid oes angen unrhyw brofiad ffermio blaenorol, dim ond brwdfrydedd, parodrwydd i ddysgu, a chariad at yr awyr agored. 

Prif gyfrifoldebau 

  • Cynorthwyo â gweithrediadau fferm dyddiol gan gynnwys bwydo, rhoi dŵr i dda byw a gofalu amdanynt. 
  • Cymorth gyda phlannu, cynaeafu a chynnal ffrwythau, llysiau a pherlysiau yn unol â chylchoedd tymhorol. 
  • Helpu i gynnal isadeiledd y fferm fel ffensys, llwybrau, twneli polythen, ac ardaloedd tyfu. 
  • Cyfrannu at arferion ffermio cynaliadwy fel compostio, rheoli gwastraff a chadwraeth dŵr. 
  • Cefnogi sesiynau addysgol a gweithgareddau cymunedol a gyflwynir ar y safle, gan helpu ymwelwyr i ymgysylltu â ffermio a chynhyrchu bwyd. 
  • Monitro iechyd cnydau ac anifeiliaid, adrodd am unrhyw broblemau i oruchwylwyr, a chynorthwyo â chadw cofnodion. 
  • Gweithio'n ddiogel ac yn gyfrifol yn unol â pholisïau iechyd a diogelwch Agri-cation. 

     

Yr hyn fyddwch chi'n ei ennill 

  • Profiad ymarferol mewn gofal anifeiliaid a rheoli fferm. 
  • Dealltwriaeth o drefn y fferm a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â hwsmonaeth anifeiliaid. 
  • Mwy o hyder a sgiliau gwaith tîm. 
  • Profiad o weithio o fewn menter gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. 
  • Cyfleoedd i symud ymlaen at rolau fferm mwy arbenigol neu hyfforddiant amaethyddol pellach. 

Eich mentor 

Cheryl Reeves, biocemegydd hynod brofiadol sy'n rheoli menter besgi 200 o wartheg bîff gyda'i gŵr, Andrew ger Bangor Is-coed. Mae Cheryl yn goruchwylio pob agwedd ar y fferm, o arwain staff a lles anifeiliaid i arolygiadau fferm, monitro maeth, a thasgau gweinyddol, a hynny i gyd wrth gydbwyso'r gofynion hyn yn arbenigol gyda busnes arallgyfeirio arobryn, sef CIC Agri-cation. Mae hi'n hyddysg wrth ddefnyddio technoleg fodern, gan gynnwys system magu lloi awtomataidd sy'n trin 400 o loi yn flynyddol, a meddalwedd EID ar gyfer rheoli perfformiad gwartheg. Yn ogystal, mae menter CIC Agri-cation, sy'n addysgu'r cyhoedd ac yn cefnogi unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol a diweithdra, yn tynnu sylw at angerdd dwfn Cheryl dros y diwydiant ac addysg. Gydag arbenigedd mewn rhagoriaeth weithredol, cynllunio busnes, ac iechyd a diogelwch, mae Cheryl yn awyddus i rannu ei gwybodaeth gynhwysfawr i helpu newydd-ddyfodiaid i lywio eu gyrfaoedd ymlaen yn llwyddiannus.

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.