Nod y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i fod yn rhan annatod o dîm HACCP mewn gweithgynhyrchu bwyd a diwydiannau cysylltiedig eraill, megis dosbarthu a storio. 

Mae'r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu bwyd ac sy’n meddu ar wybodaeth am beryglon a rheolaethau bwyd. Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae’n bwysig cynnal arferion da wrth gynhyrchu bwyd diogel.

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Deall pwysigrwydd gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd sy'n seiliedig ar HACCP
  • Y prosesau rhagarweiniol ar gyfer gweithdrefnau arlwyo sy'n seiliedig ar HACCP
  • Y peryglon a'r rheolaethau ar bob cam o'r gweithrediad arlwyo
  • Sut i roi diogelwch bwyd yn seiliedig ar HACCP ar waith
  • Sut i wirio gweithdrefnau sy'n seiliedig ar HACCP

Yn dibynnu ar y darparwr, bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal naill ai mewn dosbarth (BPI Consultancy) neu ar-lein (4 sesiwn 3 awr) o dan arweiniad tiwtor drwy Ganolfan Bwyd Cymru.

Bydd asesiad ar ddiwedd y cwrs. Byddwch yn cael tystysgrif ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

BPI Consultancy Ltd

Enw cyswllt:

Hayley Morris


Rhif ffôn:
01685 884175


Cyfeiriad ebost:
hayley.morris@bpigroup.co.uk;


Cyfeiriad gwefan:
www.bpigroup.co.uk
 


Cyfeiriad post:
Office 8, Aberdare Enterprise Centre, Depot Road, Aberdare, Rhondda Cynon Taf, CF44 8DL
 


Ardal:
Cymru gyfan

Canolfan Bwyd Cymru

Enw cyswllt:
Tabby Roberts


Rhif Ffôn:
01545 572214


Cyfeiriad ebost:
Tabitha.Roberts@ceredigion.gov.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.foodcentrewales.org.uk


Cyfeiriad post:
Parc Busnes Horeb, Llandysul, Ceredigion SA44 4JG


Ardal:
Cymru gyfan


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Sgiliau Ymarferol ar gyfer Plygu Perthi
Cwrs hyfforddiant ymarferol dros ddeuddydd, gyda thystysgrif ar
ATV gan gynnwys llwythi ac offer sy'n cael ei lusgo (Eistedd arno)
Fel arfer, cwrs hyfforddiant undydd ac asesiad yn ddibynnol ar
Cyflwyniad i Reoli Llyngyr a Chyfri Wyau mewn Carthion i Gynhyrchwyr Defaid
Dyma gwrs hyfforddi undydd gyda thystysgrif am ei gwblhau. Ydych