

| Math o fferm: | Bîff, Defaid a Thir Âr |
| Oriau gwaith: | 08:00 - 17:00, dyddiau fesul wythnos i’w drafod |
| Lleoliad: | Fferm Newton, Aberhonddu |
| Cyflog: | I’w drafod |
| Cytundeb: | Lleoliad gwaith 6 – 12 wythnos |
| Dyddiad dechrau: | Mis Mawrth 2027 yn ddelfrydol |
| Llety: | Oes |
Disgrifiad swydd
Dyma gyfle lleoliad gwaith cyffrous i newydd ddyfodiad ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a magu profiad drwy weithio ar fferm bîff a defaid yn ystod y tymor lloia ac ŵyna prysur. Byddai’r cyfle hwn yn addas ar gyfer unigolyn uchelgeisiol sy’n dymuno magu profiad gwerthfawr a dysgu wrth weithio.
Eich rheolwr
Mae Richard yn gefnogwr brwd o systemau ffermio’n seiliedig ar laswellt, ac o ganlyniad, mae’r fferm yn datblygu model ffermio adfywiol mewnbwn isel sy’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy. Mae Richard yn gyfathrebwr da, ac yn mwynhau helpu pobl i ddatblygu a gwella eu gweithleoedd. Mae’n ffermwr profiadol sy’n teimlo’n angerddol dros ffermio a gwaddol hirdymor y diwydiant, ac mae’n awyddus i annog pobl ifanc i ymuno â’r diwydiant. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan ei wybodaeth, ei brofiad personol a’i frwdfrydedd. Mae Richard a’i fab, Tudor, yn canolbwyntio ar dyfu a rheoli glaswellt, gan ddefnyddio pori cylchdro a thyfu cnydau porthiant.
Ffeithiau am y fferm
- 120 o wartheg Stabiliser
- 1100 o famogiaid
- System yn seiliedig ar laswellt
- Lloia ac ŵyna awyr agored o fis Mawrth/Ebrill
Eich rôl
Ar y lleoliad gwaith hwn, bydd eich rolau a’ch cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynorthwyo Richard a’i fab, Tudor, gyda’r gwaith o reoli’r fuches bîff a’r ddiadell o ddydd i ddydd, gan sicrhau mai lles yr anifeiliaid yw eich prif flaenoriaeth.
- Gweithredu’r system bori padogau
- Gweithio gyda’r ffermwr i gadw cofnodion, cofnodi genedigaeth lloi a chynorthwyo i ŵyna yn yr awyr agored
- Trin ac adnabod clefydau
- Gwaith tractor a gweithredu peiriannau sylfaenol
- Cadw’r fferm yn daclus yn gyffredinol ac i weithredu’n ddiogel
- Gwaith cynnal a chadw cyffredinol a ffensio ar y fferm
Mae’n hanfodol eich bod yn:
- Ddibynadwy ac yn brydlon, gyda diddordeb mewn gofalu am les anifeiliaid
- Gallu bod yn rhagweithiol a gweithio ar eich menter eich hun
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r awydd i gynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol
- Mwynhau bod ar y fferm, gyda diddordeb penodol mewn dysgu
- Dangos agwedd gadarnhaol tuag at ffermio bîff a defaid
Byddai’n ddymunol pe bai gennych:
- Brofiad/diddordeb mewn gwartheg a defaid
- Trwydded yrru lawn
Buddion
- Cyflog i’w drafod
- Llety am ddim
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau mesur a rheoli glaswellt yn wythnosol
- Tîm angerddol a chyfeillgar sydd wedi ymrwymo i ffermio’n gynaliadwy, hyfforddi a datblygu staff.
Os ydych chi’n dymuno datblygu eich gyrfa ym myd amaeth, gweithio gyda gwartheg a/neu ddefaid, dyma’r cyfle i chi.