BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Rhidian Glyn, Rhiwgriafol, Machynlleth, Powys - Llaeth

Rhidian Glyn
Math o fferm:Fferm laeth a defaid yr ucheldir 
Oriau gwaith:05:30 - 17:00, gweithio am 5 diwrnod ac yna 2 ddiwrnod i ffwrdd 
Lleoliad: Rhiwgriafol, Talywern, Machynlleth, Powys
Cyflog:Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer yr oedran penodol
Contract:Lleoliad gwaith 6 wythnos  
Dyddiad cychwyn:Mis Mawrth 2027
Llety: Na

Disgrifiad swydd 

Dyma gyfle unigryw i newydd-ddyfodiaid feithrin sgiliau a gwybodaeth a meithrin profiad drwy weithio ar fferm fynydd cymysg yn ystod tymor prysur y gwanwyn. Byddai’r swydd yn addas i unigolyn ymroddedig sy’n awyddus i gael profiad o weithio mewn tîm agos o weithredwyr blaengar mewn ardal hardd yng nghanolbarth Cymru.  

Eich rheolwr 

Dechreuodd Rhidian yn y diwydiant amaeth drwy brynu 15 mamog fagu ar dir rhent. Mae wedi datblygu ei fusnes yw’r hyn yw heddiw. Mae ei fusnes yn canolbwyntio ar dwf, effeithlonrwydd a phroffidioldeb wrth gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. 

Ffeithiau am y fferm 

  • 280 o fuchod, 200 o warthog bîff a gwartheg cyfnewid a 400 o ddefaid   
  • System sy’n seiliedig ar laswellt 
  • 960 erw ar draws 3 safle  
  • Trosi yn 2024 
  • Yn lloia ac yn ŵyna ym mis Mawrth - Ebrill   

Eich rôl  

  • Bydd eich rolau a’ch cyfrifoldebau ar y lleoliad gwaith hwn yn cynnwys:  
  • Cynorthwyo’r tîm gyda rheoli’r fuches a’r ddiadell o ddydd i ddydd 
  • Godro mewn parlwr 24.48 modern ACR (mae 2 yn y parlwr bob amser) 
  • Magu heffrod cyfnewid a lloeau bîff sy’n cael eu cadw 
  • Defnyddio peiriannau’r fferm ar gyfer porthi / crafu / gwasgaru deunydd gorwedd yn ystod y cyfnod pan fo’r anifeiliaid dan do 

Mae’n hanfodol eich bod yn:  

  • Gyfathrebwr da ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm agos 
  • Yn mwynhau bod ar y fferm ac agwedd flaengar at amaethyddiaeth 
  • Eisiau dysgu a chael gwybodaeth a phrofiad  

 

Byddai’n ddymunol pe bai gennych: 

  • Brofiad o odro / ŵyna 
  • Trwydded yrru lân 

 

Y buddion  

  • Cyflog cystadleuol  
  • Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar a chymdeithasol 
  • Rota gwaith hyblyg  

  

Os ydych yn edrych i ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru, dyma’r cyfle i chi.    

 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.