
| Math o fferm: | Defaid |
| Oriau gwaith: | Oriau yn ystod y dydd – i'w drafod |
| Lleoliad: | Glanystwyth, Y Gors, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 4AP |
| Cyflog: | Isafswm cyflog: cyflog gweithwyr amaethyddol cenedlaethol |
| Contract: | 6 wythnos – O ganol mis Chwefror tan ddechrau mis Ebrill |
| Dyddiad cychwyn: | 14 Chwefror |
| Llety: | Nid oes llety ar gael gyda'r cyfle hwn |
Rydym yn chwilio am
Ymgeisydd sydd â diddordeb brwd yn y sector defaid sy'n barod i ddysgu, yn achub y blaen, ac yn gallu integreiddio'n barchus i'n tîm ŵyna. Mae ymrwymiad i safonau gwaith uchel a dilyn protocolau iechyd a diogelwch yn orfodol bob amser.
Disgrifiad swydd
Mae'r lleoliad gwaith hwn yn cynnig cyfle dysgu ymarferol o fewn ein busnes ffermio defaid sefydledig o safon uchel. Byddwch yn cael cwblhau hyfforddiant cynhwysfawr gan weithio ochr yn ochr â staff profiadol yn ystod y cyfnod ŵyna hollbwysig, gan sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol.
Cyfrifoldebau allweddol a chyfleoedd dysgu:
- Ŵyna
- Cyflawni swyddi arferol o fewn y siediau ŵyna a'r ardaloedd dan do
- Paratoi a symud y mamogiaid a'r ŵyn i'w symud o'r siediau allan i'r caeau
- Rheoli porthiant: Cynorthwyo gyda bwydo'r mamogiaid a'r ŵyn
- Iechyd y ddiadell: Gweithio'n agos gyda staff ar drefn ddyddiol sy'n hanfodol ar gyfer cynnal da byw iach ar draws pob grŵp oedran.
- Dyletswyddau fferm cyffredinol: Cynorthwyo’r tîm gyda gwahanol dasgau sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediad dyddiol fferm brysur.
Busnes fferm cyfredol
- Mae Glanystwyth yn fferm iseldir 420 erw
- Cedwir 1400 o famogiaid Aberfield x Highlander, gydag ŵyn yn cael eu cynhyrchu ar gyfer Waitrose. Mae pob mamog yn ŵyna dan do.
- Mae pob un yn cael cadw yn y sied ym mis Rhagfyr, pan gânt eu cneifio a'u sganio.
- Mae canrannau sganio nodweddiadol ar gyfartaledd rhwng 190-195%.
- Adeg ŵyna, cedwir yr ŵyn mewn corlannau bach unigol am 24-36 awr ar ôl eu geni, cyn cael eu symud i gorlannau mwy lle byddant yn cymysgu â mamogiaid eraill ac ŵyn ifanc. Cedwir rhwng 20-40 o famogiaid yn y corlannau mwy hyn ynghyd â'u hŵyn. Byddant yn aros yn y corlannau mwy am 3-4 diwrnod cyn iddynt fynd allan i'r caeau.
- Cynhyrchir tua 2,400 o ŵyn bob blwyddyn.
Eich rheolwr
Mae Richard yn frwd dros y diwydiant amaeth ac mae'n ffermwr defaid blaengar. Yn gyfathrebwr da, mae Richard yn hoffi helpu pobl i ddatblygu a gwella eu sgiliau. Mae'n ffermwr profiadol sy'n frwd dros ffermio a'i etifeddiaeth hirdymor fel diwydiant ac mae'n awyddus i annog pobl ifanc i ymuno â'r diwydiant. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli a'ch annog gan ei wybodaeth, ei brofiad personol a'i frwdfrydedd.