BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Y defnydd o ddiheintydd niwl thermol mewn siediau brwyliaid cyn eu stocio i leihau achosion o gloffni enterococws - Diweddariad Terfynol

Canlyniadau allweddol

  • Ieir a gafodd eu difa oherwydd problemau â’u coesau ↓ 0.11% o gyfartaledd y fferm, blwyddyn cyn ymyrraeth o’i chymharu â 5 mis ar ôl ymyrraeth.  
  • Cyfradd marwolaethau dyddiol cronnus (CDMR) ↓ 0.75%.
  • Cyfradd twf ↑ 1.1%.
  • Ffactor Effeithlonrwydd Cynhyrchu Ewropeaidd (EPEF) ↑ 22.6%.
  • Ym mis Tachwedd 2025, cyflawnodd y fferm EPEF o 469 – dim ond 1 pwynt islaw trothwy 1% uchaf y DU (470) ar 1 Mai 2025. 

Cefndir  

Mae cynhyrchwyr brwyliaid yn wynebu pwysau cynyddol i wella iechyd, lles a pherfformiad yr haid wrth leihau’r defnydd o wrthfiotigau. Her allweddol ar lawer o ffermydd yw rheoli’r llwyth bacteriol yn amgylchedd y brwyliaid, yn enwedig pathogenau fel Enterococcus spp., sy’n gysylltiedig â chloffni, twf gwael, a mwy o farwolaethau. Ar fferm Penpound, fe wnaeth y drefn o ddiheintio siediau cyn eu stocio ddilyn yr arfer safonol, ond doedd hi ddim yn cynnwys niwl thermol. Mae’r prosiect hwn yn archwilio a all gweithredu protocol niwl thermol gwell, gan ddefnyddio diheintydd halamid, roi amgylchedd glanach, sy’n llai o ran risg i gywion o’r adeg y maen nhw’n cael eu lleoli, gan wella canlyniadau ar draws dangosyddion iechyd, lles a pherfformiad.

 

Diben y gwaith

Nod y prosiect yw pennu a yw cyflwyno diheintydd niwl thermol cyn stocio’r siediau yn gallu gwella iechyd y brwyliaid a pherfformiad cyffredinol yr haid. Y prif amcanion yw:

  • Gwella dyddiau cynnar cywion a lleihau’r her facteriol, yn enwedig cloffni sy’n gysylltiedig ag enterococws, trwy greu amgylchedd glanach i frwyliaid mewn siediau.
  • Lleihau dibyniaeth ar wrthfiotigau trwy ostwng pwysau clefyd cynnar a gwella adar yn gynt –cydnerthedd adar
  • Gwerthuso’r effeithiau ar berfformiad, gan gynnwys marwolaethau dros 7 niwrnod, cyfanswm y marwolaethau a chymhareb trosi porthiant (FCR), trwy gymharu data cnydau ar ôl gweithredu â phedair blynedd o ganlyniadau hanesyddol. 

 

Beth wnaethon ni?

Cyflwynwyd protocol diheintio newydd, a hynny cyn stocio’r siediau, ar fferm Penpound. Ar ôl yr holl waith paratoi – gan gynnwys ychwanegu naddion pren, porthiant a gosod offer – cafodd dwy sied y brwyliaid eu trin gan ddefnyddio niwl thermol gyda diheintydd Halamid. Fe wnaeth hyn sicrhau bod y niwl yn cyrraedd pob arwyneb, gan gynnwys mannau anodd i’w cyrraedd, gan ddarparu lefel fwy cynhwysfawr o lanweithdra na phrotocolau safonol blaenorol y fferm.

Er mwyn asesu ei effaith, casglwyd dangosyddion perfformiad ac iechyd yr haid o’r 4–5 set nesaf (Mawrth 2025–Ionawr 2026). Roedd y rhain yn cynnwys defnyddio gwrthfiotigau, marwolaethau dros 7 diwrnod, cyfanswm y marwolaethau, a’r FCR. Cymharwyd y canlyniadau â phedair set ddata gadarn dros bedair blynedd o setiau hanesyddol a fagwyd heb niwl thermol. Mae monitro yn canolbwyntio’n arbennig ar newidiadau mewn cloffni yn gysylltiedig ag enterococws, dibyniaeth ar wrthfiotigau, a chadernid cyffredinol yr haid. 

 

Canlyniadau: 

Leg culls pre and post treatment

Ffigur 1. % yr adar a gafodd eu difa oherwydd problemau â’u coesau cyn ac ar ôl triniaeth.    

 

Cumulative Mortality Rate % pre and post treatment

   Ffigur 2. Cyfradd Marwolaethau Cronnus (%) cyn ac ar ôl triniaeth 

 

European Production efficiency factor % pre and post treatment

Ffigur 3. Ffactor Effeithlonrwydd Cynhyrchu Ewropeaidd (%) cyn ac ar ôl triniaeth 

 

Growth % pre and post treatment

Ffigur 4. % y twf cyn ac ar ôl triniaeth

 

  • Mae gostyngiad bach ond ystyrlon mewn difa adar o ganlyniad i broblemau â’u coesau (-0.11pp) yn awgrymu llai o ddifa sy’n gysylltiedig â symudedd ar ôl ymyrraeth, sy’n nodi iechyd coesau cryfach a chadernid cyffredinol yr haid.
  • Gostyngodd y CDMR 0.75pp, sy’n golygu bod mwy o adar yn parhau i fod yn hyfyw hyd at ddisbyddu – gan gefnogi nodau lles a rheoli clefydau.
  • Mae cynnydd o +1.1% yn y gyfradd twf yn byrhau’r amser hyd at bwysau targed a/neu yn darparu lle ar gyfer gwell unffurfiaeth o ran carcasau, yn dibynnu ar y strategaeth farchnata.
  • Fe wnaeth EPEF wella +22.6 pwynt, gan adlewyrchu enillion cyfunol mewn bywioldeb, pwysau, trosi porthiant a/neu oedran wrth ladd. Ar lefel yr haid, mae EPEF Tachwedd 2025 o 469 yn dangos beth sy’n gyraeddadwy ar y system hon – mae fwy neu lai yn y meincnod pen uchaf ar gyfer y cyfnod.
  • Mae’r cyfuniad o lai o golledion a gwell twf yn awgrymu gwell cyfradd brosesu a mwy o botensial ar gyfer effeithlonrwydd cost porthiant.  

Barn y ffermwr: Mae cywion ar eu mwyaf agored i niwed yn y dyddiau cyntaf ac mae rhoi dechrau da iddyn nhw, yn rhydd o unrhyw glefydau posibl, yn hanfodol. Mae defnyddio Halamid i ddiheintio ar ôl i’r naddion pren gael eu gosod ac ar ôl paratoi’r siediau wedi helpu i sicrhau hyn ac, yn bendant, mae wedi bod yn gadarnhaol i iechyd a pherfformiad yr adar.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm?

1. Paratowch y sied yn ôl y drefn arferol – Paratowch y gwasarn, porthiant, offer a’r amgylchedd cyn defnyddio’r niwl.  

2. Cymysgwch ddiheintydd halamid – Paratowch y gwanediad cywir a’i lwytho i’r peiriant creu niwl.  

3. Llenwch y sied gyfan â niwl thermol – Gwnewch hyn ar ôl i’r sied gael ei gosod yn llawn fel bod y niwl yn cyrraedd pob arwyneb.

4. Gadewch i’r niwl setlo – Cadwch y sied ar gau nes bod y diheintydd wedi setlo’n llawn ac wedi sychu.  

5. Monitrwch berfformiad y fferm – Ewch ati i olrhain y defnydd o wrthfiotigau, y marwolaethau dros 7 diwrnod, cyfanswm y marwolaethau a’r FCR ar draws sawl set. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.