Canfyddiadau allweddol
- Fe wnaeth technoleg LoRaWAN gynorthwyo mwy nag un ddyfais yn effeithiol
- Mae LoRaWAN yn opsiwn hyfyw ar gyfer lleoliadau anghysbell
- Mae angen cwblhau gwaith ymchwil ehangach pellach ar draws ardaloedd daearyddol mwy amrywiol
Cefndir
Mae lladrad da byw yn cael ei drefnu’n dda erbyn hyn, gyda nifer fawr o anifeiliaid yn cael eu dwyn, gan achosi colled ariannol, tarfu ar y busnes, a straen emosiynol i deuluoedd sy’n ffermio. Ei nod yw helpu ffermydd i leihau colledion, atal lladrad yn y dyfodol, a rhoi cymorth gyda gwydnwch a lles busnesau. Mae hyn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy trwy wella lles anifeiliaid, cynyddu effeithlonrwydd adnoddau, a hyrwyddo arferion gorau o ran monitro a diogelwch.
Diben y gwaith
- Mynd i’r afael â chynnydd mewn lladrad da byw— a gostiodd £3.4miliwn yn 2024—drwy brofi technolegau ataliol a rhybuddio ar gyfer ffermwyr
- Nodi a threialu systemau adnabod ac olrhain electronig, gan weithio gyda ffermwyr, yr heddlu, darparwyr technoleg a chyrff amaethyddol yng Nghymru
Yr hyn a wnaethom
Canolbwyntiodd y prosiect ar ddau brif faes ymchwilio:
(1) nodi a phrofi offer a dyfeisiau addas (Ffigur 1)
(2) asesu datrysiadau o ran cysylltedd cyfredol a chasglu data monitro (Ffigur 2)

Ffigur 1 : Coler

Ffigur 2: Cysylltedd ar y fferm
Sicrhaodd y dull cyffredinol fod ymarferoldeb offer, y gallu i drosglwyddo data, a’r defnydd ymarferol ar y fferm wedi'u deall, eu profi, a'u halinio'n drylwyr â'r heriau penodol a nodwyd gan randdeiliaid.
Canlyniadau
Dangosodd waith ymchwil ac arbrofion maes yr ystod o dechnolegau olrhain da byw sydd ar gael ar hyn o bryd, gyda pherthnasedd penodol i systemau defaid, ac maent yn tynnu sylw at yr opsiynau cysylltedd sy'n addas ar gyfer amgylcheddau gwledig. Mae datrysiadau o ran monitro da byw yn perthyn i ddau brif gategori, a wahaniaethir yn bennaf gan sut mae pob dyfais yn trosglwyddo data i'r ffermwr. Math o gysylltedd yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar gost ac ymarferoldeb o hyd.
Mewn llawer o leoliadau gwledig, mae cysylltedd symudol (cellog) yn anghyson, gan gyfyngu ar ddibynadwyedd systemau sy'n ddibynnol ar rwydweithiau symudol. Gall datrysiadau lloeren gynnig signal ond maent yn parhau i fod yn ddrud ac yn dod gyda chyfyngiadau ar berfformiad. O fewn yr arbrawf, profodd technoleg LoRaWAN ei bod yn gallu cynorthwyo mwy nag un ddyfais yn effeithiol, gan gynnig opsiynau gosod hyblyg trwy fatri a’r prif gyflenwad trydan. Mae hyn yn ei gwneud yn opsiwn hyfyw ar gyfer lleoliadau anghysbell lle mae cysylltedd traddodiadol yn wan.
Wrth werthuso technolegau olrhain, mae'n bwysig bod defnyddwyr yn deall yr ystod o swyddogaethau sydd ar gael. Mae terminoleg a disgrifiadau nodweddion yn amrywio rhwng dyfeisiau a systemau rheoli, felly mae dealltwriaeth glir yn hanfodol wrth ddewis offer addas.