BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Rheoli perthi/gwrychoedd

Gofynion y mae’n rhaid i gontractwyr amaethyddol eu dilyn ar gyfer cytundebau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru.

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r prif ofynion cyfreithiol a phenodol y mae’n rhaid i gontractwyr eu dilyn wrth reoli perthi/gwrychoedd ar ran ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gallai diffyg cydymffurfio arwain at sancsiynau i’r ffermwyr, felly mae’n rhaid i gontractwyr ddilyn y rheolau hyn yn fanwl. Mae’r gofynion hyn yn seiliedig ar reolau cyfredol 2026 yn unig a gallant gael eu diweddaru, gan ddibynnu ar ddatblygiad y cynllun.

 

RHESTR WIRIO GYFLYM I’R CONTRACTWR 

  • Cadarnhau ymrwymiadau perthi/gwrychoedd y Cynllun Ffermio 
    Cynaliadwy gyda’r ffermwr 
  • Gwirio dyddiadau torri 
  • Nodi ac osgoi difrodi coed perthi 
  • Gosod uchder y peiriannau’n gywir 
  • Cadw cofnod o’r holl waith a gwblhawyd 

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.