Canlyniadau allweddol:
- Ni chafodd llwch craig basalt a wasgarwyd ar borfa barhaol effaith sylweddol ar gynhyrchiant cyffredinol y borfa yn ystod y cyfnod samplu.
- Mae gwybodaeth o brosiectau ymchwil sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn ogystal â chanfyddiadau’r treial hwn, yn dangos y gallai unrhyw newidiadau posibl i’r pridd a’r porthiant, yn sgil gwasgaru llwch craig basalt, fod yn digwydd yn araf.
- Mae angen gwaith ymchwil pellach, ar ffurf arbrofion hirdymor, i effeithiau hirfaith llwch craig basalt fel rhywbeth sy’n gwella pridd.
Cefndir:
Mae defnyddio gwelliannau ar gyfer y pridd fel bio-olosg, basalt a gypswm i geisio gwella ei briodweddau yn tyfu mewn poblogrwydd. Mae basalt yn ddeunydd craig silicad naturiol, wedi’i falu, sy’n cael ei gynhyrchu fel sgilgynnyrch chwarela. Mae ei botensial fel rhywbeth i wella pridd amaethyddol neu ar gyfer Gwell Hindreiddiad (proses i gyflymu prosesau atafaelu carbon mewn pridd) yn cael sylw cynyddol, gydag arwyddion y gallai Gwell Hindreiddiad fod o fudd i iechyd y pridd a chynnyrch cnydau, ond mae’r wybodaeth gyfredol yn dangos bod unrhyw newidiadau i’r pridd yn digwydd yn raddol. Yn ei Lwybr Net Sero Cytbwys o’i Seithfed Gyllideb Garbon, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi cynnwys Gwell Hindreiddiad fel ffynhonnell bosibl o gael gwared â charbon deuocsid o’r atmosffer. Mae llawer o brosiectau ymchwil gwyddonol ar waith gyda’r nod o sefydlu setiau data sylfaenol tymor hir mewn amgylcheddau rheoledig. Fodd bynnag, ceir llai o wybodaeth am fasalt fel ffynhonnell faethol bosibl ar gyfer glaswelltiroedd ar ffermydd masnachol, sy’n ystyriaeth bwysig pe bai Gwell Hindreiddiad yn cael ei argymell ar raddfa fwy.
Diben y gwaith:
- Nod y prosiect oedd pennu a all gwasgaru llwch craig basalt ar borfa barhaol gynyddu’r cynhyrchiant o borfa.
- Os felly, archwiliwyd hefyd a yw llwch craig basalt yn opsiwn arall hyfyw yn lle prynu gwrtaith artiffisial.
Beth wnaethom ni?
Dewiswyd dau gae o borfa barhaol yn Upper House, Howey, ar gyfer y treial, gyda’r ddau gae wedi’u rhannu’n hanner i ddarparu dwy driniaeth – 1) ardal reoli heb unrhyw fewnbynnau, a 2) ardal wedi’i thrin â basalt. Cafwyd llwch craig basalt o chwarel leol a’i wasgaru ar gyfradd o 10t/ha (y cae cyntaf ym mis Awst 2023 a’r ail gae ym mis Mehefin 2024). Rheolwyd y ddau gae i gynhyrchu silwair ac fel tir pori. Aseswyd cyfansoddiad y glaswellt ar draws pob cae cyn gwasgaru unrhyw lwch. Dadansoddwyd samplau o bridd o bob hanner o’r caeau hefyd am y cynnwys maethol.
Aseswyd cynnwys maethol y basalt hefyd i sicrhau ei bod yn ddiogel i dda byw bori’r borfa a gafodd ei thrin. Monitrwyd tyfiant y borfa bob mis drwy gofnodi pwysau biomas samplau o laswellt ffres o ardaloedd hysbys, a eithriwyd rhag pori, o bob triniaeth (n=3). Amcangyfrifwyd cnwd y silwair ar gyfer pob triniaeth hefyd. Cynhaliwyd asesiad ansawdd porthiant mewn cydweithrediad â Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) i roi cipolwg ar gynnwys carbon a nitrogen y llystyfiant, y ffracsiynau ffibr, a’r cynnwys carbohydrad hydawdd mewn dŵr ar adegau penodol.
Canlyniadau:
Amlinellir canlyniadau’r dadansoddiad o gynnwys maethol y basalt yn Nhabl 1 isod.
Tabl 1. Dadansoddiad o sampl llwch craig basalt.
Dadansoddiad Cemegol
Dadansoddiad | Gwerth |
Deunydd sych (%) | 92.2 |
pH | 8.45 |
Nitrogen (%) | 0.06 |
Nitrogen Nitrad (mg/kg) | Heb ei ganfod |
Nitrogen Amoniwm (mg/kg) | Heb ei ganfod |
Silicôn hydawdd mewn dŵr (mg/kg) | 41.0 |
Mwynau Macro
Mwyn | Gwerth |
Ffosfforws (mg/kg) | 752 |
Potasiwm (mg/kg) | 350 |
Magnesiwm (g/kg) | 34.2 |
Copr (mg/kg) | 63.6 |
Sinc (mg/kg) | 89.8 |
Sylffwr (mg/kg) | 701 |
Calsiwm (g/kg) | 42.4 |
Haearn (g/kg) | 66.7 |
Sodiwm (mg/kg) | 265 |
Elfennau Hybrin
Elfen | Gwerth |
Copr (mg/kg) | 63.6 |
Sinc (mg/kg) | 89.8 |
Haearn (g/kg) | 66.7 |
Alwminiwm (g/kg) | 33.5 |
Mae’r canlyniadau hyn, ynghyd ag ymchwil sy’n bodoli eisoes, yn dangos nad yw porfa a gafodd ei thrin â basalt yn cael unrhyw effaith sylweddol ar iechyd anifeiliaid cnoi cil. Serch hynny, byddai’n ddoeth dadansoddi’r basalt am unrhyw docsinau posibl i anifeiliaid sy’n cnoi cil, megis metelau trwm a thocsinau a allai fod wedi’u cyflwyno i’r basalt yn naturiol neu drwy halogiad yn ystod y broses echdynnu. Dylid ystyried hefyd statws maethol a mwynol sylfaenol priddoedd er mwyn osgoi croniad gormodol o elfennau yn y pridd a allai gael effeithiau negyddol, o bosibl, ar iechyd anifeiliaid cnoi cil. Gellid cyflwyno cyfnod gwahardd ar gyfer stoc sy’n pori fel nad ydynt yn llyncu basalt yn uniongyrchol.
At ei gilydd, ni ddylanwadodd y basalt ar y cynhyrchiant o borfa, heb unrhyw wahaniaeth i’w weld ym miomas y borfa ffres a fesurwyd ym mhob triniaeth yn ystod cyfnodau samplu’r gwanwyn a’r haf yn ystod y ddwy flynedd (Ffigur 1). Fodd bynnag, roedd arwydd o gynnydd mewn biomas (bron i draean) o’r ardaloedd a gafodd eu trin â basalt o’u cymharu â’r ardaloedd rheoli ar ddyddiad diwethaf y samplu ym mis Medi 2025. Mae’r cynnydd hwn mewn biomas yn unol ag astudiaethau eraill, lle gwelir cynnydd mewn cnwd (e.e. yng Ngwregys Corn yr Unol Daleithiau, lle gwelodd corn a ffa soia gynnydd o ~16% mewn cnwd). Mae angen gwaith ymchwil pellach y tu hwnt i’r prosiect hwn i ymchwilio i hyn.

Ffigur 1. Data biomas llystyfiant ar gyfer y ddwy driniaeth dros ddwy flynedd y samplu
Ni welwyd unrhyw wahaniaethau sylweddol yng nghynnwys carbon a nitrogen y llystyfiant rhwng yr ardaloedd a gafodd eu trin a’r ardaloedd rheoli yn 2024. Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol, chwaith, yng nghyfanswm y cynnwys carbohydradau hydawdd mewn dŵr (Frwctan, Swcros, Glwcos, Ffrwctos) na ffracsiynau ffibr (MADF, ADF, ADL, NDF) rhwng yr ardaloedd a gafodd eu trin â basalt a’r ardaloedd rheoli. Awgryma hyn nad oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol yn ansawdd cyffredinol y porthiant rhwng yr ardaloedd a gafodd eu trin a’r ardaloedd rheoli. Fodd bynnag, bydd canlyniadau pellach o ddadansoddiad porthiant parhaus (samplau a gymerwyd ym mis Medi 2025) ar gael yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwn, er mwyn asesu a oes angen cyfnod hirach cyn i arwyddion o newid ddigwydd, gyda’r un paramedrau’n cael eu hasesu ar hyn o bryd.
Cwestiynau ymchwil pellach:
- Effaith ar ansawdd porthiant – disgwylir canlyniadau ym mis Mawrth 2026
- Cyfraddau gwasgaru basalt – beth yw’r gyfradd a’r amlder mwyaf priodol
- Mae angen arbrofion hirdymor, ar raddfa fawr, i fonitro tueddiadau dros amser. Onid ydym yn gweld arwydd o newidiadau lle defnyddiwyd basalt oherwydd bod y newidiadau sy’n gysylltiedig â’r tywydd rhyngflynyddol yn llawer mwy?
- A allai fod oedi yn yr ymateb, gan ei fod yn cymryd amser i’r deunydd chwalu yn y pridd cyn cael ei amsugno gan y llystyfiant a/neu arwain at adweithiau yn y pridd?
- A allwn ni ddisgwyl cynnydd yn pH y pridd trwy ychwanegu basalt? Faint mae hyn yn dibynnu ar amodau pH y pridd ar y dechrau?
Prosiectau perthnasol a gwybodaeth a gyhoeddwyd:
- Un safle dan reolaeth/arweiniad y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) ym Mhumlumon – ceir rhagor o wybodaeth yma
- US Corn Belt trial summary – University of Sheffield (prosiect 2016–2020)