BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ffosfforws a dwysfwyd ar gyfer gwartheg llaeth

Trosolwg

Mae prosiect grŵp trafod “Dairy Celts” sy’n cwmpasu Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn dwyn y teitl, “A yw lleihau lefelau ffosffad mewn dwysfwyd yn golygu llai o ffosffad mewn tail, heb effeithio ar effeithlonrwydd?" Nod y prosiect yw profi'r ddamcaniaeth bod lefelau ffosffad yn nwysfwyd gwartheg llaeth yn sylweddol uwch na'r hyn sydd ei angen yn fiolegol, a bod lleihau ffosffad yn y dwysfwyd yn lleihau lefelau ffosffad yn y tail, gan leihau felly'r gwarged ffosffad sy'n cael eu colli i'r pridd a'r dŵr. Gallai'r data a'r gwersi a geir felly fod yn berthnasol i sylfaen ffermio llaeth llawer ehangach na Dairy Celts yn unig.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.