Trosolwg
Mae prosiect grŵp trafod Puffin sy’n cwmpasu Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn dwyn y teitl “Datblygu rheolaeth gynaliadwy ar lyngyr y stumog drwy Reolaeth Integredig ar Blâu”. Mae’r grŵp, ar y cyd â phrosiect ehangach Fera Science yn y DU,” yn monitro poblogaeth llyngyr y stumog a chwilod clec o dan amodau ffermio masnachol. Drwy wneud hyn, maent yn dilysu metbarcodio DNA er mwyn nodi rhywogaethau’n gynt, asesu risgiau’n ymwneud â math y pridd, cylchdro cnydau, hinsawdd a nodweddion y dirwedd, rheolaethau profion megis cnydau gorchudd, cymysgedd hadau a dulliau i annog ysglyfaethwyr naturiol. Mae'r canlyniadau a ddisgwylir yn cynnwys nodi rhywogaethau mewn ffordd fwy cost-effeithiol, gwell dealltwriaeth o risgiau ar lefel y cae, ac argymhellion ar gyfer rheoli plâu sy'n seiliedig ar dystiolaeth.