Prosiectau Grŵp Trafod:
- Mae prosiectau wedi’u hariannu’n cael eu cynnal am 12 mis, ac yna chwe mis ar gyfer ysgrifennu’r canlyniadau.
- Iechyd y pridd
Mae prosiect grŵp trafod Cymdeithas Glaswelltir Aberteifi a’r Cylch, dan arweiniad Menna Williams, yn dwyn y teitl “Gwella ffyngau mycorhisol drwy atchwanegiad triagl”. Mae’r prosiect yn defnyddio triagl ar ffurf hylif ar briddoedd glaswelltir ac yn defnyddio profion pridd cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth i fesur newid mewn ffyngau mycorhisol. Mae’r canlyniadau arfaethedig yn cynnwys gwell cynhyrchiant glaswellt a thwf y borfa, gallu gwrthsefyll cyfnodau o sychder yn well, gwell deunydd organig y pridd ac iechyd cyffredinol y pridd a llai o ddibyniaeth ar wrtaith ffosfforws a nitrogen artiffisial.
- Rheoli parasitiaid mewn defaid
Mae'r prosiect ar gyfer nodi rhywogaethau parasitiaid yn y sector defaid yn dod â grwpiau trafod o Aberhonddu, De Cymru a Sir Benfro ynghyd. Nod y prosiect yw gwella rheolaeth llyngyr wedi’i dargedu drwy gasglu samplau o ysgarthion, cynnal cyfrif wyau ysgarthol a defnyddio technegau trin ysgarthion i nodi rhywogaethau llyngyr cyn ac ar ôl triniaeth anthelmintig. Bydd milfeddygon APHA yn cynnal dadansoddiad fel y gellir addasu effeithlonrwydd y driniaeth. Cefnogir y prosiect hwn gan Non Williams.
- Rheoli llyngyr y stumog
Mae prosiect grŵp trafod Puffin sy’n cwmpasu Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin dan arweiniad Gwyn Davies yn dwyn y teitl “Datblygu rheolaeth gynaliadwy ar lyngyr y stumog drwy Reolaeth Integredig ar Blâu”. Mae’r grŵp, ar y cyd â phrosiect ehangach Fera Science yn y DU,” yn monitro poblogaeth llyngyr y stumog a chwilod clec o dan amodau ffermio masnachol. Drwy wneud hyn, maent yn dilysu metbarcodio DNA er mwyn nodi rhywogaethau’n gynt, asesu risgiau’n ymwneud â math y pridd, cylchdro cnydau, hinsawdd a nodweddion y dirwedd, rheolaethau profion megis cnydau gorchudd, cymysgedd hadau a dulliau i annog ysglyfaethwyr naturiol. Mae'r canlyniadau a ddisgwylir yn cynnwys nodi rhywogaethau mewn ffordd fwy cost-effeithiol, gwell dealltwriaeth o risgiau ar lefel y cae, ac argymhellion ar gyfer rheoli plâu sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Ffosfforws a dwysfwyd ar gyfer gwartheg llaeth
- Mae prosiect grŵp trafod “Dairy Celts” sy’n cwmpasu Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin dan arweiniad Ffion Evans yn dwyn y teitl, “A yw lleihau lefelau ffosffad mewn dwysfwyd yn golygu llai o ffosffad mewn tail, heb effeithio ar effeithlonrwydd?" Nod y prosiect yw profi'r ddamcaniaeth bod lefelau ffosffad yn nwysfwyd gwartheg llaeth yn sylweddol uwch na'r hyn sydd ei angen yn fiolegol, a bod lleihau ffosffad yn y dwysfwyd yn lleihau lefelau ffosffad yn y tail, gan leihau felly'r gwarged ffosffad sy'n cael eu colli i'r pridd a'r dŵr. Gallai'r data a'r gwersi a geir felly fod yn berthnasol i sylfaen ffermio llaeth llawer ehangach na Dairy Celts yn unig.
