- Math o ddigywddiad:
- Dyddiad ac amser:
- Lleoliad:
- Clwb Golff y Bala Penlan Bala Gwynedd LL23 7YD + other venues
Event overview
Mae cloffni mewn defaid yn costio tua £28miliwn y flwyddyn i ffermwyr y Deyrnas Unedig.
Mae'n creu goblygiadau lles difrifol ac yn cael effaith negyddol ar ganfyddiad y cyhoedd o ffermio defaid. Yn ogystal, credir bod dwy ran o dair o'r defnydd gwrthfiotig mewn defaid yn cael ei ddefnyddio i drin cloffni.
Bydd mynychu un o’r gweithdai penodol i'r sector yma yn sicrhau eich bod yn dysgu sut i atal, rheoli a thrin cloffni defaid yn eich diadell. Bydd pob cwrs yn cynnig cyfarwyddyd ar faterion fel bioddiogelwch a chamau biogaethiwo; yn rhoi cyngor am lunio cynllun iechyd penodol i gloffni ac yn esbonio sut i ymdrin ag achosion heintus cloffni fel sgald, clwy’r traed a CODD yn ogystal ag achosion heb fod yn heintus.
Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cael eu cofnodi ac yn cyfri tuag at ofyniad Datblygiad Proffesiynol Parhaus UA4 a UA12 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Mae'r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer SFS UA12 os bydd partner busnes, aelod o'ch busnes fferm (neu unigolyn a enwebwyd) yn bresennol.
Cysylltwch â'r Milfeddygon yn uniongyrchol i archebu eich lle
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Maw, 10 Nov 2026 | 7 - 10yp | Clwb Golff y Bala Penlan Bala Gwynedd LL23 7YD |
FREE |
- | Book online |
| Mer, 11 Nov 2026 | 10yb - 1yp | Tafarn y Pelcomb, Pelcomb Cross, Pelcomb, Hwlffordd SA62 6AA |
FREE |
- | Book online |
| Iau, 10 Rhag 2026 | 7 - 10yp | Marchnad Da Byw Sir Fynwy, Croesbychan, Bryngwyn, Raglan NP15 2BH |
FREE |
- | Book online |
| Llun, 14 Rhag 2026 | 6:30 - 9:30yp | The Begelly Arms New Road, Begelly, Kilgetty, Sir Benfro SA68 0YF |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@mentera.cymru
- Email:
- farmingconnect@mentera.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Bydd mynychwyr y gweithdy’n gweithio drwy’r agweddau ar iechyd a rheolaeth anifeiliaid i wella...
Bydd cyfranogwyr y gweithdy yn ystyried yr achosion amrywiol o erthylu ac yn dysgu am yr effaith ar...
Pan fod pob eiliad yn cyfrif: Gweithdai cymorth cyntaf ymarferol i ffermwyr
Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdy yn dysgu am y cylch bywyd a’r arwyddion clinigol sy’n...