BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Meistr ar Arddwriaeth - Cynllunio Cnydau

crops

 

Beth ddylid ei ddisgwyl? 

Profiad dysgu’n seiliedig ar y dosbarth, wedi’i ddarparu ar fferm 

Taith o amgylch y fferm i archwilio sut mae penderfyniadau ynghylch cynllunio cnydau’n dylanwadu ar gynhyrchiant, cylchdro, isadeiledd a rheoli’r fenter. 

Ymarferion rhyngweithiol mewn grwpiau bach neu’n unigol wedi’u llunio i’ch cynorthwyo i roi cysyniadau allweddol ar waith yn eich busnes tyfu eich hun. 

Cyfleoedd i drafod heriau a rhannu profiadau gyda thyfwyr eraill mewn amgylchedd dysgu cefnogol.  

 

Ar gyfer pwy mae’r gweithdy?  

Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer tyfwyr profiadol a’r rhai hynny ar ddechrau’r broses o ddatblygu menter arddwriaeth 

Mae’r dosbarth meistr hwn yn adeiladu ar themâu a archwiliwyd o fewn y Rhaglen Uwchraddio Garddwriaeth, gan gynnig mwy o ffocws ar gynllunio cnydau, trefnu cynhyrchiant, proffidioldeb a rheoli busnes. Mae cyfranogiad blaenorol yn y Rhaglen Uwchraddio’n fanteisiol ond nid yn orfodol, ac mae’r gweithdy ar gael i bob tyfwr a ffermwr sydd â diddordeb mewn datblygu neu ehangu ar fenter arddwriaeth. 

 

  • Tyfwyr garddwriaeth masnachol sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb eu cynlluniau cnydau. 
  • Tyfwyr newydd a thyfwyr sy’n datblygu sy’n chwilio am ddull strwythuredig i gynllunio cynhyrchiant a rheoli adnoddau. 
  • Ffermwyr sy’n ystyried arallgyfeirio i gynhyrchu cynnyrch garddwriaethol ac eisiau deall  y gofynion cynllunio ar gyfer menter lwyddiannus. 
  • Cynhyrchwyr gerddi marchnad, llysiau, salad, perlysiau a chnydau cymysg sy’n dymuno gwneud y defnydd gorau o gylchdroadau ac amserlenni cynhyrchu. 

 

Beth mae’r gweithdy yn ei gynnwys? 

Diwrnod 1  

  • Deall agweddau sylfaenol cynllunio cnydau effeithiol ar gyfer mentrau garddwriaeth masnachol. 
  • Cynllunio cylchdroadau cnydau i gefnogi iechyd y pridd a lleihau pwysau o ganlyniad i blâu a chlefydau. 
  • Archwilio dulliau rheoli ffrwythlondeb y pridd a gofynion gwahanol gnydau o safbwynt maetholion. 
  • Cyfateb cnydau gyda’r tir, yr isadeiledd a’r llafur sydd ar gael, ac amcanion y busnes. 
  • Datblygu fframwaith ymarferol ar gyfer cynllunio cnydau y gellir ei addasu ar gyfer eich menter eich hun. 

 

Diwrnod 2  

  • Asesu cyfleoedd marchnad a defnyddio galw i lywio dewisiadau cnydau a thargedau cynhyrchiant.  
  • Cynllunio cynhyrchiant o amgylch gofynion y cwsmer a sianeli gwerthiant. 
  • Asesu proffidioldeb cnydau a chostau cynhyrchu. 
  • Deall amserlenni cynhyrchu, plannu yn olynol a chynllunio ar gyfer cynaeafu. 
  • Gwerthuso costau cnydau, elw gros a phroffidioldeb i gynorthwyo gyda phenderfyniadau busnes. 
  • Datblygu dulliau ymarferol o reoli cnydau a chadw cofnodion. 
  • Defnyddio offer cynllunio cnydau i greu amserlenni hau, cynaeafu a chynhyrchu.  
  • Dod â chylchdroadau, rhagolygon gwerthiant a dewisiadau cnydau ynghyd i greu cynllun cnydau. 
  • Datblygu fframwaith ymarferol ar gyfer cynllunio cnydau y gellir ei addasu ar gyfer eich menter eich hun. 

 

Tiwtoriaid Adam Payne

Adam Payne yw un o gyd-sylfaenwyr cwmni Awen Organics, sef fferm lysiau organig 25 erw lwyddiannus yng Ngogledd Sir Benfro. Gyda dros ddegawd o brofiad mewn garddwriaeth fasnachol, cynllunio cnydau, gwerthu uniongyrchol a chynhyrchu ar gyfer cyfanwerthu, mae Adam yn cyfuno arbenigedd tyfu ymarferol gyda dealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion busnes sy’n angenrheidiol er mwyn adeiladu menter arddwriaeth broffidiol a gwydn. 

 

 

 

 

Agenda enghreifftiol 

Diwrnod 1  

9:30 – 10:00 Cyrraedd a chinio  

10:00 -10:30 – Croeso a chyflwyniadau  

10:30 -11:30 Sesiwn 1 Datblygu cylchdro cnydau cynaliadwy  

11:30 -11:45 Egwyl 

11:45 -12:15 Ymarfer, trafod ac adborth  

12:15 -13:15 Taith fferm o amgylch cylchdroadau  

13:15 – 14:00 Cinio 

14:00 – 15:45 Sesiwn 3 Beth sydd ei angen ar eich cnydau o safbwynt ffrwythlondeb? 

15:45 -16:00 Diwedd  

 

Diwrnod 2  

9:30 – 10:00 Cyrraedd 

10-10:30 Chroeso a chyflwyniadau  

10:30-11:30 Sesiwn 1 ‘Beth allwch chi ei werthu – am beth mae eich marchnad yn chwilio, a phryd?’ 

11:30 – 11:45 Egwyl 

11:45 – 12:45 Sesiwn 2 – ‘Beth ddylech chi ei dyfu?’  

12:45 – 13:30 Cinio 

13:30 – 14:30 Taith fferm o amgylch y twneli gan archwilio sut rydym ni’n gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio gofod gwerthfawr dros y gaeaf 

14:30 – 15:45 Sesiwn 3 ‘Dod â phopeth ynghyd’  

15:45 – 16:00 Diwedd  

   

Dyddiadau a lleoliadau  

DyddiadLleoliad
26 a 27 Tachwedd 2026Awen Organics, Fferm Eithin, Felindre Farchog, Crymych, SA41 3XW 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.