BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ffermwyr yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer gwaith ymchwil

Ydych chi'n ffermwr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil? Gall Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio eich helpu i gysylltu ag academyddion a sefydliadau ymchwil sy'n chwilio am gyfranogiad fferm mewn arolygon, prosiectau, arbrofion ac astudiaethau sy'n cynnig manteision clir i'ch busnesau ffermio. 

 

Gall cyfleoedd gynnwys ffermwyr sy'n chwilio am – 

  • Arbenigedd technegol 
  • Cyfleoedd i gydweithio ar waith ymchwil 
  • Cymorth gydag arloesi 
  • Cyfleoedd i ddatblygu prototeipiau technoleg 
  • Mynediad at dimau amlddisgyblaethol 

Bydd pob cyfle a hyrwyddir drwy Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yn cefnogi egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac yn cyd-fynd â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. 

Cwblhewch y ffurflen fer isod a chyflwynwch eich syniadau i gysylltu ag aelodau Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio. 

Beth yw eich prif sectorau ffermio?
Ar beth hoffech chi gael cymorth?

Drwy gyflwyno'r ffurflen hon, rydych yn cydnabod: 

  • Bydd Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yn gwneud ymdrech rhesymol i gyfeirio cyfleoedd perthnasol at gynulleidfaoedd priodol drwy'r dudalen we gyfeirio; fodd bynnag, ni ellir sicrhau y byddwch yn cael eich paru â chyfle ac ni ellir sicrhau ymatebion llwyddiannus. 
  • Bydd pob cyflwyniad yn cael ei adolygu i sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). 
  • Caniatewch hyd at 15 diwrnod gwaith i'ch cyflwyniad gael ei adolygu a, lle bo'n briodol, ei gyhoeddi ar dudalen we gyfeirio Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth. Mewn cyfnodau prysur iawn, byddwch yn ymwybodol y gallai hyn gymryd mwy o amser felly caniatewch ddigon o amser paratoi. 
  • Gellir rhannu crynodeb o'ch cyfle, her neu faes diddordeb, ynghyd â gwybodaeth bersonol a ddarperir drwy'r ffurflen hon gydag aelodau Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio i hwyluso cysylltiadau a chydweithrediadau posibl. 
  • Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei phrosesu yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Cyswllt Ffermio . 

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.