- Lleoliad:
- Bro Morgannwg
- Sector:
- Biff, Arallgyfeirio, Defaid
- Specialism:
- Gweinyddiaeth a Gwaith Papur, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Meincnodi, Rheoli a chynllunio busnes, Gwerthu'n Uniongyrchol, Rheoli Tir Glas, Arloesi, Marchnata
Pam fyddai Katie-Rose yn fentor effeithiol
- Mae Katie-Rose yn ffermwr sydd wedi ennill gwobrau, yn ddarlithydd coleg uchel ei pharch ac yn eiriolwr brwd dros ffermio law yn llaw â natur a’r amgylchedd. Mae’n helpu i siapio dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru ar y fferm ac yn y byd academaidd. Gan gyfuno profiad ffermio ymarferol gyda’i dawn am ysbrydoli ac addysgu eraill, mae’n dod â safbwynt newydd, blaengar i bob her gan hefyd gadw sylfaen gadarn yn y byd masnachol gwirioneddol.
- Mae Katie-Rose a’i gŵr yn rhedeg fferm fynydd 1,500 erw yng Nghwm Ogwr, gyda’r tir yn codi i 1,850 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae’r busnes yn cynnwys oddeutu 750 o famogiaid Mynydd De Cymru a buches o 45 o wartheg bîff Stabiliser, sy’n cael eu rheoli ar system fewnbwn isel yn seiliedig ar laswellt, a luniwyd i sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol.
- Yn 2019, penderfynodd y pâr ddisodli eu buches o Wartheg Duon Cymreig pedigri gyda gwartheg Stabiliser. Gan ddefnyddio genomeg a bywiogrwydd hybrid, maent wedi datblygu buches o wartheg ffrwythlon ac effeithlon sy’n gweddu’n dda gydag amodau heriol ar yr ucheldir. Mae’r brîd yn adnabyddus am rwyddineb lloia, nodweddion mamol ardderchog a llai o allyriadau carbon, ac mae’n dangos bod modd i gynhyrchiant da byw proffidiol a chyfrifoldeb amgylcheddol weithio law yn llaw.
- Mae arallgyfeirio hefyd wedi chwarae rôl allweddol wrth atgyfnerthu’r busnes. Sefydlodd Katie-Rose fenter bocsys cig Bwlch Mountain Lamb, gan greu ffrwd incwm gwerthfawr ar gyfer gwerthu’n uniongyrchol gan hefyd adeiladu perthnasoedd agosach gyda chwsmeriaid a hybu cig oen a chig eidion o ansawdd uchel.
- Mae arloesi’n sylfaen i bob agwedd ar y fferm. Yn 2025, llwyddodd Katie-Rose i sicrhau cyllid i gyflwyno technoleg coleri rhithwir ‘NoFence’, sy’n rheoli da byw gan ddefnyddio system leoli fyd-eang i wella effeithlonrwydd pori, gwella bioamrywiaeth, cefnogi iechyd y pridd ac atgyfnerthu safonau lles anifeiliaid ymhellach. Mae ei pharodrwydd i groesawu technoleg newydd gan hefyd fesur perfformiad busnes yn adlewyrchu ei chred bod gwelliant parhaus yn hanfodol ar gyfer busnesau ffermio gwydn.
- Mae hi wedi derbyn nifer o wobrau ffermio ac addysgu uchel eu parch, ac mae hi’n parhau i gyflawni nifer o rolau arweinyddiaeth dylanwadol o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. Mae ei gallu i egluro syniadau cymhleth yn glir, annog hyder a chymell eraill yn ei gwneud yn fentor ymrwymedig ac effeithiol iawn a fydd yn cynnig arweiniad realistig a chefnogol.
Busnes fferm presennol
- Fferm fynydd 1,500 erw, yn codi i 1,850 troedfedd uwchben lefel y môr
- Buches o 45 o wartheg bîff Stabiliser
- 750 o famogiaid Mynydd De Cymru gyda diadell fechan o 100 o famogiaid Cheviot De Lloegr
- System bori eang ar y mynydd gyda gwndwn llysieuol i hybu bioamrywiaeth a gwytnwch.
- Menter bocsys cig Bwlch Mountain Lamb/Beef
Cyflawniadau / profiad
- 2025 – Gwobr Ffermwyr y Dyfodol Cymru
- 2025 – Gwobr Dai Davies am Effaith ar y Diwydiant
- 2025 – Llysgennad Arwain DGC
- 2025 – Ffermwr Bîff y Flwyddyn – Gwobrau Ffermio Prydain
- 2025 – Mynychu’r Arddwest Frenhinol ym Mhalas Buckingham (cyfraniad tuag at addysg ym myd amaeth)
- 2025 - ‘Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn’ – Gwobrau Cenedlaethol Merched mewn Amaeth 2025
- 2025 – Cadeirydd NFU Morgannwg
- 2025 – Cynrychiolydd Bwrdd ALFf Morgannwg
- 2025 – presennol – Arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio
- 2024 – Darlithydd AB y Flwyddyn 2024 (Gwobrau Dysgu Proffesiynol Cymru)
- 2024 – Gwobr Dysgu Cenedlaethol Pearson (Arian)
- 2023 – Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn NFU Cymru
Cyngor da ar gyfer llwyddo mewn busnes
“Meincnodwch eich busnes, parhewch i fonitro perfformiad a defnyddiwch ddata dibynadwy i arwain penderfyniadau rheoli.”
“Byddwch yn agored i syniadau a thechnolegau newydd a gwahanol ffyrdd o ffermio. Gall newidiadau bychain a gyflwynir am y rhesymau cywir wneud gwahaniaeth sylweddol o safbwynt proffidioldeb a chynaliadwyedd.”