- Lleoliad:
- Sir Ddinbych
- Sector:
- Biff, Llaeth, Arallgyfeirio
- Specialism:
- Iechyd a Lles Anifeiliaid, Rheoli a chynllunio busnes, Gwerthu'n Uniongyrchol, Rheoli Tir Glas, Arloesi, Mentrau ar y Cyd, Marchnata, Datblygiad Personol, Ffermio Adfywiol, Iechyd y Pridd, Ansawdd Dŵr
Pam fyddai Huw yn fentor effeithiol
- Mae Huw Foulkes wedi trawsnewid fferm Pentrefelin, ei fferm deuluol yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, i fod yn un o’r busnesau adfywiol, seiliedig ar borfa fwyaf arloesol yng Nghymru. Fel un o lond llaw o fentrau tebyg yn unig ledled y DU, mae’n dangos bod ffermio menter laeth gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd a llwyddiant masnachol yn gallu mynd lawn yn llaw. Erbyn heddiw, mae’r busnes yn darparu bywoliaeth gynaliadwy i Huw gan hefyd barhau i esblygu drwy syniadau a buddsoddiad newydd.
- Wedi iddo gael ei fagu ar y fferm, mae Huw wedi datblygu angerdd hir sefydlog dros ffermio llaeth. Cyn dychwelyd adref, treuliodd 13 mlynedd yn rheoli buches laeth fasnachol ar raddfa fawr, gan fagu profiad gwerthfawr ym meysydd rheoli da byw, effeithlonrwydd busnes ac arweinyddiaeth tîm. Pan ddechreuodd ei dad gamu’n ôl o ffermio a gosod y tir, gwelodd Huw gyfle i ddatblygu model busnes cwbl newydd a fyddai’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol y fferm, gan hefyd greu gwerth ychwanegol o bob litr o laeth a gynhyrchir a phob anifail sy’n cael ei fagu.
- Ers 2021, mae Huw, ei frawd a’i dad wedi datblygu fferm Pentrefelin i fod yn fenter laeth micro blaengar ac adfywiol. Trwy gyfuno pori adfywiol, safonau lles ardderchog ar gyfer yr anifeiliaid a chynhyrchiant mewnbwn isel gyda marchnata uniongyrchol, maent wedi creu busnes sy’n sicrhau gwerth ar hyd y gadwyn gyflenwi. Mae eu llwyddiant wedi’u galluogi i ddod â’r 95 erw o dir yn ôl dan eu perchnogaeth, ynghyd â rhentu 40 erw ychwanegol.
- Dechreuodd y busnes ar raddfa fach gyda phedair heffer Red Poll yn unig, a ddewiswyd am eu gallu i gynhyrchu llaeth a bîff yn effeithlon ar system bori mewnbwn isel. Trwy wneud defnydd llawn o’r isadeiledd a oedd eisoes yn bodoli ynghyd â chymorth Cyswllt Ffermio er mwyn cynnal dadansoddiad pridd a strategaeth bori cylchdro newydd, llwyddodd Huw i adeiladu’r busnes gam wrth gam yn ofalus.
- Erbyn heddiw, mae’r fuches wedi tyfu i gynnwys 25 o wartheg Red Poll sy’n cael eu godro unwaith y dydd, gan gynhyrchu llaeth premiwm, ynghyd â bîff wedi’i fwydo’n gyfan gwbl ar y borfa, ac yn allanoli cynhyrchiant caws ac iogwrt. Mae gardd farchnad ffyniannus 3 erw’n ategu’r fenter laeth a da byw, gan gyflenwi cynnyrch tymhorol sy’n cael ei werthu o’r siop fferm, a sylfaen gwsmeriaid cynyddol sy’n cynnwys caffis lleol, manwerthwyr a chwsmeriaid sy’n gwerthfawrogi cynnyrch lleol o ansawdd uchel.
- Mae Huw yn teimlo’n angerddol dros rannu gwybodaeth ac annog eraill i herio meddylfryd confensiynol. Mae’n aml yn cynnal teithiau fferm, grwpiau trafod ac ymweliadau addysgiadol, yn siarad mewn digwyddiadau ar gyfer y diwydiant ac yn cyfrannu at bodlediadau’n hybu amaethyddiaeth adfywiol, gwytnwch busnes ac arloesi. Mae’n credu bod agwedd agored tuag at rwystrau a gwersi a ddysgwyd yr un mor bwysig â rhannu llwyddiant.
- Fel mentor, mae Huw yn gweithio gyda ffermwyr sy’n dymuno adeiladu busnesau mwy gwydn, proffidiol a chynaliadwy. P’un a yw hynny’n golygu edrych ar ffermio adfywiol, marchnata uniongyrchol, arallgyfeirio, rheoli’r borfa, ychwanegu gwerth at gynnyrch fferm neu ddatblygu mentrau cwbl newydd, bydd yn eich helpu i ganfod cyfleoedd ymarferol sy’n addas ar gyfer eich amgylchiadau. Mae ei arddull mentora’n agored, yn gefnogol ac yn seiliedig ar brofiad go iawn. Yn hytrach na chynnig un ateb sy’n addas i bawb, bydd yn gwrando’n astud, gofyn cwestiynau heriol ac yn eich annog i ddatblygu cynlluniau realistig sy’n darparu buddion masnachol ac amgylcheddol hirdymor.
Busnes fferm presennol
- Llaethdy micro a fferm dda byw adfywiol yn Sir Ddinbych sy’n cael ei rhedeg gan y teulu, gyda 95 erw yn berchen i’r fferm a 40 erw yn cael eu rhentu.
- Menter laeth yn seiliedig ar y borfa gyda gwartheg a lloi Red Poll, a buches bîff sy’n cael ei bwydo 100% ar laswellt.
- System bori cylchdro amrywiol llawn rhywogaethau, gan gynnwys maglys rhuddlas, ysgellog, byswellt a meillion i wella’r gallu i wrthsefyll sychder, bioleg y pridd a chynhyrchiant.
- Gardd farchnad tair erw’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau tymhorol.
- Gwerthu llaeth yn uniongyrchol i gwsmeriaid, cynnyrch llaeth, cig a chynnyrch o’r ardd farchnad yn cael eu gwerthu drwy’r siop fferm, i gaffis a manwerthwyr lleol.
Cyngor da ar gyfer llwyddo mewn busnes
"Nid oes angen fferm enfawr na buches fawr i adeiladu busnes llwyddiannus. Dechreuais gyda phedair buwch yn unig. Gwnewch yr hanfodion yn iawn, dewch i ddeall eich ffigyrau ac adeiladwch yn raddol ar sylfeini cadarn."
"Gwnewch eich gwaith cartref, gwnewch y mwyaf o’r cymorth sydd ar gael, a pheidiwch byth â thanbrisio pŵer adrodd eich stori eich hun. Mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich gwerthoedd gymaint â’ch cynnyrch."