Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru
Rôl Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn y lle cyntaf, trwy sefydliadau cysylltiedig, yw darbwyllo ffermwyr yng Nghymru bod yna heriau iechyd a diogelwch difrifol ar ein ffermydd. Yn ail, mae’n rhoi cyngor ac arweiniad mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn gwella’r sefyllfa ac achub bywydau ar ein ffermydd.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae diwydiannau eraill fel adeiladu a chwarela wedi gwella’u safonau diogelwch yn wahanol i’r diwydiant ffermio, a bellach rydych chi chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd ar y fferm nag ar safle adeiladu.
Mae pob sefydliad sydd wedi cofrestru ar y ‘Siarter Iechyd a Diogelwch ar y Fferm’ wedi ymrwymo i’r egwyddor:
“Cydweithio i wneud ffermio’n ddiogel”
Mae'r weithrediaeth Iechyd a Diogelwch (HSE) yn rheoleiddio ac yn gweithredu Iechyd a Diogelwch. Ar eu gwefan mae'r holl ddeddfwriaeth a chyngor perthnasol ar weithio'n ddiogel.
Pethau i'w hystyried wrth gychwyn ar unrhyw dasg ar Fferm
The Personal Protective Equipment at Work (Amendment) Regulations 2022
WFSP - Llysgennad
A allech chi helpu i wneud ffermydd yng Nghymru’n fwy diogel! Rydym angen Llysgenhadon Diogelwch Fferm!
Ymgeisiwch nawrMae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) yn galw ar ffermwyr ledled Cymru i gamu ymlaen a dod yn Llysgenhadon Diogelwch Fferm gan helpu i hyrwyddo arferion gwaith mwy diogel a lleihau nifer y digwyddiadau sy’n newid bywydau ar y fferm.
Mwy o wybodaeth