BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Meini prawf sgorio

CYMHWYSTER 

Sylwer y bydd angen i gais ddangos 'Oes/Do/Ydi' ar gyfer pob maen prawf a restrir isod. 

 

Meini prawf cymhwyster 

Oes / Do / Ydi 

Na 

A oes o leiaf 5 busnes ffermio/tyfu yn gysylltiedig? 

☐ 

☐ 

A yw pob aelod sydd am fod yn rhan o’r prosiect wedi ail gofrestru gyda Cyswllt Ffermio? 

☐ 

☐ 

A yw'r holl gostau a ddangosir yng nghynnig y prosiect yn gymwys i'w hystyried fel rhan o'r meini prawf ariannu? 

☐ 

☐ 

A oes gan y prosiect hwn amserlen realistig ar gyfer cwblhau? 

☐ 

☐ 

A yw'r prosiect yn cyd-fynd ag o leiaf un weithred gyffredinol y cynllun ffermio cynaliadwy ac o leiaf un amcan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy? 

☐ 

☐ 

Yn seiliedig ar yr uchod, a yw'r prosiect hwn yn gymwys fel prosiect Grŵp Trafod? 

☐ 

☐ 

 

Bydd pob cais cymwys yn cael ei sgorio gan banel asesu (sy’n cynnwys aelodau o dîm Cyswllt Ffermio a staff allanol) a bydd angen i geisiadau ar gyfer prosiectau llwyddiannus ddangos y canlynol: 

  1. Yr angen am y gweithgaredd 
  1. Gallu i gyflawni 
  1. Gwerth am arian 
  1. Gallu i ychwanegu gwerth at gyflawniad y grŵp trafod 

 

Bydd pob gofyniad yn cael ei bwysoli ar 25%.  
 
Bydd y wybodaeth a ddarperir yn sail i'r meini prawf dethol a bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer proses asesu a gwerthuso y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniad ynghylch dyfarnu cyllid i'r cais. Wrth asesu ceisiadau, bydd Cyswllt Ffermio yn ceisio sicrhau dosbarthiad teg o brosiectau, sectorau a phynciau ledled Cymru. 
 
Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf graddio canlynol; 
 
  

 

Uchel (80-100%) 

Mae'r cais yn darparu tystiolaeth gadarn, fanwl a chlir mewn ymateb i'r holl ofynion 

Canolig (60-80%) 

Mae'r cais yn darparu ymatebion boddhaol a manwl yn erbyn y rhan fwyaf o'r gofynion 

Isel (40-60%) 

Mae'r cais yn darparu ymatebion anghyflawn neu annigonol posibl yn erbyn un neu fwy o'r gofynion 

Isaf posibl (>40%) 

Mae'r cais yn darparu ymatebion anghyflawn neu annigonol yn erbyn un neu fwy o'r gofynion 

 

 

Y trothwy ansawdd ar gyfer cais yw sgôr cyffredinol Canolig ar gyfer yr adrannau isod: 

  

 

Gofyniad 

Asesir adrannau yn erbyn pob gofyniad 

Yr angen am y gweithgaredd 

Trosolwg o'r prosiect - alinio strategol 

  1. Gallu'r prosiect i gyfrannu at heriau'r dyfodol 
  1. Gallu'r prosiect i fynd i'r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol 
  1. Gallu'r prosiect i ddarparu gwybodaeth newydd 
  1. Lefel yr ystyriaeth amgylcheddol, proffidioldeb busnes ac effeithlonrwydd cynhyrchu a ddangosir yng nghynnig y prosiect 

Gallu i gyflawni 

Cyflawni a rheoli’r prosiect 

  1. Lefel y meddwl a'r cynllunio a ddangosir ym methodoleg a rheolaeth y prosiect 
  1. A yw'r prosiect yn cynnig cyfle gwirioneddol sydd o fudd ehangach i'r diwydiant amaeth / tyfu yng Nghymru? 
  1. A fydd y prosiect hwn o fudd i ffermwyr/tyfwyr ar lefel ymarferol y tu allan i’r grŵp yng Nghymru?  

Gwerth am arian 

  1. Mae'r holl gostau a ddangosir yn y cais yn realistig ac yn deg 
  1. Bydd yr holl gostau a ddangosir yn arwain at werth da am arian   

Gallu ychwanegu gwerth 

Gallu ychwanegu gwerth i’r grwpiau trafod 

  1. A yw'r prosiect yn cynnig cyfle i’r aelodau ganolbwyntio ar agwedd ymarferol sy’n cyd-fynd â manyleb y grŵp trafod? 
  1. Lefel y meddwl a'r cynllunio a ddangosir i ddatblygu'r prosiect i sicrhau ei fod yn ychwanegu gwerth i gyflawniad y grŵp a'i bwrpas  

 

Bydd y ceisiadau sy'n cyflawni sgôr cyffredinol Canolig ar gyfer yr adrannau uchod yn cael eu rhestru yn nhrefn eu sgôr canrannol ar gyfer yr adrannau uchod a bydd yr arian sydd ar gael yn cael ei ddyfarnu i'r 18 cais sy'n sgorio uchaf. Noder, mae gan Cyswllt Ffermio'r hawl i beidio â dyfarnu cyfanswm y prosiectau yn y cyfnod ymgeisio hwn ac mae'n bosibl y bydd cyfnod ymgeisio arall yn y dyfodol. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.