BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Agrisgôp

Bwyd o’r Tir – Tyfu ar gyfer y dyfodol. Ceisiadau ar gyfer Rhaglen 2026 ar agor NAWR! 

Rhowch gynnig ar arallgyfeirio a meithrin cyfleoedd newydd ym maes garddwriaeth!

Trwy ymweliadau astudio sy’n arddangos cnydau llysiau a modelau busnes proffidiol, bydd y rhaglen hon yn ysbrydoli ffermwyr Cymru i arallgyfeirio i arddwriaeth ac i adeiladu busnesau llwyddiannus.

Bwyd o'r tir

Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy daith astudio dros nos i ymweld ag amrywiaeth o fusnesau garddwriaeth. Bydd un o’r teithiau astudio hyn wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru, lle bydd arbenigwyr o’r diwydiant yn rhannu cyngor busnes ac ariannol hanfodol i’ch helpu i ddatblygu eich menter garddwriaeth lwyddiannus eich hun. Cynhelir sesiynau rhithwir ategol hefyd lle byddwch yn clywed gan arbenigwyr o’r sector ac yn derbyn cymorth pellach ar gyfer eich syniadau arallgyfeirio.

Dyddiadau’r rhaglen    

Cyfarfod rhithwir 

Ar-lein - Cyflwyniad i’r rhaglen 

10 Awst 6 - 7pm 

Sesiwn breswyl 1 

Sir Gâr / Ceredigion 

20 & 21 Awst 

Cyfarfod rhithwir 

Ar-lein 

14 Medi 6 - 8pm 

Sesiwn breswyl 2 

Gogledd Cymru 

26 & 27 Medi 

Cyfarfod rhithwir 

Ar-lein 

12 Hydref 6 - 8pm 

Gallwn hefyd drefnu sesiynau un i un ar-lein i’ch cefnogi gyda’r cynllun 

Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 5yp ar 27 Gorffennaf 2026. Peidiwch â cholli’r cyfle!

Os hoffech drafod y rhaglen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hannah Norman ar hannah.norman@mentera.cymru neu 07497 368 476.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 16 mlwydd oed. Nid oes angen profiad ym maes garddwriaeth i wneud cais.

 

 


 

Fel un o'r gwasanaethau hwyaf o fewn Cyswllt Ffermio, mae Agrisgôp wedi cynorthwyo ffermwyr a thyfwyr i ddatrys problemau bywyd go iawn ar y cyd ers 2003. Mae'n wasanaeth hyblyg, dan arweiniad ffermwyr, sydd wedi'i adeiladu o amgylch eich anghenion.

Mae Agrisgôp, sydd wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer aelodau'r grŵp, yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu syniadau, mynd i'r afael â heriau, a symud prosiectau ymlaen fel rhan o grŵp cefnogol.

 

A allai Agrisgôp eich helpu chi?

  • Oes gennych chi syniad busnes neu arallgyfeirio newydd yr hoffech chi ei ddatblygu?
  • Ydych chi'n gweithio ar rywbeth nad yw'n cyrraedd ei botensial?
  • A fyddech chi'n elwa o gwrdd â ffermwyr neu dyfwyr o'r un anian?
  • A allai rhannu syniadau a phrofiadau eich helpu i ddod o hyd i atebion?

Beth i'w ddisgwyl:

  • Grwpiau bach (fel arfer 8–12 o bobl) dan arweiniad hwylusydd profiadol
  • Cyfarfodydd wedi'u trefnu ar amser a lle sy'n addas i'r grŵp (yn bersonol, ar-lein, neu hybrid)
  • Hyd grŵp hyblyg – o gyfarfod “gorchwyl a gorffen” untro i grwpiau a all gyfarfod sawl gwaith dros 18 mis
  • Sesiynau anffurfiol, ymarferol yn canolbwyntio ar eich nodau
  • Siaradwyr gwadd ar bynciau arbenigol
  • Ymweliadau astudio â busnesau llwyddiannus eraill
  • Costau cymwys wedi'u cynnwys, gan gynnwys lleoliadau, teithio, llety, siaradwyr a lluniaeth
  • Hyfforddiant un i un dewisol rhwng cyfarfodydd
     

Os oes gennych chi a ffermwyr neu dyfwyr eraill o'r un anian syniad ar gyfer grŵp Agrisgôp, ewch i gyfeiriadur Arweinwyr Agrisgôp ar-lein i ddod o hyd i arweinydd yn eich ardal a chysylltu â hwy.

Darllenwch am y nifer o brosiectau llwyddiannus Agrisgôp a'r hyn y mae eraill wedi'i gyflawni, yma.  

Am ragor o wybodaeth am Agrisgôp neu unrhyw wasanaethau Cyswllt Ffermio, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.