BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Bremenda Isaf

Diweddariad terfynol: Treialu cynhyrchu codlysiau-grawn fel bwyd ar gyfer pobl

Bremenda Isaf is a 100 acre county farm in Llanarthne,Carmarthenshire, recently acquired by Bwyd Sir Gar Food partnership, for an innovative food system development project.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf:
20 Mai 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Alex Cook
Lleoliad:
Bremenda Isaf, Carmarthen
Sector:
Garddwriaeth

Trosolwg

Mae Bremenda Isaf yn fferm y cyngor 100 erw yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, a brynwyd yn ddiweddar gan bartneriaeth Bwyd Sir Gâr, ar gyfer prosiect datblygu system fwyd arloesol. Nod y bartneriaeth, o dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, yw arddangos arallgyfeirio i gynhyrchu bwyd ar raddfa cae, gan ddefnyddio dulliau sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a charbon isel er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a chynyddu gwytnwch a bioamrywiaeth.

Bydd Bremenda Isaf yn treialu technegau plannu grawnfwyd gyda chodlysiau ar raddfa cae, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl.

Nod y prosiect yw:

  • Nodi ac arddangos cynhyrchu amrywiaethau codlysiau a gwenith sy'n addas i'w tyfu yn Sir Gaerfyrddin, a hefyd yn addas i'w bwyta gan bobl
  • Arddangos dull o blannu grawnfwyd gyda chodlysiau
  • Archwilio dulliau amaethu, cynaeafu a phrosesu ar gyfer y cnydau a ddewiswyd
  • Nodi cadwyn gyflenwi ar gyfer y cnwd, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol 

Mae'r fferm yn bwriadu gweithio gyda thîm arlwyo ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ailgynllunio bwydlen ddwy flynedd sydd eisoes wedi'i sefydlu o amgylch cynyddu cynhwysion tymhorol, lleol a chynaliadwy. Bydd y tîm ffermio ac arlwyo yn archwilio'r hyfywedd o ymgorffori codlysiau gwahanol i brydau bwyd, fel ffynonellau protein planhigion a dyfir yn lleol ac yn gynaliadwy.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Ecosystemau gwydn
  • Effeithlon o ran adnoddau

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Prif ganlyniadau

  • Mae’r fferm wedi datblygu dealltwriaeth dda o’r amrywiaethau a ddewiswyd, er gwaethaf effaith tymor oerach a gwlypach
  • Mae’r arbrawf wedi dangos bod modd tyfu pys Carlin yn llwyddiannus cyn belled i’r gorllewin â Sir Gâr
  • Mae’r arbrawf wedi adeiladu achos tystiolaeth i gael mwy o gyfleusterau prosesu, sychu a storio hygyrch yng Nghymru ar gyfer grawn a chodlysiau

Cefndir

Mae Bremenda Isaf yn fferm y Cyngor 100 erw yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, a brynwyd ar ddiwedd 2023 gan bartneriaeth Bwyd Sir Gâr, ar gyfer prosiect datblygu system fwyd arloesol. Nod y bartneriaeth, o dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, yw arddangos arallgyfeirio amrywiaeth o fentrau gyda ffocws ar ddefnyddio dulliau sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a charbon isel er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a chynyddu gwytnwch a bioamrywiaeth. Mae gwaith ail-ddylunio bwydlenni gan Gyngor Sir Gâr yn archwilio ffynonellau bwyd a chynaliadwyedd, ac yn disodli eitemau y gellir eu cynhyrchu’n fwy lleol a chynaliadwy lle bo hynny’n bosibl. Yn y tymor hwy, mae’r fferm yn anelu at gynhyrchu bwyd ar raddfa a fyddai’n gallu cyflenwi’r system gaffael leol, gan gyfrannu at y bwydlenni mewn ysgolion, cartrefi gofal a lleoliadau cyhoeddus eraill.

Yn ystod y tymor cyntaf, mae’r fferm wedi llwyddo i sefydlu gardd farchnad lwyddiannus ac wedi lansio cylch peiriannau ar gyfer cynhyrchwyr ar raddfa fach. Mewn ymgais i archwilio cnydau’r dyfodol ar raddfa cae, mae Bremenda Isaf wedi treialu cynhyrchu codlysiau a grawn gan ganolbwyntio ar gynhyrchiant bwyd ar gyfer pobl.

Diben y gwaith:

  • Nodi ac arddangos cynhyrchiant amrywiaethau o godlysiau a gwenith sy’n addas i’w tyfu yn Sir Gâr, sydd hefyd yn addas i gael eu bwyta gan bobl
  • Arddangos dull o ryng-gnydio grawn a chodlysiau
  • Archwilio dulliau trin, cynaeafu a phrosesu ar gyfer y cnydau a ddewiswyd
  • Canfod cadwyn gyflenwi ar gyfer y cnwd, gan gynnwys y sector cyhoeddus, preifat a chymunedol

Yr hyn a wnaed:

Cafodd y tir ei drin mewn pedair llain 60x5m dros ardal o 1500m2 gan ddefnyddio peiriant palu ac oged ar dractor cerdded (dwy olwyn) BCS. Ni chafodd y tir ei rolio o ganlyniad i ddiffyg amser.

Amrywiaethau a ddefnyddiwyd yn yr arbrawf

  • Gwenith ‘April Bearded’ 
  • Gwenith ‘Mulika’ 
  • Pys Carlin 
  • Pys ‘Daytona’ 
  • Rhyng-gnydio pys ‘Daytona’ a gwenith ‘Mulika’ 

Dewiswyd yr amrywiaethau gwenith i gymharu rhinweddau, gwytnwch a pherfformiad amrywiaeth treftadaeth hynach wedi’i addasu’n lleol gydag amrywiaeth fwy modern, mwy unffurf o ran geneteg.

Mae’r pys carlin yn gynnyrch amgen i ffacbys sy’n llawn maetholion ac sy’n cael ei dyfu’n draddodiadol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr. Roedd y fferm yn dymuno profi ei botensial i dyfu dan yr amodau gwlypach yn Ne-orllewin Cymru.

Argymhellwyd pys Daytona fel rhywogaeth a fyddai’n aeddfedu tua’r un pryd â’r gwenith, ac a fyddai felly’n addas ar gyfer un cynhaeaf.

Cafodd y cnydau eu hau â llaw gan ddefnyddio cwadradau i sicrhau gorchudd cyfartal ar gyfraddau hau safonol a argymhellir ar gyfer pob cnwd.

Darparwyd cyngor ychwanegol gan:

  • Mark Lea o Green Acres, Swydd Amwythig, ffermwr tir âr sy’n arbenigo mewn rhywogaethau gwenith treftadaeth amrywiol, codlysiau a threialon rhyng-gnydio.
  • Jerry Alford, Ymgynghorydd Tir Âr a Phriddoedd yng Nghymdeithas y Pridd a chydlynydd arbrawf Labordy Cae ‘Leguminose’ - Innovative Farmers.

Canlyniadau

Cafodd pob un o’r cnydau eu hau’n hwyr iawn yn  ystod wythnos gyntaf mis Mehefin. Roedd hyn o ganlyniad i’r gwanwyn gwlyb yn creu amodau anffafriol ar y tir ar gyfer paratoi a thrin y lleiniau arbrofol. Yn ogystal, cafwyd oedi gyda chontractwyr ar gyfer gwasgaru calch a thorri glaswellt, ynghyd ag oedi wrth dderbyn ategolion ar gyfer y tractor dwy olwyn.

Roedd pwysau chwyn yn uwch yn y gwely a oedd wedi’i ryng-gnydio o ganlyniad i’r ffaith nad oedd y pys wedi egino’n gyfartal, gan adael mwy o fylchau i’r chwyn sefydlu. Wrth gynaeafu ar raddfa fawr, gallai hyn achosi cymhlethdod pellach.

Yn dilyn un o’r blynyddoedd gwlypaf a gofnodwyd erioed, ac er gwaethaf hau’n hwyr, roedd y ddau fath o wenith yn barod i’w cynaeafu yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd. Cymerwyd sampl o’r gwenith ar gyfer arbrawf prosesu, gyda’r gweddill i gael ei aredig yn ôl ar ddechrau 2025.

Ni lwyddodd y ddwy rywogaeth o bys aeddfedu’n llawn gan eu bod wedi cael eu hau’n hwyr. Roedd eginiad y ddwy rywogaeth o bys yn anghyson. Gallai hynny fod o ganlyniad i ddiffyg paratoi’r tir i greu pridd mân. Fodd bynnag, roedd y planhigion pys a lwyddodd i dyfu’n iach ac yn gryf. Dangosodd yr arbrawf hwn fod pys Carlin yn gallu tyfu’n llwyddiannus cyn belled i’r gorllewin â Sir Gâr. Cyn yr arbrawf hwn, roedd y safle tyfu fwyaf gorllewinol wedi’i leoli yn Swydd Amwythig. Gall y pys hyn gynhyrchu codlysiau o ansawdd uchel sy’n llawn protein sy’n addas i’w bwyta gan bobl neu dda byw.

Roedd coesyn hir yr amrywiaeth o wenith treftadaeth ‘April Bearded’ (a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer toi) yn golygu ei fod yn fwy tebygol o blygu, gan ychwanegu her arall wrth gynaeafu â pheiriant.

O’r un tymor hwn, nid oedd unrhyw wahaniaeth sylweddol o ran gwytnwch y ddau fath o wenith i wrthsefyll plâu a chlefydau.

Cymerwyd samplau pridd cymharol o’r llain arbrofi gwenith ‘Mulika’ a oedd wedi’i rhyng-gnydio a’r llain heb ei rhyng-gnydio a’u cyflwyno fel rhan o’r arbrawf Labordy Cae ‘Leguminose’ Innovative Farmers i brofi am amrywiadau micro-faetholion rhwng y lleiniau. Disgwylir y canlyniadau yn ystod gwanwyn 2025.

Arsylwadau a myfyrdodau

Er gwaetha’r oedi gyda’r amseru o ganlyniad i’r tymor gwanwyn gwlyb, nid oedd modd cyflawni cynhaeaf llawn. Fodd bynnag, roedd yn amlwg bod yr holl rywogaethau a dreialwyd yn tyfu’n dda ar y safle yn Sir Gâr (tua 57 metr uwchben lefel y môr gyda chleibridd gwaddodol). 

Er gwaethaf buddion posibl rhyng-gnydio o ran cynnal iechyd y pridd, cafwyd nifer o anawsterau ymarferol wrth ddefnyddio dull o’r fath. Y cyntaf oedd yr amrywiaeth mewn amseroedd aeddfedu’r cnwd grawn a chodlysiau a allai effeithio ar ansawdd y cnwd ar adeg cynaeafu. Yr ail yw’r pwysau chwyn o fewn yr ardaloedd wedi’u rhyng-gnydio a allai gyflwyno mwy o halogiad hadau chwyn i’r cynhaeaf. Y trydydd yw’r offer arbenigol sy’n angenrheidiol i ddethol a gwahanu’r cnydau. 

Oherwydd diffyg peiriannau, prosesu a storfeydd priodol ar y safle ar gyfer grawn a chodlysiau ar hyn o bryd, bydd y fferm yn parhau i dreialu gwahanol fathau o rawn a chodlysiau ar raddfa fach i ddysgu am eu rhinweddau a’u potensial i dyfu ar y safle ar raddfa ehangach yn y dyfodol. Pan fyddant yn datblygu i dyfu ar raddfa cae, mae’r fferm wedi dod i’r casgliad nad ydynt yn gweld budd 
rhyng-gnydio yn hytrach na chylchdroadau traddodiadol a chyfnodau gorffwys ar gyfer y tir, sy’n cynnwys tyfu codlysiau fel rhan o’r cylchdro. Maent yn aros am fwy o dystiolaeth o ran y manteision dros yr anfanteision ymarferol cyn rhyng-gnydio eto.

Mae diffyg cyfleusterau prosesu, sychu a storio yn broblem. Mae’r arbrawf hwn wedi adeiladu’r dystiolaeth i gael mwy o gyfleusterau prosesu hygyrch a lleol ar gyfer grawn a chodlysiau. Ochr yn ochr â chynnal cyfleusterau eraill ar y cyd ar gyfer cynhyrchu llysiau, gan gynnwys uned becynnu a phrosesu, a chylch peiriannau ar gyfer tyfwyr, mae fferm sirol gyhoeddus megis Bremenda Isaf mewn sefyllfa dda i gynnig cyfleusterau prosesu sydd ar agor i’r cyhoedd, yn ogystal â llwybrau ar y cyd i’r farchnad. Felly, mae’r arbrawf wedi adeiladu achos ar gyfer ceisiadau ariannol am gyfleusterau ac offer o’r fath.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.