BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)

Fel yr amlinellir yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau, mae'n ofynnol i chi gwblhau dau DPA fesul Sector ac un DPA y Fferm gyfan o'r offeryn DATAFFERM+. 

Sylwer: Os nad ydych chi'n berchen ar neu'n cadw da byw perthnasol nac yn tyfu cnydau, rhaid i chi gwblhau tri DPA 'Fferm gyfan'.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau DPA yn llwyddiannus a’ch bod yn hapus â chywirdeb y canlyniadau a ddangosir, mae gennych yr opsiwn o gyflwyno'r DPA ar gyfer yr SFS.

Nodyn atgoffa – ar ôl i DPA gael ei gyflwyno ar gyfer yr SFS ni fyddwch yn gallu golygu'r data tan y flwyddyn galendr ganlynol, felly mae'n bwysig bod y data a ddarperir yn gywir, gan ddarparu cymariaethau defnyddiol yn y blynyddoedd nesaf.

Mae dwy ffordd o gyflwyno DPA ar gyfer yr SFS:

  • O dudalen canlyniadau'r DPA – ar ôl i chi fewnbynnu data i mewn i DPA, ar y dudalen ganlyniadau gallwch ddewis Cyflwyno ar gyfer yr SFS o'r ddewislen.
  • O'r rhestr DPA diweddar ar y dangosfwrdd neu ar y dudalen Menter, drwy glicio Rheoli a chyflwyno ar gyfer yr SFS o dan y golofn Camau gweithredu yn erbyn y DPA yr hoffech ei gyflwyno ar gyfer yr SFS

Pa bynnag lwybr a ddewiswch, ar ôl i chi glicio “Cyflwyno ar gyfer yr SFS” gofynnir i chi gadarnhau eich bod yn hapus â’ch dewis: 

Cliciwch ar Cyflwyno a byddwch yn gweld baner werdd yn cadarnhau bod y DPA wedi'i gyflwyno ar gyfer yr SFS:

Ni allwch olygu'r data yn y DPA mwyach tan y flwyddyn galendr nesaf.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich DPA cyntaf ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fe welwch botwm newydd yn ymddangos ar ochr chwith y dangosfwrdd a elwir yn “Fy DPAau ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy”.

Ar ôl i chi ddewis hyn, gallwch edrych ar bob DPA rydych wedi’u cyflwyno ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y rhestr o DPAau a gyflwynir ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn caniatau i chi wirio’ch bod wedi cwblhau a chyflwyno’r isafswm gofynol ar gyfer Gweithred Gyffredinol 3: Meincnodi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2x DPA fesul sector a x1 DPA fferm gyfan)


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.