Gyda chostau cynhyrchu cynyddol, mae Cornwal Uchaf wedi bod yn edrych ar leihau eu dibyniaeth ar ddwysfwyd wedi ei brynu i besgi 350 o ŵyn.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Dylan, Gwenda and Gwion Roberts
- Lleoliad:
- Gornwal Ucha, Gwytherin
- Sector:
- Biff, Defaid
Trosolwg
Gyda chostau cynhyrchu cynyddol, mae Cornwal Uchaf wedi bod yn edrych ar leihau eu dibyniaeth ar ddwysfwyd wedi ei brynu i besgi 350 o ŵyn.
Bwriad y prosiect yw cymharu’r system besgi bresennol o roi’r ŵyn dan do o fis Hydref ymlaen ar wellt gyda gwair a dwysfwyd ad lib gyda chnwd porthiant fydd yn cynnwys cymysgedd o 71.5% rhygwellt Eidalaidd tetraploid, 7% maip sofl Vollenda, a 21.5% rêp hybrid Interval. Bydd y rhygwellt Eidalaidd yn gwella trwch y cnwd gan helpu i gadw’r anifeiliaid yn lân a bydd hefyd yn cynnig porfa hyd y gwanwyn canlynol. Trwy gynnwys Vollenda ac Interval bydd y gymysgedd yn fwy atyniadol i’w fwyta a bydd yn ychwanegu protein ac egni at y deiet.
Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd yn y rhan hon o’r system, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- lleihau llygredd gwasgaredig a chyfrannu at ddŵr glân
- lleihau’r risg llifogydd a sychder
- cyfrannu at iechyd a lles anifeiliaid da
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Diweddariad Terfynol
Prif ganlyniadau:
- Y cnwd rêp/cêl oedd â’r cynhyrchiant uchaf, sef 10,233 kgDM/ha, 150% yn fwy na’r ail gnwd mwyaf cynhyrchiol, sef y gwndwn llysieuol a gynhyrchodd 6,713kg DM/ha.
- Roedd y gwndwn meillion coch yn darparu bron i deirgwaith y buddion o safbwynt elw ar fuddsoddiad o’i gymharu â’r gwndwn llysieuol, a dwywaith yr elw ar fuddsoddiad o’i gymharu â Redstart, yn seiliedig ar eu dyfalbarhad.
Cefndir:
Gyda chostau cynhyrchu cynyddol, mae Cornwal Uchaf wedi bod yn edrych ar leihau eu dibyniaeth ar ddwysfwyd wedi’i brynu i besgi ŵyn. Roeddent yn awyddus i archwilio opsiyinau amgen gan gynnwys codlysiau, cnydau porthiant a gwyndonnydd amlrywogaeth.
Diben y gwaith:
Gyda’r hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae prynu dwysfwyd yn gost y mae llawer o ffermwyr yn ei adolygu. Nod y prosiect hwn yw gwerthuso a allai tyfu eich porthiant eich hun leihau gorbenion y fferm yn sylweddol a gwella effeithlonrwydd y busnes.
- Cymharu cynnyrch ar ffurf tunelli o ddeunydd sych fesul hectar a dyfir ar 4 gwahanol fath o gnydau glaswellt a phorthiant - gwndwn amlrywogaeth, rhygwellt a meillion gwyn, rêp/cêl hybrid (Redstart) a rhygwellt gyda chymysgedd o feillion coch a gwyn.
- Cyflwyno cylchdro pori byr i wella ansawdd y glaswelltir a phori gwndwn iau, mwy cynhyrchiol.
Yr hyn a wnaed:
Dewiswyd tri chae ar gyfer yr arbrawf, a chafodd un o’r caeau mwyaf ei rannu’n ddau i greu dwy lain. Roedd yr arbrawf yn cynnwys cyfanswm o bedair llain o gnydau glaswellt a phorthiant amgen ar gyfer pesgi ŵyn.
Cafodd llain 1, 3 a 4 eu haredig ar ddechrau mis Mai a chafodd llain 2 ei chwistrellu gyda glyffosad a’i balu â pheiriant ar ddechrau mis Mehefin.
Gwnaed y canlynol ar y caeau -
- Aredig / Chwistrellu a phalu â pheiriant
- Gwasgaru calch a defnyddio oged â phŵer
- Oged gadwyn
- Gwasgaru Calcifert a gwrtaith Triple 16
- Rholio
- Drilio
- Rholio unwaith eto
Heuwyd y cymysgeddau hadau canlynol -
Heuwyd llain 1 gyda rhygwellt, a meillion coch a gwyn – cymysgedd hadau grassmaster HS Pro nitro ar gyfradd o 12.5kg/erw (30.9kg/ha).
Heuwyd llain 2 gyda rêp/cêl hybrid – hadau Redstart ar gyfradd o 2.5kg/erw (6.2kg /ha).
Heuwyd llain 3 ar gyfradd o 14.7 kg/erw (36.4kg/ha) gyda gwndwn amlrywogaeth yn cynnwys cyfanswm o 14 rhywogaeth gan gynnwys rhygwellt parhaol, rhonwellt, peiswellt, meillion coch a gwyn, ecotain, codog, ysgall y meirch a maglys rhuddlas.
Heuwyd llain 4 ar gyfradd o 14.7 kg/erw (36.4kg/ha) gyda gwndwn glaswellt confensiynol sy’n cynnwys rhygwellt parhaol canolog a hwyr, cymysgedd meillion a rhonwellt. Mae lleiniau 3 a 4 hefyd yn rhan o brosiect gwndwn llysieuol Cymru.
Rhannwyd pob llain yn 3 neu 4 padog i’w pori a chafodd y gyfradd stocio ei chyfrifo’n seiliedig ar orchudd glaswellt/porthiant a chyfanswm arwynebedd y llain ar gyfer pori cylchdro ar ôl diddyfnu o ganol mis Awst hyd fis Hydref.
Canlyniadau:
Ar ôl eu sefydlu, cafodd lleiniau 1, 3 a 4 eu pori ddwywaith cyn dechrau ein harbrawf gan fod pob un ohonynt yn cynnwys cyfran uchel o laswellt yn y gymysgedd i annog cadeirio. Mae ffigur 1 yn dangos cyfanswm y tunelli o borthiant ar ffurf kg deunydd sych fesul hectar a dyfwyd ar y lleiniau arbrofol rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2024. Y rêp/cêl porthiant (Redstart) a ddarparodd y cynnyrch uchaf, sy’n gyfwerth â 10,233kg DM/ha, o’i gymharu â’r gwndwn meillion coch ar 6,252 kg DM/ha a’r gwndwn llysieuol ar 6,713kg DM/ha. Y gwndwn rhygwellt a meillion coch a gynhyrchodd y cynnyrch lleiaf, sef 3,897kg DM/ha.
Ffigur 1. Tunelli a dyfwyd fesul hectar o wahanol gnydau porthiant rhwng mis Awst a mis Hydref
Ceir crynodeb o’r costau sefydlu yn nhabl 1 isod. Mae’r costau fesul hectar hefyd wedi cael eu cyfrif ar gyfer hirhoedledd disgwyliedig y gwyndonnydd i roi adlewyrchiad gwirioneddol o gostau tyfu a hadau.
Tabl 1. Costau sefydlu fesul hectar o gnydau porthiant amgen ar fferm Cornwal Uchaf¹
Llain | 1 | 2 | 3 | 4 |
£ | Meillion Coch Grassmaster Pro Nitro | Redstart (rêp/cêl hybrid) | Gwndwn llysieuol | Cymysgedd rhygwellt a meillion gwyn |
Chwistrellu | 15.04 | |||
Cynnyrch Round Up | 31.00 | |||
Palu â pheiriant | 84.40 | |||
Aredig | 72.67 | 72.67 | 72.67 | |
Trin (oged â phŵer ac oged gadwyn) | 93.48 | 93.48 | 93.48 | |
Drilio | 35.06 | 58.88 | 35.06 | 35.06 |
Gwrtaith | 190 | 264 | 190 | 190 |
Hadau | 239.59 | 64.84 | 280.10 | 174.63 |
Rholio | 16.23 | 16.23 | 16.23 | 16.23 |
Cyfanswm y gost fesul hectar (£) | £ 647.03 | £ 534.39 | £ 687.54 | £ 582.07 |
Cost fesul ha dros 4 blynedd (£) | 171.89 | |||
Cost fesul ha dros 5 mlynedd (£) | 129.41 | |||
Cost fesul ha dros 7 mlynedd (£) | 83.15 |
Mae’r elw ar fuddsoddiad a ddangosir yn nhabl 2 yn amlygu’r elw disgwyliedig yn seiliedig ar y gwyndonnydd yn cynnal lefel perfformiad 2024. Mae’r gwndwn meillion coch yn darparu bron i deirgwaith yr elw ar fuddsoddiad o’i gymharu â’r gwndwn llysieuol, a dwywaith yr elw ar gyfer Redstart, yn seiliedig ar eu hirhoedledd. Mae’n bwysig nodi nad yw’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r buddion amgen a ddarperir gan rai o’r dewisiadau cnydau hyn, megis gwelliannau o safbwynt iechyd y pridd, nodweddion anthelminitig, sefydlogi nitrogen a’r gallu i wrthsefyll sychder.
Tabl 2. Elw ar fuddsoddiad yr holl opsiynau pesgi ŵyn gan ystyried dyfalbarhad y cnwd/gwndwn
Meillion coch | Redstart | Gwndwn llysieuol | Rhygwellt a meillion gwyn | |
Cyfanswm cost sefydlu/ha | £ 647.03 | £ 534.39 | £ 687.54 | £ 582.07 |
Cyfanswm gwerth y porthiant/ha fesul blwyddyn¹ | £2,331.68 | £3,058.47 | £1,688.53 | £1,083.78 |
Gwerth y porthiant tynnu gwerth y borfa barhaol | £1,631.25 | £2,358.04 | £988.10 | £383.35 |
Blwyddyn 1 | 71% | 341% | -8% | -78% |
Blwyddyn 2 | 242% | 83% | -56% | |
Blwyddyn 3 | 413% | 175% | -34% | |
Blwyddyn 4 | 584% | 267% | -13% | |
Blwyddyn 5 | 755% | 9% | ||
Blwyddyn 6 | 31% | |||
Blwyddyn 7 | 53% |
¹ Pennir gwerth y porthiant gan ddefnyddio cyfrifiannell gwerth porthiant perthynol AHDB
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Profwch y pridd a chywirwch lefelau unrhyw faetholion sy’n angenrheidiol ar gyfer y porthiant penodol yr ydych yn bwriadu ei dyfu gydag ymgynghorydd FACTS cymwys
- Dewiswch gymysgeddau hadau sy’n cyd-fynd â’ch system – gan ystyried dyddiadau hau, hirhoedledd cnydau a defnydd hirdymor y cae.
- Porwch yn ysgafn ar ôl sefydlu i annog cadeirio ar wndwn sy’n cynnwys glaswellt
- Rhannwch gaeau’n badogau fel bo’r angen ar gyfer niferoedd yr ŵyn a ddymunir
- Mesurwch kgDM/Ha y porthiant a chyfrifwch y gyfradd stocio briodol - ac yna rheolwch y glaswellt sydd ar gael yn ôl cyflenwad a galw (cyfradd stocio vs. cyfradd twf)

Ffigur 1. Cnwd Redstart wedi’i sefydlu ar 17 Gorffennaf
Cysylltwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect hwn.