BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Moor Farm

Torri padogau pori ymlaen llaw

Mae Moor Farm yn cynnal system bori cylchdro drwy gydol misoedd yr haf ar gyfer y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn, a system bori achlysurol yn ystod y gwanwyn a’r hydref i sicrhau bod diet y fuches yn cynnwys cymaint o laswellt â phosibl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
25 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
David, Heulwen and Rhys Davies
Lleoliad:
Moor Farm, Holywell
Sector:
Llaeth

Trosolwg

Mae Moor Farm yn cynnal system bori cylchdro drwy gydol misoedd yr haf ar gyfer y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn, a system bori achlysurol yn ystod y gwanwyn a’r hydref i sicrhau bod diet y fuches yn cynnwys cymaint o laswellt â phosibl. Mae’r fuches Ffrwd Holstein Friesian yn wartheg o faint canolig gyda chynhyrchiant a chymeriant uwch na’r anifeiliaid croesfrid a geir mewn system loia yn y gwanwyn yn seiliedig ar ddulliau Seland Newydd. 

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio a yw torri ymlaen llaw yn ffordd effeithiol o gynnal ansawdd y borfa o fewn system y fferm. Ar hyn o bryd, mae’r ffermwr, Rhys, yn torri unrhyw badogau gyda gorchudd o fwy na 3,100kgDM/ha ymlaen llaw, a phan fo’r glaswellt yn goesog ac yn cyrraedd y cam atgynhyrchu. Byddai rhai padogau’n cael eu torri ymlaen llaw 3-4 gwaith yn ystod y tymor pori.

Mae’r ffermwr yn credu bod hyn yn ffordd gost effeithiol o gynnal ansawdd y borfa a lleihau baich chwyn yn y gwndwn yn ystod y tymor pori, gan hefyd sicrhau perfformiad a chymeriant glaswellt y fuches.

Yr hyn a fydd yn cael ei wneud

  • Bydd cae ger yr iard yn cael ei ddewis ar gyfer yr arbrawf, ac yn cael ei rannu’n dair llain 1 hectar:
    • Bydd Llain A yn llain reoli lle bydd yr anifeiliaid yn pori’r glaswellt heb unrhyw ymyrraeth gan beiriannau yn ystod misoedd yr haf.
    • Bydd Llain B yn cael ei rhannu’n ddwy ran lle bydd hanner y llain yn cael ei thorri ymlaen llaw a’r hanner arall yn cael ei adael heb unrhyw ymyrraeth.
    • Bydd Llain C yn cael ei thorri ymlaen llaw oddeutu 6-12 awr cyn pob cylchdro yn ystod y tymor pori
  • Bydd twf glaswellt yn cael ei fesur bob wythnos gan ddefnyddio mesurydd plât/system dorri a phwyso i bennu sawl tunnell o ddeunydd sych a gynhyrchir fesul hectar
  • Bydd samplau glaswellt ffres yn cael eu hanfon i labordy Sciantec ar gyfer profion sbectrosgopeg is-goch agos (NIRS) ac yn cael eu casglu cyn pori pob padog; bydd oddeutu 8-9 sampl yn cael eu cymryd ym mhob llain am weddill y tymor 

Ffigur 1. Glaswellt ffres yn cael ei dorri a’i anfon i’r labordy i’w ddadansoddi

Bydd lluniau’n cael eu tynnu cyn ac ar ôl pori pob llain drwy gydol y tymor
Bydd cwadrad yn cael ei ddefnyddio i asesu ansawdd gweledol y borfa, presenoldeb chwyn, dwysedd y borfa cyn, yn ystod ac ar ddiwedd yr arbrawf i nodi cynnydd ac unrhyw newid.

Ffigur 2. Defnyddio cwadrad er mwyn cyfrif chwyn a chynnal asesiad gweledol o ansawdd y borfa ar ddechrau’r prosiect

  • Bydd coleri cnoi cil yn cael eu gosod ar 10 buwch ar hap yn y fuches a bydd ymddygiad y gwartheg yn cael ei fonitro gan gynnwys cnoi cil, cymeriant bwyd, amser yn pori ac amseroedd gorwedd.
  • Bydd costau’n cael eu cyfrifo ar gyfer torri ymlaen llaw/tocio a byrnu pob padog
  • Bydd ffigwr elw ar fuddsoddiad (ROI) yn cael ei gyfrifo ar ddiwedd y prosiect ar gyfer torri ymlaen llaw i helpu i egluro a yw’n arf effeithiol i reoli’r borfa a gorchudd cyn pori ar y platfform bori

Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Storio carbon
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n effeithiol

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Canlyniadau arbrawf torri padogau ymlaen llaw ar fferm Moor Farm

Prif ganlyniadau

  • Nid yw torri glaswellt ymlaen llaw yn gwella ansawdd glaswellt – Egni Metaboladwy (ME), gwerth D, protein crai (Tabl 2)
  • Nid oes budd economaidd i dorri glaswellt ymlaen llaw mewn system bori cylchdro heblaw am y ffaith ei fod yn “edrych yn dda” ond mae’n gallu cynnig hyblygrwydd o ran rheolaeth (Tabl 4)
  • Gellir defnyddio’r dechneg i reoli gorchudd uchel (>3,400 kgDM/ha) a gwella’r defnydd o’r glaswellt pan nad ydych yn gallu fforddio tynnu padog allan o’r system fel gwarged. Gellir defnyddio’r dechneg yn effeithiol mewn sefyllfa sychder
  • Ni lwyddodd y dechneg o dorri glaswellt ymlaen llaw i annog mwy o dwf glaswellt – yn ein harbrawf, tyfodd y glaswellt a gafodd ei dorri ymlaen llaw 0.4 tunnell DM/ha yn llai na’r padog rheoli (Tabl 2)
  • Ni lwyddodd y dechneg o dorri glaswellt ymlaen llaw i leihau baich chwyn yn y padogau 

Cefndir

Mae fferm Moor Farm yn cynnal system bori cylchdro drwy gydol misoedd yr haf ar gyfer y fuches o wartheg Holstein Friesian sy’n lloia yn y gwanwyn, ynghyd â phori achlysurol yn y gwanwyn a’r hydref i sicrhau bod y gwartheg yn bwyta cymaint o laswellt â phosibl. Mae’r fuches yn cynnwys gwartheg o faint canolig gyda chynhyrchiant a chymeriant uwch na’r anifeiliaid croesfrid nodweddiadol a geir mewn system loia yn y gwanwyn yn seiliedig ar ddulliau Seland Newydd. 

Bu’r prosiect hwn yn archwilio effeithiolrwydd torri glaswellt ymlaen llaw er mwyn cynnal ansawdd y borfa. Yn y gorffennol, bu’r ffermwr yn torri unrhyw badogau gyda gorchudd dros 3,100kg DM/ha ymlaen llaw, neu pan fo’r glaswellt yn goesog ac yn cyrraedd y cam atgynhyrchu. Byddai’n gwneud hyn 3-4 gwaith bob tymor. Ar hyn o bryd, mae’r ffermwr yn credu bod torri ymlaen llaw yn strategaeth gost-effeithiol er mwyn cynnal ansawdd y borfa, lleihau chwyn, a sicrhau perfformiad a chymeriant glaswellt y fuches.

Diben y gwaith

Ychydig iawn o waith ymchwil sydd ar gael yn edrych ar dorri glaswellt ymlaen llaw ar system ffermio llaeth allbwn canolig yn seiliedig ar laswellt, felly sefydlwyd arbrawf i archwilio effaith torri glaswellt ymlaen llaw ar y canlynol:

  1. Ansawdd y borfa yn ystod y tymor pori
  2. Baich chwyn yn y padogau
  3. Twf glaswellt
  4. Cymeriant, cynhyrchiant ac ymddygiad anifeiliaid (amseroedd gorwedd a bwyta)
  5. Cost-effeithiolrwydd

Yr hyn a wnaed

  1. Dewiswyd cae ger yr iard ar gyfer yr arbrawf, a chafodd ei rannu’n ddau badog 1 hectar:
    a.    Padog A oedd y dull rheoli, sef pori’r borfa heb unrhyw ymyrraeth gan beiriannau yn ystod misoedd yr haf
    b.    Cafodd Padog B ei thorri ymlaen llaw oddeutu 6-12 awr cyn pob rownd yn ystod y tymor pori
  2. Mesurwyd twf y glaswellt bob wythnos neu bythefnos gan ddefnyddio mesurydd plât a’r system torri a phwyso i ganfod faint o dunelli o ddeunydd sych a gynhyrchwyd fesul hectar
  3. Casglwyd samplau glaswellt ffres cyn pori pob padog ac ar gyfer dadansoddiad Sbectrosgopi Is-goch agos (NIRS)
  4. Defnyddiwyd cwadrad i asesu ansawdd gweledol y borfa, presenoldeb chwyn, a dwysedd y borfa cyn, yn ystod ac ar ddiwedd yr arbrawf
  5. Gosodwyd coleri gwartheg cnoi cil ar 10 buwch ar hap yn y fuches, a chafodd ymddygiad y gwartheg ei fonitro gan gynnwys cnoi cil, cymeriant, ac amseroedd pori a gorwedd
     

Canlyniadau

Tabl 1. Tunnelli a dyfwyd fesul ha ar bob padog yn 2025

​​PadogArdalCyfanswm tunnell / haTunnell/ha
Ionawr - Ebrill
​ Tunnell/ha
Mai – Awst
MesuriadauCyfartaledd dyddiol
​Llain reoli ​0.856 ​6.4 ​1.5 ​4.9 ​14 ​46.8 
​Torri padog ymlaen llaw ​0.856 ​6 ​1.6 ​4.4 ​14 ​39.7​ 

Tabl 2. Dadansoddiad glaswellt

​​Triniaeth wedi’i reoli 
​Dyddiad​ ​3/5/25 ​18/5/25 ​5/6/25 ​29/6/25 ​15/7/25 ​31/7/25 
​Deunydd sych ​(g/kg) ​198 ​215 ​176 ​193 ​197 ​189 
​ME ​(MJ/kg) ​11.3 ​10.9 ​11 ​10.9 ​11 ​11.2 
​Protein crai ​(g/kg) ​185 ​184 ​191 ​210 ​169 ​184 
​Gwerth D​ ​72 ​69.2 ​70 ​69.4 ​69.7 ​71.2 
​Triniaeth ar badogau wedi’u torri ymlaen llaw
​Dyddiad​(g/kg) ​9/5/25 ​ ​2/6/25 ​28/6/25 ​11/7/25 ​ 
​Deunydd sych ​(MJ/kg) ​196 ​ ​216 ​208 ​210 ​ 
​ME ​(g/kg) ​11.2 ​ ​10.8 ​11 ​10.8 ​ 
​Protein crai ​ ​172 ​ ​161 ​204 ​176 ​ 
​Gwerth D​ ​71.2 ​ ​68.5 ​69.9 ​68.6 ​​ 

*Yn yr arbrawf hwn, casglwyd samplau glaswellt cyn mynd ati i dorri ymlaen llaw/pori; mewn tywydd sych. Byddai’r deunydd sych yn y porthiant sydd ar gael i’r gwartheg ar y padogau sydd wedi’u torri ymlaen llawn yn wahanol i’r canlyniadau uchod

Nid oedd y data a gasglwyd gan y coleri gwartheg (Ffigur 1) yn dangos unrhyw wahaniaeth amlwg mewn ymddygiad gwartheg ar y padog a dorrwyd ymlaen llaw o’i gymharu ag unrhyw badogau eraill a borwyd ar y fferm.
 

Rumination cow collar data

Ffigur 1. Data coleri cnoi cil

Chwyn ac ansawdd gweledol y borfa: Defnyddiwyd cwadrad i gyfrif chwyn ac i gynnal asesiad gweledol o ansawdd y borfa yn ystod yr arbrawf, ond ni welsom wahaniaeth sylweddol rhwng y triniaethau dros gyfnod yr arbrawf. Ni chafodd y chwyn eu chwistrellu yn ystod cyfnod yr arbrawf.

Opsiynau eraill ar gyfer rheoli padogau

  • Tocio - Gall ail-dyfiant gael ei effeithio os nad yw’r glaswellt yn cael ei docio ar unwaith ar ôl pori, byddai’n cynrychioli cost debyg i dorri ymlaen llaw.
  • Byrnu – Os oes digonedd o laswellt mewn mannau eraill ar y fferm, torri a byrnu padogau pori gyda glaswellt hirach fyddai’r opsiwn mwyaf addas er mwyn sicrhau’r defnydd gorau posibl.
  • Symud gwartheg yn amlach – Er mwyn lleihau costau tanwydd a pheiriannau o’i gymharu â thorri cyn pori ac ati, gall symud y fuches 2/3 gwaith o fewn cyfnod o 12 awr arwain at well defnydd o orchudd uwch.
     

Tabl 3. Galw am laswellt fesul buwch ar gyfer cynhyrchiant 

 

Pwysau byw’r gwartheg (kg)

*Kg MS/Buwch/Dydd

350

400

450

500

550

600

1

12.3

12.9

13.6

14.2

14.8

15.4

1.25

13.8

14.5

15.1

15.7

16.3

16.9

1.5

15.3

15

16.6

17.2

17.8

18.4

1.75

16.9

17.5

18.2

18.8

19.4

20

2

18.4

19.1

19.7

20.3

20.9

21.5

2.25

 

 

21.2

21.8

22.5

23

2.5

     

24.6

Galw ar gyfer gwartheg yn seiliedig ar borthiant o 12 MJME/kgDM; defnyddio 85% o’r porthiant

 

     (Agrinet, 2025)

*Kg MS/Buwch/dydd = Kg o solidau llaeth fesul buwch bob dydd

Tabl 4. Costau torri 1 hectar mewn 1 awr*

Llafur  £20-30
Dibrisiant peiriannau£15-25
Tanwydd £10-20
Traul £5-10
Cyfanswm £50-90

*Amcangyfrifon yw’r uchod. Byddai’r gost yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu p’un ai’r ffermwr neu gontractwr sy’n gweithredu’r offer, ynghyd â’r peiriannau a’r tractor a ddefnyddir o ran dibrisiant a defnydd o danwydd. 

Canlyniadau

  • Mae’r gwaith hwn wedi dangos bod rhywfaint o enillion yn bosibl trwy dorri padogau cyn pori. Fodd bynnag, os defnyddir y dull hwn, mae’n bwysig ystyried amseriad y torri a’r pori dilynol.
  • Agweddau ychwanegol ar y prosiect at y dyfodol: mae’n bosibl y byddai effeithiau mwy hirdymor ar bresenoldeb chwyn, ynghyd â deunydd organig y pridd, lefelau nitrogen a biomas microbaidd, yn ogystal â bioamrywiaeth a dal a storio carbon a fyddai’n gofyn am ymchwiliadau pellach. 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.