Ers bod yn rhan o wahanol grwpiau trafod Cyswllt Ffermio ers 2018, mae Chris wedi croesawu cyfleoedd i ddysgu a rhannu syniadau gyda ffermwyr eraill ac arbenigwyr yn y diwydiant, sydd wedi arwain at nifer o addasiadau i’r system ddefaid ar fferm Awel y Grug.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Chris & Glyn Davies
- Lleoliad:
- Awel y Grug, Welshpool
- Sector:
- Biff, Defaid
Trosolwg
Ers bod yn rhan o wahanol grwpiau trafod Cyswllt Ffermio ers 2018, mae Chris wedi croesawu cyfleoedd i ddysgu a rhannu syniadau gyda ffermwyr eraill ac arbenigwyr yn y diwydiant, sydd wedi arwain at nifer o addasiadau i’r system ddefaid ar fferm Awel y Grug.
Yn dilyn cyfarfod grŵp trafod gyda’r siaradwr gwadd Eurion Thomas o Techion, bu’r grŵp yn ystyried eu strategaeth reoli parasitiaid mewnol eu hunain, ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Ymgynghorydd Defaid Annibynnol, Kate Phillips, anogwyd Chris i fynd ati i weithio gyda’i filfeddyg (Milfeddygon Hafren) i adolygu eu defnydd o driniaethau anthelminitig.
Datgelodd prawf lleihau cyfrif wyau ysgarthol (FEC) neu brawf effeithlonrwydd Drensh Gwyn (1-BZ) ymwrthedd i’r grŵp hwnnw o anthelminitigau, a allai fod wedi datblygu o ganlyniad i orddibyniaeth ar y grŵp drensh unigol hwnnw. Cyngor Milfeddygon Hafren oedd defnyddio drensh Gwyn i drin Nematodirus yn unig, pan fo baich llyngyr Strongyle yn isel, ac i gylchdroi’r triniaethau drensh melyn (2-LV) a chlir (3-ML) am weddill y tymor, gan ddefnyddio drensh oren (4-AD) a phorffor (5-SI) ar adegau strategol, gyda’r nod o osgoi datblygu ymwrthedd i’r grwpiau drensh hynny.
Er mwyn gwarchod effeithlonrwydd yr anthelminitigau sydd ar gael ymhellach, mae Chris a Glyn wedi buddsoddi mewn technoleg yn Awel y Grug ar ffurf gwn dosio wedi’i galibradu’n awtomatig a fydd yn cysylltu gyda chlorian ŵyn y fferm ac addasu’r dos yn ôl pwysau’r oen, gan sicrhau bod y dos cywir yn cael ei roi i bob oen.
I ategu at y dechnoleg a brynwyd gan y fferm, bydd y prosiect hwn yn ceisio dangos sut y gellir defnyddio strategaeth driniaeth ddethol wedi’i dargedu i warchod effeithlonrwydd drensh, gan sicrhau cyn lleied o ddirywiad mewn perfformiad â phosibl. Byddwn hefyd yn ceisio cyfrifo’r arbedion ariannol drwy ddefnyddio cyfuniad o’r offer drensh awtomatig a’r strategaeth driniaeth ddethol o’i gymharu â’r strategaeth arferol o roi triniaeth drensh i grwpiau cyfan o ŵyn yn seiliedig ar ganlyniadau samplu cyfrif wyau ysgarthol y grŵp.
Bydd y prosiect yn cyfrannu at y deilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Safonau Iechyd a lles anifeiliaid uchel
- Effeithlonrwydd adnoddau
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Medi 2025
Beth sydd wedi cael ei wneud?
Mae’r system driniaeth ddethol wedi’i thargedu (TST) wedi dechrau ar fferm Awel y Grug ac mae eisoes wedi dangos canlyniadau positif. Fe wnaethom ni ddechrau drwy gynnal prawf lleihad cyfrif wyau ysgarthol (FEC) i nodi effeithiolrwydd anthelminitigau o fewn y ddiadell. Fe wnaethom ni ganfod ymwrthedd i ddrensh gwyn (1-BZ), ac felly dim ond ar gyfer rheoli Nematodirus pan fo baich llyngyr strongyle yn isel y gellir ei ddefnyddio.
Dros ddau gylch triniaeth yn unig, un ym mis Mehefin a’r llall ym mis Gorffennaf, rhoddwyd 855 o ddosiau yn llai i’r ŵyn, gan arwain at arbediad o bron i £60 mewn costau drensh a lleihau’r amser dosio’n sylweddol. Cymerodd un sesiwn ddosio ddiweddar 30 munud yn llai – teirgwaith yn gynt na thrin y grŵp cyfan, ac yn bwysicaf oll, nid yw llyngyr yn magu ymwrthedd i ddosio diangen.
Bu Fiona Kenyon, Prif Wyddonydd Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Moredun yn dadansoddi’r samplau cyfrif wyau ysgarthol i ganfod y rhywogaethau llyngyr a oedd yn bresennol. Fe wnaeth hyn helpu i ddeall pa rywogaethau llyngyr a oedd yn datblygu ymwrthedd i driniaeth llyngyr, ac mae’n caniatáu ar gyfer optimeiddio pan fo dosbarthiadau cyffuriau penodol ar eu mwyaf effeithiol.
Beth nesaf?
Wrth edrych at y dyfodol, bydd y rhaglen driniaeth ddethol wedi’i thargedu yn parhau ar fferm Awel y Grug a bydd cyfrif wyau ysgarthol yn cael ei fonitro drwy gydol yr hydref.