BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Hysbysiad Preifatrwydd Cyswllt Ffermio

Cyflwyniad/Cefndir

Nod Cyswllt Ffermio yw cyflwyno rhaglen arloesol i gefnogi'r diwydiant ffermio i sicrhau mwy o gynaliadwyedd, gwell cystadleurwydd a gwell perfformiad amgylcheddol i fusnesau ffermio yn unol ag amcanion rheoli tir cynaliadwy. Nod y rhaglen yw meithrin trosglwyddo gwybodaeth ac arloesedd mewn amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig. 

Er mwyn derbyn cymorth gan Cyswllt Ffermio, bydd angen i chi roi rhywfaint o ddata personol i ni. Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion prosesu a phenderfynu ar eich cymhwysedd Cyswllt Ffermio a cheisiadau am wasanaethau, monitro rhaglenni ac adrodd a chofnodi datblygiad personol parhaus. Gallwch gymryd rhan yn rhaglen Cyswllt Ffermio fel y mynnoch.

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a roddwch i’r rhaglen Cyswllt Ffermio.

Y Proseswyr Data yw contractwyr trydydd parti sy'n darparu'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol a gesglir yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg gyhoeddus a gyflawnir wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.

Pam mae angen i ni brosesu eich data personol?

Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion prosesu i gofnodi ac adrodd am weithgarwch y cyfranogwyr drwy'r rhaglen:

  • Ffurflen gofrestru ar gyfer cymhwysedd
  • Ffurflenni cais ar gyfer cymeradwyaeth gwasanaeth
  • Datblygiad Personol Parhaus - Storfa Sgiliau
  • Monitro ac adrodd ar raglenni.

O bryd i'w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn penodi gwerthuswyr ac ymchwilwyr i'n helpu i asesu perfformiad rhaglen Cyswllt Ffermio. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu data personol yn ddiogel gyda'r contractwyr hyn i'w galluogi i gynnal cyfweliadau neu arolygon o gyfranogwyr presennol a chyn-gyfranogwyr fel rhan o'r gwerthusiadau ffurfiol hyn. Efallai y cysylltir â chi i’ch gofyn i gymryd rhan mewn gwerthusiad o'ch profiad personol o weithgaredd dysgu. Os cysylltir â chi, bydd pwrpas y cyfweliad neu'r arolwg yn cael ei egluro i chi a byddwch yn cael yr opsiwn i ddweud ie neu na i gymryd rhan. Bydd contractwyr yn defnyddio'ch manylion at ddibenion cynnal y gwerthusiad yn unig ac yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR). Yna, bydd eich manylion yn cael eu dileu unwaith y bydd y contract gwerthuso wedi'i gwblhau.

Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth gyswllt i anfon cylchlythyr Cyswllt Ffermio atoch neu i roi gwybod i chi am wasanaethau neu ddigwyddiadau y credwn y bydd gennych ddiddordeb ynddynt fel cwsmer Cyswllt Ffermio. Os hoffech ddatdanysgrifio o'r cylchlythyr, e-bostiwch cyswlltffermio@menterabsunes.co.uk

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r cofrestriad/cais am 7 mlynedd, ac ar ôl hynny byddwn yn sicrhau ei bod yn cael ei gwaredu'n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i raglen Cyswllt Ffermio gael ei hadolygu yn 2025. Os caiff ei disodli gan raglen arall gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu gwasanaethau cymorth i'r diwydiant ffermio, byddwn yn parhau i brosesu eich data personol yn y ffordd a sefydlwyd yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn (lle mae'n briodol gwneud hynny) i'n galluogi i barhau i'ch cefnogi chi a'ch busnes.

A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu?

Bydd y data personol yn cael ei rannu gyda sefydliadau a gontractiwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r rhaglen Cyswllt Ffermio yn unig a’u contractwyr ac is-gontractwyr dethol.

Gall timau archwilio, archwiliad mewnol Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru gael mynediad at y data; dim ond i wirio gweinyddiaeth rhaglen Cyswllt Ffermio y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio.  

Bydd y data personol yn cael ei rannu gyda'r asiantaethau canlynol: 

  • Adrannau eraill Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • APHA
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  •  Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA a swyddfeydd amaeth eraill Llywodraeth y DU

Gellir rhannu gwybodaeth gyda'r asiantaethau uchod am y rhesymau canlynol:

  • Adnabod tirfeddianwyr/defnyddwyr mewn achosion o argyfyngau e.e. rheoli clefydau ac achosion o dorri rheolaethau;
  • Diogelu diddordeb ymgeiswyr mewn cadwraeth tir a materion a allai godi oherwydd ymholiadau am gyllid;
  • Caniatáu i sefydliadau partner gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.

Bydd y data personol yn hygyrch i Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (KAS) a cyrff ardoll ar gyfer ymchwil, dadansoddi ystadegol (ni ellir adnabod unigolion ohono), monitro cyfleoedd cyfartal a chwblhau adroddiadau o ddata cyfanredol i'w gwneud ar gael i'r cyhoedd drwy dudalennau rhyngrwyd Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gefnogi unrhyw geisiadau a wnewch o dan fecanweithiau cymorth eraill.

Eich hawliau:

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun; 
  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • I ‘ddileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau); a
  • Chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion Cyswllt

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghymru: 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth — Cymru, 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH. Rhif Ffôn 0330 414 6421. E-bost: wales@ico.org.uk Gwefan: www.ico.org.uk

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data: 

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ 

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.