gwnewch yn siŵr fod eich ‘curriculum vitae’ yn denu sylw – am y rhesymau cywir!
Ydych chi angen cv ‘ardderchog’ a fydd yn tynnu sylw darpar gyflogwr – neu unrhyw un arall y mae angen i chi a’ch cymwysterau greu argraff arnynt - am y rhesymau cywir?
Yn hytrach na dim ond rhestru beth rydych chi wedi'i wneud a phryd, bydd cv rhagorol yn dangos, mewn ychydig eiriau, yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu neu ei gyflawni'n bersonol.
Gallai eich helpu i gyrraedd y rhestr fer a chael eich gwahodd am y cyfweliad hollbwysig hwnnw!
Dechreuwch baratoi eich cv heddiw gan sicrhau ei fod yn denu sylw.
If you need a more accessible version of this document please email businesssupport@gov.wales. Please tell us the format you need. If you use assistive technology please tell us what this is.
Mae'r canllawiau yma’n cynnwys awgrymiadau’n dweud sut a ble i ddechrau; fformatio; pa wybodaeth i'w chynnwys; trefn gronolegol a ‘chynghorion’ defnyddiol.
If you need a more accessible version of this document please email businesssupport@gov.wales. Please tell us the format you need. If you use assistive technology please tell us what this is.
Bydd y cv enghreifftiol yma’n eich helpu i feddwl am eich sgiliau, eich nodweddion, eich profiad a’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni a'r ffordd orau o'u gosod allan. Bydd yn rhoi syniadau i chi sut i sicrhau bod eich CV yn dangos yr hyn y gallech ei gyfrannu i'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani a pham yr ydych yn haeddu cael cyfweliad.
If you need a more accessible version of this document please email businesssupport@gov.wales. Please tell us the format you need. If you use assistive technology please tell us what this is.
Addaswch a chadwch y templed ar-lein yma i greu eich cv ‘safonol’ newydd y gallwch ei diweddaru neu ei ‘theilwra’ ar gyfer unrhyw swydd y byddwch yn gwneud cais amdani yn y dyfodol.