BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Ffermydd Glyn Arthur

Adfywio Coetir Presennol yn Glyn Arthur Farms Drwy Reolaeth

Mae'r tir ar fferm Glyn Arthur mewn dyffryn sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin i lawr o fryngaer Foel Arthur, ac yn rhan o Fryniau Clwyd yn Sir Ddinbych.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
19 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Sarah Hammond and Robert Williams
Lleoliad:
Ffermydd Glyn Arthur, Llandyrnog
Sector:
Defaid

Trosolwg

Mae'r tir ar fferm Glyn Arthur mewn dyffryn sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin i lawr o fryngaer Foel Arthur, ac yn rhan o Fryniau Clwyd yn Sir Ddinbych. Mae'r tir yn ymestyn dros y mynydd i'r gogledd, ac i'r de i ddyffryn llai Gales Uchaf. Mae’n gyfanswm o tua 400 erw. Mae tua 30% yn fynydd heb ei wella ac wedi'i led-wella, a 35% yn laswelltir wedi'i wella. Mae peth ohono’n cael ei dorri a pheth yn cael ei bori yn unig. Mae 15% o’r tir yn goetir a choed, ond mae yna hefyd lawer o barcdir hynafol, coed gwrychoedd, a chynefin glaswelltir Coediog allweddol, ynghyd â rhostir a glaswelltir heb ei wella - sy’n brin bellach.

Mae yna lawer o ardaloedd o goed llydanddail a chonwydd, wedi'u ffensio ac yn agored i bori; rhywfaint o goetir llaith, coed parcdir a nifer trawiadol o goed hynafol o sawl rhywogaeth wahanol – Derw, Helyg, Llarwydd, Gwernen a Chnau Ffrengig hen iawn ger Gales Uchaf.

Mae'r clystyrau caeedig o goed yn amrywio o ran rhywogaethau, gyda chlystyrau o Larwydd, Pinwydden a chollddail cymysg. Mae gan y rhan fwyaf isdyfiant trwchus o redyn a mieri. Cafodd y coetir ei dorri diwethaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yna plannwyd llarwydd Ewropeaidd yn ystod yr 1960au. Mae clychau'r gog hefyd i'w cael mewn rhai ardaloedd sy'n arwydd o goetir hynafol.

Nod y prosiect yw datblygu cynllun rheoli ymarferol ar gyfer y coetir a fydd yn darparu ffrwd incwm ychwanegol i'r busnes ffermio. Byddai’r cynllun yn ystyried sawl opsiwn rheoli:

  • Adfer y coetir brodorol 
  • Teneuo i ryddhau coed aeddfed sy'n cael eu boddi gan isdyfiant 
  • Teneuo i ffafrio gorchudd di-dor o gonwydd
  • Teneuo a choed cysgod i achub y blaen ar glefyd llarwydd posibl
  • Clirio’r ffynidwydd Douglas i godi incwm a newid i goetir brodorol 
  • Teneuo i wella ansawdd y pren mewn clystyrau gwern
  • Ffens i gadw stoc allan er mwyn cynyddu planhigion y ddaear a gwerth bioamrywiaeth 
  • Rheoli’r llarwydd Ewropeaidd hynafol fel safleoedd nythu adar ysglyfaethus 

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon 
  • Ecosystemau cydnerth
  • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Tirweddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol gwarchodedig 
  • Aer Glân; Gostyngiad mewn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr; Gwneud y mwyaf o storio carbon.
  • Dŵr Glân, Lleihau risg llifogydd a sychder

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Diweddariad Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Mae’r cynllun rheoli coetir ar fferm Glyn Arthur wedi arwain at dynnu 228 tunnell o goed yn yr ymarfer teneuo cyntaf, gan dderbyn £75/tunnell ar gyfartaledd ar gyfer gwerthiannau pren yn erbyn cost o £55/tunnell argyfer cwympo a echdynnu a £13/tunnell ar gyfer cludo o’r coetir i ochr y ffordd. Mae hyn yn gyfystyr ag incwm ychwanegol o £2,791 ar gyfer y fferm ar ôl ystyried costau’r contractwyr.
  • Bydd ôl-gwympo yn cynhyrchu ansawdd a chynnyrch pren gwell drwy weithgareddau teneuo dethol, gan ganolbwyntio ar goetiroedd hŷn yn Lodge Wood er mwyn cynyddu ansawdd yn gyflym. Amcangyfrifir bod y gynyddran o ran cyfanswm pren fesul blwyddyn yn 20.1m3/ha.
  • Mae Glyn Arthur wedi datblygu gwybodaeth a hyder i barhau gyda’r trefniadau rheoli coetir ar y fferm.

Cefndir:

Mae’r coetir ar fferm Glyn Arthur yn ymestyn dros ardal o oddeutu 20 hectar (ha), gan gynnwys planhigfeydd conwydd cymysg, coetir lled-naturiol a pharcdir hanesyddol gyda choed aeddfed ar wasgar. Dros y 50 mlynedd diwethaf mae hunan-deneuo wedi digwydd mewn planhigfeydd cymysg o ganlyniad i gystadleuaeth, plâu a chlefydau.

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar greu cynllun rheoli coetir cynhwysfawr i greu incwm ychwanegol ar gyfer y fferm.

Mae’r cynllun wedi ystyried sawl opsiwn rheoli:

  • Adfer coetiroedd brodorol a theneuo ardaloedd sydd wedi gordyfu er budd coed aeddfed.
    Cyflwyno arferion teneuo rheolaidd i symud tuag at goedwigoedd gorchudd parhaus.
  • Adfer Planhigfeydd ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) trwy ailstocio gyda rhywogaethau amrywiol, gan sicrhau adnoddau pren ar gyfer y fferm at y dyfodol.
     

Diben y gwaith:

  1. Datblygu cynllun rheoli a fydd yn cyd-fynd ag opsiynau rheoli tir yn gynaliadwy er mwyn gwella isadeiledd gwyrdd ar y fferm i wella a chynyddu faint o garbon sy’n cael ei storio, bioamrywiaeth, ansawdd aer a dŵr a chreu incwm drwy ddefnyddio’r buddion aml swyddogaeth y mae coed yn eu darparu. Bydd gwella cyflwr y coetir a dod â’r coetir yn ôl i weithredu fel ased gweithredol i’r busnes fferm yn allweddol.
  2. Archwilio marchnadoedd ar gyfer ystod o’r rhywogaethau sydd ar gael ac ymchwilio i ychwanegu at werth y pren fel adnodd wedi’i felino ar gyfer y fferm.
  3. Y dull CCF yw'r penderfyniad strategol a ddewiswyd a wnaed er budd ecolegol ac economaidd hirdymor. Bydd hyn yn creu cymysgedd amrywiol o rywogaethau ar draws y coetir cyfan, gan bylu ffiniau traddodiadol yr ardaloedd.

Yr hyn a wnaed:

  1. Cynhaliwyd trafodaeth ford gron i ganfod amcanion Glyn Arthur a’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol
  2. Creu amserlen cynllun gweithredu i olrhain cynnydd ac i bennu amserlen ar gyfer cyfarfodydd trafod allweddol fel y bo’r angen
  3. Adolygu a dehongli’r arolwg asesu coetir
  4. Cyflwyno cais ar gyfer archwilio llarwydd i CNC
  5. Cyflwyno trwydded cwympo coed gan gynnwys manylion ailstocio ardaloedd sydd wedi’u cwympo
  6. Creu cynllun rheoli coetir a’i gyflwyno i CNC ar gyfer cymeradwyaeth
  7. Cynhyrchu adroddiad rhwydwaith Coedwriaeth Anarferol yn seiliedig ar fesuriadau’r ardal yn y coetiroedd i asesu statws iechyd ac ansawdd rhywogaethau coed unigol
  8. Gan fod Glyn Arthur wedi comisiynu contractwr cyn dechrau’r prosiect, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y rhaglen waith a’r llwybr echdynnu. 
  9. Marcio’r llain sampl ar gyfer pren yn Lodge Wood a darparu hyfforddiant i Sarah
  10. Parhau i gysylltu gyda CNC ac awdur y cynllun i sicrhau’r dyddiad targed ar gyfer derbyn cymeradwyaeth. 

Canlyniadau:

Mae’r prosiect wedi arwain at y canlyniadau canlynol:

  • Sefydlu data gwaelodlin i olrhain esblygiad cymysgeddau rhywogaethau a meintiau coed wrth i goedwigoedd newid i fod yn orchudd parhaus.
  • Newid o goetir heb ei reoli sy’n cynnwys rhywogaeth unigol a choed o’r un oedran i goetir gyda chymysgedd o oedrannau a rhywogaethau ar fferm Glyn Arthur, gan gynyddu gwytnwch i effeithiau newid yn yr hinsawdd.
  • Mae teneuo wedi lleihau cystadleuaeth ac yn gwarchod systemau gwreiddio coed hynafol ar y parcdir gan hefyd deneuo’r elfennau conwydd.
  • Roedd y cynllun rheoli’n cynnwys ymyrraeth gyflym i leihau twf y stoc llarwydd, gwella ansawdd y coesynnau, ac arallgyfeirio rhywogaethau drwy blannu i gyfoethogi o ganlyniad i fygythiad clefydau. Yn ogystal, teneuo dethol i dynnu coed gyda chlefyd coed ynn a chadw’r unigolion sy’n gallu gwrthsefyll, gan hybu datblygiad y goron a magu ymwrthedd i glefydau
  • Mae’r cynllun rheoli coetir ar fferm Glyn Arthur wedi arwain at dynnu 228 tunnell o goed yn yr ymarfer teneuo cyntaf, gan dderbyn £75/tunnell ar gyfartaledd ar gyfer gwerthiannau pren i chwe phrynwr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi leol. 
  • Mae hyn yn gyfystyr ag incwm ychwanegol o £2,791 ar gyfer y fferm ar ôl ystyried costau’r contractwyr. 
  • Bydd y broses ôl-gwympo coed yn cynhyrchu gwell ansawdd a chynnyrch pren drwy weithgareddau teneuo dethol, gan ganolbwyntio ar goetiroedd hŷn yn Lodge Wood er mwyn cynyddu ansawdd yn gyflym. Amcangyfrifir bod y gynyddran o ran cyfanswm pren fuel blwyddyn yn 20.1m3/ha, Tabl 1.

Tabl 1. Cynyddran gwerth blynyddol 
 

 

 

Lodge Wood

£/ha

Gwerth tir

Gwerth pren sy'n sefyll

Gwerth pren posibl

Cyfanswm gwerth sy'n sefyll

Cyfanswm gwerth posibl

Cynnydd gwerth blynyddol

 

5,000

17,100

26,902

22,100

31,902

807

Sut i roi’r cynllun rheoli coetir ar waith ar eich fferm:

  1. Siaradwch gyda’ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol i drafod sut y gallech ddatblygu eich cynllun rheoli coetir eich hun gyda chymorth arbenigwyr coetir
  2. Cadarnhewch ffynonellau ariannol (grantiau, incwm y fferm) a dyrannwch gyllid ar gyfer pob gweithgaredd a gynllunir.
  3. Pennu a yw’r sgiliau a’r capasiti ar gael gennych yn fewnol i gyflawni’r gwaith. Os nad yw’r rhain ar gael, dewch o hyd i gontractwyr allanol (coedwigwyr, tyfwyr coed, gweithredwyr peiriannau).
  4. Archwiliwch wahanol ffyrdd o werthu ar gyfer a) pren sy’n sefyll neu b) pren ar ochr y ffordd. Gallai hyn gyd-fynd â’r broses o ganfod contractwyr i wneud y gwaith.
  5. Trwyddedau a Rheoliadau:
    1. Trwyddedau Cwympo: Sicrhau bod yr holl drwyddedau cwympo yn eu lle cyn dechrau ar unrhyw waith cwympo coed.
    2. Rheoliadau Amgylcheddol: Deall a chydymffurfio gyda rheoliadau’n ymwneud â rhywogaethau gwarchodedig, ansawdd dŵr, coetir hynafol a nodweddion archaeolegol.
    3. Iechyd a Diogelwch: Datblygu cynllun iechyd a diogelwch cadarn ar gyfer yr holl weithrediadau coedwig, gan gynnwys asesiadau risg ar gyfer pob tasg.
  6. Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o'r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.

Llinellau Amser Prosiect Blaenorol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.