Mae fferm Glyn Arthur, ger Llandyrnog, yn cadw diadell o 650 o famogiaid magu a 200 o ŵyn benyw cyfnewid sy’n cynnwys mamogiaid Cheviot x Texel x mynydd Cymreig. Mae’r rhan fwyaf o’r tir mewn cynllun dim mewnbynnau ac mae’n 160 ha i gyd.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Sarah Hammond and Robert Williams
- Lleoliad:
- Ffermydd Glyn Arthur, Llandyrnog
- Sector:
- Defaid
Trosolwg
Glyn Arthur Farm near Llandyrnog runs a flock of 650 breeding ewes and 200 ewe lamb replacements made up of Cheviot x Texel x Welsh mountain ewes. Most of the land is under a no input scheme and covers a total area of 160 ha.
The project will focus on flock performance to increase lambing percentage, lamb performance pre and post weaning and improve the overall health of the flock. Through the project, Joseph Angell BVSc MSc DipLSHTM PhD MRCVS from Wern Vets will provide input and guidance to improve reproductive performance and overall health of the flock. A key part of the project will focus on genetics and refining selection guidelines to implement on the farm.
The main areas to focus on are:
- Improv the scanning percentage by 20%>
- Improve rearing percentage by at least 10% which would equate to around £2500 increased profits
- Identify health issues which could affect flock performance - e.g. liver fluke, parasites and trace element deficiencies.
The project will also contribute to the Sustainable Land Management outcomes including:
- maintain resilient ecosystems on farm
- contribute to high flock health and welfare
- continue to protect natural landscapes
Latest Project Timeline
Medi 2025
Beth sydd wedi cael ei wneud?
Mae Glyn Arthur Farms wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’u cynllun rheoli cyn troi’r defaid at yr hwrdd. Cwblhawyd ymarfer sgrinio cynhwysfawr ar gyfer Lymffadenitis Crawnllyd (CLA) yn ddiweddar, ynghyd â gwiriad gweledol ar gyfer lympiau a phrofion seroleg ar 20 o ddefaid, gyda phob canlyniad yn glir. Mae’r canlyniad hwn yn galonogol iawn ac yn nodi bod statws iechyd y ddiadell yn dda.
Mae sgrinio ar gyfer CLA yn gam hanfodol er mwyn mynd ati’n rhagweithiol i reoli iechyd y ddiadell. Mae’n adnodd defnyddiol arall ar gyfer monitro iechyd y ddiadell, gan nad yw arwyddion gweledol megis lympiau bob amser yn amlwg neu’n hawdd eu canfod. Mewn blynyddoedd blaenorol, cafodd lympiau eu canfod wrth gneifio ond nid oedd modd eu gweld gyda’r llygad nes bod y defaid yn cael eu dal â llaw. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd dulliau sgrinio trylwyr, y tu hwnt i wiriad gweledol syml, i ganfod problemau posibl yn gynnar ac atal lledaeniad y clefyd. Mae’r canlyniadau clir yn dilyn y gwiriad gweledol a’r profion seroleg eleni yn arwydd cadarnhaol o reolaeth effeithiol.
Cafodd yr ŵyn eu diddyfnu’n llwyddiannus tair wythnos yn gynt na blynyddoedd blaenorol ar gyfartaledd. Nod yr ymyrraeth gynnar hon yw gwella cyflwr corff mamogiaid, gan roi mwy o amser iddynt adfer a pharatoi ar gyfer y tymor bridio sydd i ddod.
Mae Sgôr Cyflwr Corff cyfartalog y mamogiaid yn 2 i 2.5, sy’n fan cychwyn da ar gyfer mamog ar yr ucheldir. Fodd bynnag, y nod yw cyrraedd sgôr o 3 i 3.5 cyn cyflwyno’r hwrdd. O ganlyniad i brinder glaswellt ar ôl diddyfnu, mae Sarah yn monitro’r sgôr cyflwr corff yn wythnosol i sicrhau bod mamogiaid yn cynnal eu cyflwr ac yn cyrraedd y sgôr hwn. Os bydd y sgôr cyflwr corff yn gostwng, bydd gwair ychwanegol yn cael ei roi i’r ddiadell.
Beth nesaf?
Y cam nesaf yw casglu samplau gwaed gan y mamogiaid dros yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu eu statws elfennau hybrin, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau’r ffrwythlondeb gorau posibl ac iechyd yr embryonau cyn troi at yr hwrdd.