Meincnodi cwestiynau:
Mae meincnodi yn offeryn rheoli pwerus sy'n eich galluogi i fesur perfformiad eich fferm a chymharu canlyniadau â pherfformiad blaenorol, ffermydd tebyg a chyfartaledd y diwydiant.
Mae Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) yn fetrig mesuradwy sy'n helpu ffermwyr i olrhain a gwerthuso eu perfformiad gweithredol, ariannol ac amgylcheddol i gyflawni nodau busnes
Mae cymorth TG ar gael drwy Cyswllt Ffermio, gallwch naill ai gysylltu â'ch Swyddog Datblygu lleol, neu glicio ar y ddolen hon i ddarganfod mwy
DATAFFERM+ cwestiynau:
Mae mynediad ar gael i DATAFFERM+ drwy wefan Cyswllt Ffermio, o dan yr adran Meincnodi. Bydd angen i chi fod wedi cwblhau eich manylion One Login Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ac wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i gael mynediad at yr offeryn hwn.
Mae 7 sector craidd wedi'u cynnwys yn yr offeryn ar hyn o bryd, sef:
- Tir Âr
- Bîff
- Llaeth
- Garddwriaeth
- Moch
- Dofednod
- Defaid
Rydym yn edrych ar ddatblygu'r offeryn i gynnwys sectorau eraill.
Os na ellir dewis eich sector ar y rhestr, naill ai nad yw'r sector ar gael yn yr offeryn eto, neu mae eich dewis o sectorau o fewn Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn anghywir. Ewch yn ôl i RPW a gwiriwch eich dewis sector, yna dychwelwch i'r offeryn i barhau.
Mae'r DPAau cyfredol sydd ar gael yn yr offeryn isod. Byddwn yn datblygu DPAau newydd yn y dyfodol, ac mae argymhellion bob amser yn ddefnyddiol, rhannwch y rhain gyda'ch swyddog datblygu lleol.
Tir Âr:
- defnydd o bryfleiddiaid £/ha
- defnydd o chwynladdwyr £/ha
- costau gwrtaith £/ha
- defnydd o nitrogen kgN/ha
- cynnyrch t/ha ar gyfer grawn a rêp had olew
- cynnyrch t/ha ar gyfer tatws
Bîff:
- cyfradd anifeiliaid cyfnewid buchesi sugno
- % o wartheg sugno a heffrod a oedd wedi lloia yn ystod y chwe wythnos gyntaf
- ysbaid lloia
- oedran buwch sugno adeg lloia cyntaf
- cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) - pesgi gwartheg bîff
- cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) - anifeiliaid stôr sy'n tyfu
- cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) lloi 200 diwrnod
- defnydd o ddwysfwyd kg / pen - pesgi bîff
- oedran gwartheg adeg lladd
- nifer y lloi a fagwyd fesul buwch
- % marwolaethau buchod
Llaeth:
- % cyfradd beichiogrwydd gwartheg
- ysbaid lloia
- % o wartheg a fu’n lloia yn ystod y chwe wythnos gyntaf
- cyfradd stocio ar gyfer gwartheg llaeth fesul hectar
- buwch - cyfanswm cost porthiant a brynwyd ceiniog y litr (ppl)
- defnydd o ddwysfwyd ar gyfer gwartheg godro kg / l
- cyfradd anifeiliaid cyfnewid y fuches laeth
- heffrod - oedran adeg lloia cyntaf
- % cyfartaledd cynnwys protein llaeth
- llaeth a gynhyrchir litrau/buwch/blwyddyn
Garddwriaeth:
- cyfaint fesul metr2
- gwerth gwerthu fesul metr2
- elw gros
- defnydd o ddŵr (litrau)
Moch:
- mochyn - cymhareb Trosi Bwyd Anifeiliaid (FCR)
- mochyn - Cynnydd Pwysau Byw Dyddiol (DLWG) o ddiddyfnu i besgi g/dydd
- oedran diddyfnu porchell (dyddiau)
- toreidiau fesul hwch y flwyddyn
- cyfradd hychod cyfnewid (%)
Ieir:
- brwyliaid - Cymhareb Trosi Porthiant (FCR)
- ieir dodwy - cymeriant porthiant g / aderyn / dydd
- ieir dodwy - costau milfeddygol ceiniog/aderyn
- brwyliaid - costau milfeddygol ceiniog/aderyn
- % marwolaethau cronnus adar
- % wyau o ansawdd cyntaf
- wyau fesul aderyn a gedwir
Defaid:
- cyfradd stocio ar gyfer defaid/ha
- colledion ŵyn - sganio i fagu (fel % o ŵyn wedi'u sganio)
- % sganio mamogiaid
- porthiant a brynwyd £/pen - mamogiaid bridio
- porthiant a brynwyd £/pen - ŵyn stôr a brynwyd
- defnydd o ddwysfwyd ŵyn y pen
- costau milfeddygol £/pen - mamogiaid bridio
- % magu ŵyn
- % marwolaethau - ŵyn o'u prynu i'w gwerthu
- Cynnydd Pwysau Byw Dyddiol (DLWG) - o adeg prynu i adeg pesgi
- Cynnydd Pwysau Byw Dyddiol (DLWG) ŵyn - o adeg geni i’w gwerthu
- cyfradd marwolaethau mamogiaid
Categorïau fferm gyfan
Amgylcheddol:
- km o wrychoedd sydd dros 30 oed
- km o wrychoedd sydd o dan 30 oed
- % math o goetir ar fferm
- dadansoddiad pridd safonol
- deunydd organig pridd a dadansoddiad carbon
- niferoedd pryfed genwair mewn priddoedd glaswelltir
- niferoedd pryfed genwair mewn priddoedd cnydau
- Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS)
- % o'r cynefin lled-naturiol ar y fferm
- % o gnydau gorchudd
Trosolwg o'r Fferm:
- elw fesul hectar (cyn rhent a chyllid)
- elw fesul hectar (cyn fent a chyllid) - math arall o fferm
- elw fesul awr a weithiwyd
- dadansoddiad cyfrannol o gyfrifon: % o'r trosiant a wariwyd ar gostau amrywiol
- llafur cyflogedig £/ha
- llafur cyflogedig £/ha - math arall o fferm
- pŵer a pheiriannau £/ha
- pŵer a pheiriannau £/ha - math arall o fferm
- atgyweirio / cynnal a chadw tir ac adeiladau £/ha
- atgyweirio / cynnal a chadw tir ac adeiladau £/ha - math arall o fferm
- dibrisiant peiriannau
- dibrisiant peiriannau - math arall o fferm
- dibrisiant adeiladau £/ha
- dibrisiant adeiladu £/ha - math arall o fferm
- cost newidynnau £/ha
- cost newidynnau £/ha - math arall o fferm
Porthiant:
- cost gwrtaith £/ha ar gyfer glaswellt ac india-corn
- cost chwistrellu £/ha
- elw gros porthiant llawn £/ha
- defnydd o nitrogen artiffisial kgN/ha ar borthiant
- tunelli cynhyrchu glaswellt pori (t)/ha
- cynnyrch indrawn t/ha
- cylchdroadau pori y flwyddyn
- hectarau o dan wyndonnydd llysieuol neu gnydau protein
Na, nid oes ap, fodd bynnag, mae'r offeryn yn dal i fod yn hygyrch o'ch ffôn symudol trwy ddilyn y ddolen o wefan Cyswllt Ffermio neu drwy glicio yma
Gallwch, mae'r offeryn yn gydnaws â phob maint sgrin gan gynnwys gliniaduron, llechi a ffonau symudol.
O fewn RPW Ar-lein, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod wedi'ch gosod yn y rôl gywir o fewn y busnes a bod y blwch 'DATAFFERM+' wedi'i dicio i ganiatáu mynediad at yr offeryn. Bydd angen i chi gysylltu â gweinyddwr One Login GOV.UK y busnes i osod hwn i chi. (gwiriwch a yw'n iawn i'w ddefnyddio gyda RPW)
Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) cwestiynau:
Y gofyniad ar gyfer Meincnodi gan ddefnyddio DATAFFERM+ yw cwblhau 2x DPA fesul sector ac 1x DPA fferm gyfan. Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am hyn yma.
Rhaid i bob busnes gwblhau o leiaf 3 DPA bob blwyddyn. Os nad ydych chi'n berchen ar neu’n cadw da byw neu'n tyfu cnydau, rhaid i chi gwblhau 3 DPA fferm gyfan.
Ar hyn o bryd, derbynnir yr holl DPAau o fewn yr offeryn ar gyfer Gweithdrefn Gyffredinol 3 o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'r rhestr o'r rhain i'w gweld yn Atodiad 3 o ddisgrifiad y cynllun.
Bydd angen cwblhau'r holl DPAau a'u cyflwyno i RPW drwy'r offeryn erbyn 31 Rhagfyr i gydymffurfio â chanllawiau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Na, dim ond y DPAau rydych chi'n dewis eu "Cyflwyno ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy" sy’n cael eu rhannu â RPW. Er nad oes uchafswm i'r nifer a gyflwynwyd, mae'n bwysig bod yr isafswm sy'n ofynnol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau o 31 Rhagfyr
Teitlau DPA, y dynodwyr DPA unigol a'r dyddiad cyflwyno yw'r unig wybodaeth a rennir gyda RPW, ni fydd unrhyw ddata a fewnbynnir gan ffermwyr eu hunain yn cael eu rhannu.
Gallwch gyflwyno cymaint o DPAau ag y dymunwch i RPW ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Unwaith rydych wedi cwblhau’r 2x DPA gofynnol fesul sector a 1x DPA fferm gyfan, bydd y dangosfwrdd SFS yn diweddaru ac yn dangos bod Gweithdrefn Gyffredinol 3 wedi’i chwblhau. Cofiwch, nid oes unrhyw ddata’n cael ei drosglwyddo, felly bydd teitl a dynodwyr unigryw’r DPAau rydych wedi’u cyflwyno yn aros y tu ôl i’r dangosfwrdd yn unig.