Cyngor arbenigol i wella perfformiad busnes a thechnegol
Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn darparu cyngor arbenigol annibynnol, cyfrinachol ac wedi’i deilwra ar gyfer Ffermwyr Cymru.
Ein nod yw sicrhau eich bod yn:
- elwa o gefnogaeth busnes a/neu gyngor technegol, wedi'i deilwra i anghenion eich busnes
- trawsnewid yn effeithiol i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd
- lleihau costau trwy gynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o'ch busnes
- meincnodi eich perfformiad ac yn gweithio tuag at gynnydd a thwf
- adnabod meysydd i wella a chanfod atebion i broblemau
Mae mwyafrif o'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio eisoes wedi'i chlustnodi ar gyfer y cyfnod presennol. O ganlyniad, mae ceisiadau newydd yn cael eu rhoi ar restr aros.
I drafod eich anghenion penodol ac i gael arweiniad ar y camau nesaf posibl, cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol.
Categories of advice eligible businesses can access through the Farming Connect Advisory Service.
The Advisory Service is delivered by 9 companies, selected and approved by Farming Connect.
Manteision y rhaglen:
- Wedi'i ariannu 80% hyd at uchafswm o £3000 am bob busnes cymwys i gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol. Mae Swyddogion Datblygu wrth law i gefnogi ffermwyr gyda'r broses ymgeisio.
- Cyngor un-i-un: wedi’i ariannu 80% hyd at uchafswm o £1600 am bob achos o gyngor
- Grwpiau Gweithredu Busnes a Thechnegol: wedi’i ariannu 80% hyd at uchafswm o £600 i bob aelod o’r grŵp. Gall rhwng tri ac wyth o fusnesau ymgeisio ar gyfer cyngor fel grŵp.
- Menter ar y cyd: wedi’i ariannu 100% hyd at uchafswm o £2000 i bob aelod o’r grŵp
Ydych chi’n barod i ymgeisio?
Cyn gwneud cais ar gyfer cyngor cynllunio busnes neu gyngor technegol sydd ar gael fel rhan o Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, bydd angen i chi:
- gofrestru gyda Cyswllt Ffermio - bydd angen i bob busnes sy’n gwneud cais ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori fod wedi derbyn e-bost neu lythyr gan Cyswllt Ffermio’n cadarnhau eu bod wedi cofrestru.
- wirio eich cymhwysedd ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori.
Categori | Cyfyngiadau gwasanaeth |
| Busnes ffermio sefydledig | Hyd at 80% o gyllid ar gael i gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol. Cyfyngedig i £3,000 fesul busnes cymwys |
| Systemau ffermio / garddwriaeth arbenigol o dan 3ha | Bydd hyd at 80% o gyllid ar gael i gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol, wedi’i gyfyngu i £3,000 fesul busnes cymwys |
| Newydd-ddyfodiaid Ffermwyr/garddwriaethwyr newydd, gyda'r hyfforddiant a'r profiad i sefydlu busnes fferm/garddwriaeth newydd. | Bydd hyd at 100% o gyllid ar gael fesul achos i gael mynediad at un enghraifft o gymorth ymgynghorol (Cynllunio Busnes) dros gyfnod y rhaglen. |
Cliciwch yma i weld y Meini Prawf Cymhwyster.
Ymgeisio a chymryd mantais o’r cyngor sydd ar gael trwy’r gwasanaeth cynghori
Ffurflen Gais Gwasanaeth Cynghori
YmgeisioI ymgeisio a chymryd mantais o’r cyngor sydd ar gael trwy’r gwasanaeth cynghori, cysylltwch â’ch Swyddog Datlygu lleol heddiw neu cysylltwch â ni ar:
03456 000 813 / cyswlltffermio@menterabusnes.co.uk / Facebook.com/FarmingConnect / @FarmingConnect
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Mae Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar agor rhwng 9am a 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ac eithrio wyliau cyhoeddus.