BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Porfa Cymru

Nod Prosiect Porfa Cymru, o dan y Rhwydwaith Ein Ffermydd, yw cefnogi ffermwyr Cymru drwy ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a chyfoes am y borfa - gan eich helpu i wneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus ynghylch rheoli glaswelltir ar eich fferm.

Rydym yn gweithio gyda ffermwyr ymroddedig ledled Cymru i gofnodi tueddiadau twf glaswellt go awn o ar y fferm yn ofalus. Anogir aelodau hefyd i gyflwyno samplau o laswellt ffres yn aml i ddadansoddi ei ansawdd yn ystod y tymor pori, gan helpu i ychwanegu hyd yn oed mwy o fanylion at y darlun cyffredinol.

 

porfa

Twf Glaswellt - Llaeth (kg DM/ha/day):

30/04/202659.3
07/05/202669.4
14/05/202673.2
21/05/202663.6
28/05/202680.9

 

Twf Glaswellt - Biff a Defaid (kg DM/ha/day):

30/04/202634.9
07/05/202647.3
14/05/202656.8
21/05/202641.6
28/05/202659.2

 

Rydym yn recriwtio ffermwyr i fod yn rhan o Brosiect Porfa Cymru!

  • Gwella perfformiad eich glaswelltir – beth am gael golwg fanylach yn rheolaidd i sut mae twf glaswellt eich fferm yn cymharu â systemau tebyg ledled Cymru.
  • Gwneud penderfyniadau gwell o ran pori – mae mesur yn wythnosol / bob pythefnos yn eich helpu i gadw ar y blaen â diffyg neu warged.
  • Cyfrannu at ddarlun Cymru gyfan o ran twf glaswellt – mae eich data’n helpu ffermwyr eraill i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus, yn enwedig yn ystod tymhorau anodd.
  • Cymorth gan dîm y prosiect – Mae cymorth ar gael i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau all fod gennych i ddatrys problemau.
  • Byddwch yn rhan o rwydwaith o ffermwyr blaengar – ymunwch â chymuned sy’n cydweithio i wella’r defnydd o borfa a phroffidioldeb yng Nghymru

Am ragor o wybodaeth am Brosiect Porfa Cymru 2026 a sut i gymryd rhan, cysylltwch â Heledd Dancer ar:heledd.dancer@mentera.cymru / 07852593541

 



Astudiaethau Achos

"Mae glaswellt yn yrrwr allweddol o ran elw’r busnes"

"Mae wedi lleihau ein bil gwrtaith £20,000 y flwyddyn"

"Mae’r fferm wedi cael ei thrawsnewid yn y pedair blynedd ers i mi gychwyn ar y daith hon"

"Po fwyaf y byddwch chi'n ei fesur, y mwyaf y byddwch chi'n deall"



I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.