Mae'r cynnwrf o amgylch cyfryngau cymdeithasol yn parhau i dyfu gyda busnesau yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol i godi ymwybyddiaeth a chynhyrchu arweiniad drwy fanteisio ar yr amrywiaeth o lwyfannau cymdeithasol sydd ar gael. Os ydych yn dymuno cynhyrchu arweiniad yn y farchnad Busnes i Fusnes, a ddim yn defnyddio LinkedIn i'w lawn botensial, gallech fod yn colli cyfle.
Mae LinkedIn yn gweithredu’r rhwydwaith proffesiynol mwyaf yn y byd ar-lein gyda mwy na 450 miliwn o aelodau mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau. Nid yw ei boblogrwydd yn pylu chwaith, gyda gweithwyr proffesiynol yn ymuno â LinkedIn ar gyfradd o fwy na dau aelod newydd yr eiliad.
Yn ôl ymchwil gan Forrester, LinkedIn yw'r rhwydwaith cymdeithasol a ddefnyddir fwyaf o blith 'rheini sy'n gwneud penderfyniadau'. P'un a ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rwydweithio, marchnata eich busnes, neu gynhyrchu arweiniad:
Gallai LinkedIn fod yr allwedd i lwyddiant busnes yn y farchnad B2B.
P'un a ydych newydd ddechrau ar rwydweithio cymdeithasol neu eisiau datblygu eich gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, dyma 4 rheswm cryf pam ddylech roi blaenoriaeth i LinkedIn fel llwyfan ar gyfer eich busnes!
Ffynhonnell newyddion ddibynadwy
Mae LinkedIn yn ffynhonnell newyddion, gwybodaeth a chyngor dibynadwy ymysg cymunedau proffesiynol. Mae'r ap symudol yn ei gwneud yn hawdd i gymudwyr dreulio amser yn ymwneud â chynnwys a rennir gan eu cysylltiadau a gan ddylanwadwyr allweddol yn eu rhwydweithiau. Drwy rannu, gwneud sylwadau ac ymgysylltu â chynnwys ar y llwyfan, gallwch ymwneud â gweithwyr proffesiynol tebyg i chi sydd â diddordebau cyffelyb a dechrau datblygu eich proffil o blith eich cynulleidfa darged a darpar arweiniadau.
Dim ots pa mor arbenigol, rhannwch eich arbenigedd!
Beth bynnag yw eich sgiliau neu arbenigedd, bydd cymuned o weithwyr proffesiynol â diddordeb i gael goleuni pellach a chyngor ar y pwnc. Mae LinkedIn yn darparu llwyfan perffaith i ddechrau datblygu eich awdurdod yn y maes trwy rannu cynnwys defnyddiol er mwyn ennyn diddordeb darpar arweiniadau. Gallwch gael cipolwg ar bwy sy'n ymgysylltu â’ch cynnwys a dechrau datblygu perthynas broffesiynol gyda'r bobl hyn.
Datblygu eich enw da fel arweinydd agweddau
Bydd rheoli proffil LinkedIn gweithredol ac ymgysylltiol a rhannu cynnwys perthnasol, gwerthfawr gydag eich rhwydwaith yn eich galluogi i ddechrau datblygu eich safle fel arweinydd agweddau ag enw da. Dyma dacteg cynhyrchu arweiniad gwych fel y gallwch ddatblygu eich awdurdod ymysg eich cyfoedion a darpar arweiniadau yn effeithiol tra eich bod hefyd yn hyrwyddo eich hun a'r busnes, yn gredadwy, dibynadwy a diogel. Mae enw da yn cyflawni gwyrthiau fel offeryn ‘ar dafod leferydd’ ymhlith marchnadoedd B2B.
Byddwch yn benodol pan fyddwch yn targedu eich cynulleidfa
Mae LinkedIn yn ei gwneud yn hawdd i chi dargedu pobl benodol, yn enwedig os ydych yn aelod Premiwm. Mae adnodd chwilio LinkedIn yn soffistigedig gyda gallu i broffilio er mwyn i chi dargedu’r gynulleidfa a ddymunir ac arweiniadau addawol. Gan mai LinkedIn yw’r prif lwyfan a ddefnyddir gan wneuthurwyr penderfyniadau, byddwch yn gallu dod o hyd a chysylltu gyda'r bobl a allai fod mewn sefyllfa allweddol i ymgysylltu â'ch busnes.
Os ydych yn dymuno datblygu eich proffil a chynhyrchu arweiniadau mewn marchnad B2B, gallai LinkedIn fod yn llwyfan perffaith i chi. Gwnewch y gorau o'ch proffil cymdeithasol drwy wrando, dadansoddi, rhannu, rhwydweithio a chysylltu, a gallech weld mwy o gyfleoedd i drosi a thwf mewn trosiant gwerthiant.