Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad â marchnad allforio Barcelona, Sbaen.
Pam Barcelona, Sbaen?
Mae Barcelona yn cael ei gydnabod fel un o brif ganolfannau economaidd Ewrop. Mae gan y ddinas ecosystemau Masnachol a Diwydiannol amrywiol iawn. Fel dinas borthladd, mae gan Barcelona hanes masnachu hir gyda chyfnewidfa stoc ffyniannus ac mae'n ganolfan fasnachol ac ariannol ryngwladol o bwys.
Mae Sbaen wedi'i lleoli yn Ne-orllewin Ewrop ac mae'n ffinio gyda Ffrainc a Phortiwgal. Mae'n un o'r marchnadoedd defnyddwyr mwyaf yn yr UE, a gyda poblogaeth o 46.4 miliwn, mae'n sylfaen defnyddwyr fawr i allforwyr y DU werthu iddi. Sbaen yw un o'r 10 partner masnachu mwyaf yn y DU. Mae galw am nwyddau a gwasanaethau o’r DU y gallai busnesau yn y DU sy'n bwriadu allforio elwa ohonynt.
Pam mynd ar Yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad.
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan.
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig.
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Mae’r gost yn £1,000. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 5 noson gyda brecwast
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Manylion Y Digwyddiad
Pryd – 20 – 25 Hydref 2024
Sectorau – Aml-sector
Ble - Barcelona, Sbaen
Trefn
20 Hydref – Gadael am Barcelona
21-25 Hydref – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Barcelona
25 Hydref – Dychwelyd i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y mwyaf o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn o £500.
Sylwch, os hoffech y cymorth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad â’r farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl 23 Awst 2024, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Awst 2024 (Teithio a chyfarfodydd wedi'u trefnu ymlaen llaw)
Y dyddiad cau ar gyfer cais yw 20 Medi 2024 (Teithio yn unig)
*Os ydych yn gymwys.